'Colli annibyniaeth' yn sgil rhestr aros hir y GIG

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dianne GillFfynhonnell y llun, Dianne Gill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dianne Gill yn dibynnu ar bobl eraill i deithio ers colli'r hawl i yrru

Mae cyn-athrawes gafodd ei gorfodi i roi'r gorau i yrru ar ôl prawf llygaid, yn honni bod rhestrau aros hir y gwasanaeth iechyd wedi golygu iddi golli ei hannibyniaeth.

Fis Ebrill roedd 65,000 o bobl yng Nghymru oedd mewn perygl o golli eu golwg yn aros am apwyntiad allanol.

Mae Dianne Gill, sydd â diabetes Math 1, yn credu y byddai wedi gallu parhau i yrru pe na bai wedi gorfod aros 11 mis am apwyntiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymdrechu i leihau rhestrau aros.

Dan dargedau Llywodraeth Cymru, mae'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o fynd yn ddall i fod i gael eu gweld o fewn cyfnod dim hwyrach na 25% heibio'r targed ar gyfer eu hapwyntiad nesaf.

Mae hynny'n golygu y dylai claf sy'n cael amser aros o wyth wythnos, gael eu gweld o fewn 10 wythnos ar y mwyaf.

Serch hynny, mae ffigyrau diweddaraf mis Ebrill yn dangos nad oedd yr un o fyrddau iechyd Cymru wedi cyrraedd y targed o 95%, gyda 65,000 o gleifion yn aros yn rhy hir, a rhestrau aros yn tyfu oherwydd y pandemig.

Yn Ebrill 2021, roedd 54.7% o'r cleifion mwyaf mewn perygl o golli'u golwg wedi aros yn rhy hir am apwyntiadau. 35.8% oedd y ganran ym mis Ebrill 2019, cyn i Covid daro.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen i Ms Gill gael prawf llygaid wrth adnewyddu ei thrwydded yrru bob tair blynedd

'Roedd gyrru'n bwysig i mi'

Bob dydd Gwener, roedd Ms Gill yn gyrru'r siwrne fer o'i chartref i fynd i nofio yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.

Ond ar ôl methu prawf llygaid, bu'n rhaid i'r cyn-athrawes technoleg roi'r gorau ar hynny - a'i swydd fel goruchwyliwr arholiadau ar ôl colli ei thrwydded yrru.

"Roedd gyrru'n bwysig yn fy mywyd, roeddwn ni wastad yn mynd i rywle," meddai. "Roeddwn ni'n gwneud yr hyn ro'n i mo'yn pryd ro'n i mo'yn. Rwy'n berson cymdeithasol iawn ac wedi colli hynna i gyd."

Fe gafodd Ms Gill ddiagnosis diabetes Math 1 yn 22 oed, ac yn sgil hynny, mae hi wedi gorfod adnewyddu ei thrwydded yrru bob tair blynedd. Fe fethodd y prawf yn 2019 ar ôl methu darllen rhif cofrestru plât car.

Ffynhonnell y llun, Dianne Gill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Gill yn poeni bod cyflyrau iechyd miloedd o bobl eraill yn gwaethygu wrth i restrau aros gynyddu

Mae ganddi retinopathi, sy'n niweidio'r bibell waed yng nghefn y llygaid, ac mae meddygon wedi dweud bod angen iddi gael prawf bob pedwar mis.

Ond mae'r apwyntiadau hynny, meddai, yn cael eu gohirio'n aml, ac o ganlyniad ni welodd ymgynghorydd yn yr ysbyty lleol rhwng Rhagfyr 2018 a Thachwedd 2019.

Mae hi'n credu pe bai wedi ei gweld yn gynt y gallai fod wedi cael triniaeth ac y gallai'r niwed i'w golwg fod wedi ei atal gan ganiatáu iddi barhau i yrru.

A hithau'n byw mewn ardal wledig, mae'n dweud ei bod bellach yn dibynnu ar ffrindiau a theulu i fynd â hi i lefydd.

Mae hi'n aelod o'r Grŵp Diabetes Cymru Gyfan ac yn poeni y gallai'r sefyllfa waethygu i filoedd o bobl eraill wrth i restrau aros gynyddu oherwydd y pandemig.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ble dywed Ms Gill iddi gael gofal gwych gan feddygon, roedd 57% o gleifion oedd mewn perygl o golli eu golwg yn aros yn rhy hir ym mis Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna alw am arian brys i leihau amseroedd i aros i gleifion â chyflyrau sy'n effeithio ar y llygaid

Dywedodd Ansley Workman, cyfarwyddwr RNIB Cymru bod cynnydd yn nifer yr apwyntiadau sy'n cael eu canslo neu eu gohirio i bobl mewn perygl o fynd yn ddall yn "bryderus iawn."

Mae'n galw ar y byrddau iechyd i gyfathrebu'n well gyda chleifion ynghylch pryd y gallan nhw ddisgwyl apwyntiad, a phwy gall eu helpu a'u cefnogi.

"Mae cleifion yn aros, ac oherwydd hynny fe allan nhw fod mewn perygl o golli eu golwg heb fod angen," dywedodd.

Dywed Ms Workman bod angen i Lywodraeth Cymru nid yn unig addo arian, ond i ariannu newidiadau ar frys i'r gwasanaethau llygaid er mwyn lleihau rhestrau aros.

'Blaenoriaethu gwasanaethau'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau llygaid brys a hanfodol wedi parhau drwy'r pandemig, ond bod byrddau iechyd yn blaenoriaethu cleifion gyda'r angen clinigol mwyaf wrth ail-ddechrau cynnig apwyntiadau arferol.

Cyhoeddodd yn ddiweddar y bydd yna £100m yn ychwanegol at leihau rhestrau aros.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r GIG er mwyn deall pa ofynion ychwanegol sy'n angenrheidiol i gefnogi'r gwasanaeth gofal llygaid yn y dyfodol," meddai llefarydd.

"Dylai unrhyw un sy'n poeni ynghylch iechyd eu llygaid gysylltu gydag optometrydd, a fydd yn gallu rhoi'r cyngor priodol ac archwilio'r rhai sydd angen gofal ar frys.

"Mae byrddau iechyd hefyd wedi sefydlu llinellau cymorth os yw pobl yn teimlo bod eu cyflyrau wedi newid."