Chwech artist yn gobeithio ennill gwobr Artes Mundi

  • Cyhoeddwyd
Artes Mundi
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o waith sy'n cystadlu am y wobr eleni

Mae chwech o artistiaid ar draws y byd yn gobeithio ennill gwobr Artes Mundi eleni sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Mae hanes pobol ddu yn America a'r rhyfel rhwng Japan a China ymysg y gwaith sy'n cael ei arddangos.

Roedd 'na dros 700 o enwebiadau o 90 o wahanol wledydd a bydd gwobr o £40,000 i'r enillydd sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Mae Amgueddfa Cymru yn un o dri o leoliadau ar draws y brifddinas sy'n arddangos y gwaith.

Ond oherwydd y pandemig, roedd yr artistiaid methu ymweld â Chaerdydd.

"Mae'n wych croesawu'r ymwelwyr yn ôl a gweld nhw'n mwynhau," meddai Nia Williams o Amgueddfa Cymru.

"Ry'n ni'n ffodus mewn ffordd mae'r themâu yn Artes Mundi eleni yn themâu pwysig iawn i'r hyn ry'n ni di bod trwyddo.

"Mae'r amgylchedd yn dod trwyddo ac mae hawliau a chydraddoldeb fel themâu yn y gwaith i gyd. Felly gobeithio caiff y cyhoedd amser i feddwl ac ystyried wrth ddod i weld Artes Mundi."

Pynciau cysylltiedig