Y tir yn symud

  • Cyhoeddwyd

Mae darogan ynghylch gwleidyddiaeth yr ynysoedd yma wedi mynd yn anoddach gyda threigl y blynyddoedd ac, erbyn hyn, does bron dim byd yn llwyddo i fy synnu wrth i ôl-effeithiau'r refferendwm Ewropeaidd ddal i olchi trwy'r system.

Cymerwch ddwy enghraifft wnaeth ddigwydd dros nos.

Y gyntaf oedd diorseddu Edwin Poots fel arweinydd y DUP llai na mis ar ôl ei ethol yn y bennod ddiweddaraf mewn opera sebon gwleidyddol sydd yn dwyn gwawd ac anfri ar y blaid.

Gallwn ddadlau ynghylch p'un ai cefnogi Brexit yn y refferendwm neu gredu Boris Johnson ynghylch masnach rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y deyrnas sydd wrth wraidd problemau'r blaid ond mae'n ddigon posib bod crib plaid Ian Paisley wedi ei dorri'n barhaol.

Os felly mae dyfodol y dalaith yn edrych y hynod ansicr. Gyda'r DUP ar chwâl ac etholiadau Stormont i'w cynnal flwyddyn nesaf mae'n ddigon posib taw Sinn Fein fydd blaid fwyaf y dalaith o fewn byr o dro.

Os ydy hynny'n digwydd mae'n anodd credu y byddai'r unoliaethwyr yn caniatáu i strwythurau datganoledig Cytundeb Gwener y Groglith barhau a heb eu cydsyniad hwythau dyn a ŵyr beth fyddai'n digwydd.

Yr ochr yma i'r dŵr enillodd y Democrat Rhyddfrydol Sarah Green isetholiad Chesham and Amersham.

Wrth fynd heibio mae'n wrth nodi bod yr aelod seneddol newydd wedi ymgeisio yn Arfon ac Ynys Môn yn y gorffennol ac mae ei hethol yn cynnal cysylltiad rhwng yr etholaeth - oedd arfer cael ei chynrychioli gan gyn-ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan - a Chymru.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill llwyth o seddi tebyg mewn isetholiad o'r blaen. Off top fy mhen gallaf enwi Sutton and Cheam, Newbury, Christchurch ac Eastbourne ac, unwaith yn rhagor, profodd y blaid ei gallu fel 'shapeshifters' ein gwleidyddiaeth ni gyda Ms Green yn gwrthwynebu HS2 yn groes i bolisi cenedlaethol ei phlaid.

Ar ôl dweud hynny mae'r canlyniad yn awgrymu bod teyrngarwch at blaid yn perthyn i'r gorffennol bellach boed hynny yn y wal goch neu'r wal las.

Cwsmeriaid yn chwilio am y fargen orau yw'r rhan fwyaf o bleidleiswyr erbyn hyn ac mewn system gyntaf i'r felin gallai hynny arwain at gyfnod hynod o ansefydlog yn etholiadol.

Ydy, mae mwyafrif y Ceidwadwyr y San Steffan yn fawr ond mae'n ddigon posib taw tŷ ar y tywod nid tŷ ar y graig yw Tŷ'r Cyffredin bellach.

Pynciau cysylltiedig