Euro 2020: Cymru'n ysu am fuddugoliaeth yn erbyn Twrci
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n herio Twrci yn eu hail gêm yn Euro 2020 ddydd Mercher, gan wybod y byddai buddugoliaeth yn debyg o fod yn ddigon i'w gweld yn mynd trwodd i rownd yr 16 olaf.
Cafodd Cymru gêm gyfartal galonogol 1-1 yn erbyn Y Swistir yn eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth ddydd Sadwrn, a bydd carfan Robert Page yn awyddus i adeiladu ar hynny ddydd Mercher.
Bydd Twrci yn awyddus i gael gwell perfformiad, wedi iddyn nhw gael cweir o 3-0 gan y ffefrynnau i orffen ar frig y grŵp, Yr Eidal.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Olympaidd Baku am 17:00 brynhawn Mercher, a bydd modd dilyn y cyfan ar lif byw BBC Cymru Fyw.
'Gêm gartref' i Dwrci
Mae disgwyl hyd at 35,000 o gefnogwyr yn y stadiwm - y mwyafrif llethol o'r rheiny yn gefnogwyr Twrci, a dim ond ychydig gannoedd o Gymry.
Mae rhai hyd yn oed wedi disgrifio'r gêm fel gêm gartref i Dwrci, cymaint fydd y gefnogaeth iddynt yn Baku.
Wedi'r gêm yn Baku fe fydd y garfan yn teithio i Rufain i herio'r Eidal yng ngêm ola'r grŵp ddydd Sul.
Gyda'r gêm anodd honno i ddod, bydd Cymru'n ysu am fuddugoliaeth yn erbyn Twrci.
Mae'n debygol y byddai pedwar pwynt yn ddigon i Gymru fynd trwodd i rownd yr 16 olaf, boed hynny fel ail neu drydydd yn y grŵp.
Ond mae'r rheolwr wedi gwadu bod hon yn gêm y mae'n rhaid i Gymru ei hennill.
"Mae 'na gêm arall ar ôl - oll allwn ni ei wneud ydy cymryd pob gêm pan ddaw," meddai Page.
"Fe fyddan nhw [Twrci] yn targedu triphwynt o'r gêm yma. Rydyn ni'n barod am hynny.
"Dydy pethau ddim wastad am y perfformiad. Weithiau mewn pencampwriaeth mae angen i chi ffeindio ffordd i ennill. Rydyn ni wedi dangos ein bod yn gallu gwneud hynny a dangos gwytnwch.
"Rydyn ni hefyd wedi targedu'r gêm yma fel un y gallwn ni wneud yn dda ynddi, a bydd hynny'n ei gwneud hi'n gêm dda."
Mae amddiffynnwr Cymru, Joe Rodon wedi dweud bod Cymru'n disgwyl ymateb gan Dwrci yn dilyn eu colled nos Wener, yn enwedig o ystyried y gefnogaeth fydd ganddyn nhw yn y stadiwm.
"Yr ymateb naturiol yn dilyn colled ydy dod allan yn brwydro yn y gêm nesaf, ac mae'n rhaid i ni fod yn barod am hynny," meddai.
"Ond mae hi yr un peth i ni, 'dyn ni eisiau ennill hefyd. Mae hi am fod yn gêm anodd ond 'dyn ni'n edrych ymlaen at yr her."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021