Euro 2020: 'Sawl gwers i'w dysgu cyn wynebu Twrci'
- Cyhoeddwyd

Kieffer Moore yn codi calon y Cymry wedi 73 munud yn erbyn Y Swistir
Mae sawl gwers i'w dysgu o'r gêm gyfartal yn erbyn y Swistir yn ôl cyn-gapten Cymru, Ashley Williams.
"Roeddwn i'n fwy nerfus yn gwylio Cymru ddydd Sadwrn nag oeddwn i yn chwarae yn yr Euros yn 2016!," meddai.
"Yn amddiffynnol roedd Cymru yn gwneud yn hynod o dda, a rydym wedi hen arfer gwneud hynny - caniatáu i dimau ddod atom ni, amddiffyn yn dda, ac yna gollwng Aaron Ramsey neu Gareth Bale yn gyflym a sgorio.
"Ond yn y gêm yn erbyn Y Swistir, er fod yr amddiffyn yn gadarn, unwaith roedden ni wedi cael y bêl roedd y pasio'n wallus, ac roedd y bêl yr oedd Kieffer Moore yn ei chael yn anodd iddo ei thrin a'i dal yn ddigon hir i chwaraewyr eraill ddod yn gymorth iddo.
"Rhaid i Gymru gadw'r bêl yn well a phasio'n gywirach gan chwarae ymhellach i mewn i dir Twrci os am weld llwyddiant nos Fercher."

'Gall y Cymru fod yn hyderus yn mynd mewn i'r gêm,' medd Gwennan Harries
Dywed Gwennan Harries, cyn-ymosodwr Cymru, bod y Cymry yn fuan wedi'r gêm yn siŵr o fod wedi "edrych ar sut oedd Twrci wedi chwarae yn erbyn Yr Eidal a meddwl sut ro'n nhw'n gallu rhoi cryfderau nhw lan yn erbyn gwendidau Twrci.
"Fi'n siŵr y byddan nhw'n hyderus yn mynd mewn i'r gêm yn erbyn Twrci, ond wedi dweud hynna bydd Twrci yn chwarae gêm fwy agored achos bod angen iddyn nhw ddod allan a chael buddugoliaeth."
Ben Davies: 'Ma wastad bach o banig pan ma'n rhaid iddo fynd i VAR'
Wrth roi ei sylwadau ar y gêm dywedodd amddiffynnwr Cymru, Ben Davies, bod wastad bach o banig pan mae'n rhaid dibynnu ar dechnoleg VAR ond ei fod yn dawel hyderus nad oedd ail gôl bosib Y Swistir yn un llwyddiannus.

Cyn-gapten Cymru, Ashley Williams
Roedd Ashley Williams yn bryderus ynghylch ambell beth yn yr amddiffyn yn ogystal.
"Mae angen gwell trefn wrth amddiffyn cic gornel," ychwanegodd.
Fe sgoriodd Y Swistir o gic gornel ac mae'r cyn-gapten yn amheus a oedd y chwaraewyr mwyaf addas yn marcio pob chwaraewr.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Ar sawl gic gornel roedd chwaraewyr cymharol fychan yn marcio chwaraewyr llawer mwy a chryfach. Roedd Breel Embolo yn rhy gryf i Connor Roberts, ac ar adegau eraill Joe Allen oedd yn ei warchod.
"Fe gafodd Y Swistir naw gic gornel a rhaid i'r trefniadau amddiffyn fod yn well," yn ôl Ashley Williams.
"Elfen arall anodd yn yr amddiffyn oedd pa mor ddwfn yr oedd Allen a Joe Morrell yn chwarae.
"Tra bod Xherdan Shaqiri ar y maes, roeddynt yn chwarae yn agos at y pedwar yn y cefn, er mwyn gwarchod yr amddiffyn, a dim ond ar ôl i Shaqiri adael y maes y gwelwyd y ddau yn mentro'n uwch ar y cae - dyma hefyd pryd y caniatawyd i hyder Embolo dyfu.
"Rhaid peidio gadael i Twrci wneud dim byd tebyg."

Y tîm yn siarad wedi'r gêm ddydd Sadwrn
Nid oes amheuaeth ym meddwl Ashley Williams yng nghylch rhoi lle i Kieffer Moore - ef yw'r enw cyntaf i'w enwi yn y tîm, yn ôl y cyn-amddiffynnwr.
"Dydw i ddim yn credu ei fod yn cael y clod mae e'n ei haeddu, mae'n chwaraewr da iawn, mae'n gyflym, yn glyfar ac yn gallu ergydio gyda'r ddwy droed heb sôn am ei ddawn gyda'i ben fel y gwelson ni yn ei gôl ddydd Sadwrn.
"Gall Cymru chwarae yn llawer iawn gwell na'r hyn a welwyd yn Baku ddydd Sadwrn, ond rhaid cofio am ysbryd y tîm - mynd i lawr o un gôl ond gweithio'n galed i ddod nôl i'r gêm.
"Rydw i'n hyderus y gall y tîm wneud yn well, ac ar ben hynny mae gan Robert Page gymaint mwy o bosibiliadau yn ei sgwad nag oedd gennym yn 2016."
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Twrci am 17:00 o'r gloch ddydd Mercher ein hamser ni ac yna fe fyddant yn teithio i Rufain i wynebu'r Eidal ddydd Sul, 20 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021