Cadarnhau clystyrau Covid ymhlith pobl ifanc yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysgol Uwchradd DinbychFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd Dinbych yn un o'r ysgolion sydd wedi eu cysylltu gyda'r clystyrau

Mae pennaeth tîm sy'n ymchwilio i gynnydd mewn achosion coronafeirws ymhlith pobl yn eu harddegau yn y gogledd wedi cadarnhau eu bod yn cael eu trin fel clystyrau o'r amrywiolyn Delta.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych bod yna 25 o "achosion cysylltiedig" sydd "wedi'u cysylltu â nifer o bobl yn ymgynnull ac mae achosion yn cael eu nodi mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys ysgolion".

Dywed y cyngor nad yw pob un o'r achosion wedi'u cadarnhau fel achos o amrywiolyn Delta ond bod "cyfanswm o 428 o ddisgyblion yn hunan-ynysu" am 14 diwrnod o dair o ysgolion y sir.

Yr ysgolion yw Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Santes Ffraid, sydd hefyd yn Ninbych.

Osgoi ymgynnull

Daeth i'r amlwg ddydd Gwener bod yna 10 achos cysylltiedig o'r feirws, ac roedd y cyfanswm wedi codi i 25 erbyn dydd Llun.

Dywed cadeirydd Tîm Rheoli Digwyddiad y sir, Nicola Stubbins: "Nid yw pob achos wedi'i gadarnhau fel amrywiolyn Delta, ond y straen yw'r amrywiolyn amlycaf yn y DU ac rydym yn trin y profion positif cysylltiedig hyn fel amrywiolyn Delta.

"Mae'r amrywiolyn Delta yn fwy trosglwyddadwy, a glynu wrth y canllawiau yw'r ffordd orau o arafu ei ledaeniad o fewn ein cymunedau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Mae ymddangosiad yr achosion newydd hyn yn ein hatgoffa na ddylem fod yn hunanfodlon, hyd yn oed wrth i gyfraddau'r feirws ledled Cymru aros yn isel.

"Mae'n hanfodol nad yw preswylwyr yn ymgynnull gyda phobl eraill, sy'n mynd yn groes i ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru."

Dywedodd Ms Stubbins fod angen i bobl barhau i "fod yn wyliadwrus" a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do a chadw pellter cymdeithasol.

Symptomau

Mae ymholiadau'n parhau, meddai, ac mae disgwyl canlyniadau profion pellach.

Gofynnir i unrhyw sy'n sydd â symptomau drefnu prawf mor fuan â phosib, ac i bobl sydd heb symptomau drefnu profion llif unffordd rheolaidd gartref.

Mae rhestr ehangach o symptomau wedi eu cyhoeddi yn sgil amrywiolyn Delta gan gynnwys:

  • symptomau tebyg i ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr hysbys;

  • poen yn y cyhyrau;

  • blinder mawr;

  • cur pen parhaus;

  • trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi blocio;

  • tisian parhaus;

  • dolur gwddf neu grygni;

  • diffyg anadl neu wichian ar y frest;

  • teimlo'n sâl yn gyffredinol.

Mae yna safle profi ychwanegol erbyn hyn yng Nghaledfryn yn Ninbych, ar ben y canolfannau oedd eisoes ar waith yn Y Rhyl a Llangollen, ond mae angen archebu lle o flaen llaw.