Mwy o arian i fusnesau sydd dal dan gyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o arian yn cael ei neilltuo ar gyfer busnesau yng Nghymru sy'n dal yn cael eu heffeithio gan y symud graddol at gyfyngiadau coronafeirws Lefel 1, medd y Gweinidog Economi.
Bydd busnesau'n cynnwys atyniadau dan do a lleoliadau priodas yn gymwys i hawlio taliadau pellach rhwng £875 a £5,000 "gan ddibynnu ar eu maint ac amgylchiadau".
Ychwanegodd Vaughan Gething y bydd yna ddatganiad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford cyn diwedd yr wythnos "ynghylch symudiad potensial llawn at Lefel Rhybudd 1" wrth i'r ystadegau diweddaraf ddangos mai amrywiolyn Delta sydd fwyaf cyffredin yng Nghymru erbyn hyn.
Rhybuddiodd Mr Gething hefyd bod yna "fygythiadau" i'r cymorth posib i fusnesau Cymru gan fod Llywodraeth y DU'n "mynnu gwneud yr holl benderfyniadau ynghylch cyllid wedi'r Undeb Ewropeaidd dros Gymru".
Cyfnod 'anodd a thrawmatig'
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun bod 315 o achosion o amrywiolyn Delta wedi eu cofnodi yng Nghymru - cynnydd o 131 - ac mai dyma'r amrywiolyn pennaf yma erbyn hyn.
"Er gwaethaf ein hymdrechion helaeth i leihau'r lledaeniad, rydym yn disgwyl mwy o achosion," meddai Mr Gething yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.
Mae heriau'r amrywiolyn, meddai, yn tanlinellu'r angen i lacio cyfyngiadau'r raddol trwy ailagor atyniadau a gweithgareddau awyr agored yn y lle cyntaf. Ond mae'n cydnabod bod y "15 mis diwethaf wedi bod yn anodd a thrawmatig" i fusnesau eraill a'u gweithwyr sydd "wedi gwneud aberthau personol anferthol i ddod drwyddi".
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi "troi pob carreg" i gefnogi busnesau Cymru gan neilltuo dros £2.5bn ar gyfer pecyn "sy'n adeiladu ar gefnogaeth Llywodraeth y DU, gyda mwy o geisiadau'n cael eu prosesu bob dydd".
"Ar y cyfan rydym wedi rhoi £400m ar ben cyfran Cymru o wariant Llywodraeth y DU ar gefnogaeth i fusnesau yn Lloegr," meddai Mr Gething, gan ddweud y byddai "cannoedd ar filoedd o swyddi" wedi eu colli fel arall.
Wrth gyhoeddi'r cymorth ychwanegol nawr ar gyfer busnesau fel atyniadau dan do a lleoliadau priodas, dywedodd: "Rydym yn disgwyl bod y busnesau yma eisoes wedi cyflwyno cais ar gyfer ein cyllid brys diweddaraf.
"Rydym nawr wedi estyn y dyddiad cau tan ddydd Mercher i sicrhau... digon o amser i gael eu ceisiadau i mewn."
Dywedodd Mr Gething bod "effaith y byd go iawn" trefn a fyddai'n caniatáu i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau cyllido dros Gymru wrth i gymhorthdal Ewropeaidd ddod i ben wedi Brexit yn "destun pryder dwfn", ac yn "fygythiad" i'r gwaith o deilwra cefnogaeth wrth adfer economi Cymru wedi'r pandemig.
Dylai Cymru, meddai, dderbyn "o leiaf £375m y flwyddyn" mewn grantiau newydd "i sicrhau nad yw Cymru geiniog yn dlotach".
"Golyga cynlluniau Llywodraeth y DU doriad cyllid a chanoli penderfyniadau yn Whitehall," meddai. "Byddai hynny'n rhoi diwedd ar dros 20 mlynedd o wneud penderfyniadau yn Nghymru mewn cysylltiad â rhoi cymorth i gymunedau a busnesau Cymreig."
Ychwanegodd: "Nid oes rhaid iddo fod fel hyn. Gall Llywodraeth y DU ddod â'r gwrthdaro diangen yma i ben, parchu datganoli yng Nghymru a rhoi diwedd ar y cynlluniau hyn.
"Gallen nhw ddod â'r ddadl yma i ben heddiw trwy warantu y bydd yr arian yma'n cael ei ddarparu i Gymru gyda phenderfyniadau ynghylch ei ddefnyddio yn cael eu gwneud yng Nghymru.
"Penderfynodd pobl Cymru mewn sawl refferendwm ac etholiad ble ddylid gwneud y penderfyniadau hyn. Dyw pobl Cymru heb rhoi mandad i Lywodraeth y DU gymryd arian a phenderfyniadau o Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021