GIG dan 'bwysau sylweddol' gyda 600,000 ar restr aros
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth GIG Cymru wedi rhybuddio bod y system o dan "bwysau sylweddol" wrth i wasanaethau geisio dychwelyd i'w lefel arferol.
Dywedodd Dr Andrew Goodall fod yr angen i barhau â mesurau diogelwch Covid-19 yn golygu bod "cyfuniad anodd" o ffactorau yn rhoi straen.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd fore Iau yn dangos bod nifer y rhai sydd ar restrau aros wedi codi eto wrth i nifer cynyddol o bobl aros am driniaethau nad oedd yn gallu digwydd yn ystod cyfnod y pandemig.
Mae'r data ar gyfer mis Ebrill yn dangos bod 595,272 ar restrau aros yng Nghymru - mae hyn yn uwch na'r mis blaenorol ac yn 29% yn uwch na'r cyfnod cyn Covid-19.
Yn y cyfamser mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 2,813 o bobl wedi mynd i adrannau brys ysbytai yn ystod mis Mai.
Mae hyn 53 o ymweliadau yn fwy ar gyfartaledd nag yn ystod mis Ebrill ac 890 yn fwy nag yn ystod yr un mis yn ystod ton gyntaf Covid yn Ebrill 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fyrddau iechyd fod yn arloesol wrth fynd i'r afael ag amseroedd aros, ond mae un grŵp o feddygon wedi galw am ad-drefnu radical i wasanaethau Cymreig.
Dangosodd data ar gyfer mis Mawrth fod 568,367 o bobl ar restrau aros yn ystod y mis hwnnw, ac roedd hynny yn gynnydd 24.4% ar yr un amser y llynedd.
Dywedodd Dr Goodall fod presenoldeb cleifion mewn adrannau brys wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig, a bod un bwrdd iechyd wedi cael ei ddiwrnod prysuraf erioed ar gyfer cleifion mewn uned achosion brys ddydd Llun.
Mae triniaethau ysbyty sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw bellach wedi cyrraedd 70% o'r lefelau arferol.
Ond mae'r angen i barhau â mesurau diogelwch Covid-19 mewn ysbytai yn ychwanegu pwysau.
Dywedodd Dr Goodall: "Mae'n bwysau sylweddol, rwy'n credu ei fod yn sylweddol am wahanol resymau.
"Mae staff y GIG eisiau sicrhau ein bod yn gallu cefnogi ein cleifion ledled Cymru, a sicrhau eu bod yn gallu cael eu gweld o fewn y lefel briodol ac yn derbyn y gwasanaethau cywir.
"Ond maen nhw'n gorfod cydbwyso'r twf mewn pwysau brys sydd yn ôl i lefelau arferol. Maen nhw dal yn gorfod amddiffyn staff a chleifion sy'n gweithio o'u cwmpas [rhag dal Covid-19].
"A rhain ydy'r un staff sydd wedi bod yno drwy'r pandemig, sy'n gorfod canolbwyntio ar y gwasanaethau newydd hefyd.
"Felly mae hynny'n gyfuniad anodd iawn. Dyma pam y bydd rhywfaint o'r buddsoddiad sy'n dod i mewn yn ein helpu i ddod i benderfyniadau am y dyfodol.
"Mae'n un rheswm pam fy mod i eisiau i'r GIG adeiladu ar ben rhai o'r sylfeini hynny sydd ar waith ar gyfer gweithio'n wahanol."
'Arloesi i leihau pwysau'
Gofynnwyd i fyrddau iechyd ddyfeisio ffyrdd arloesol o ddelio â'r amseroedd aros, ac mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £100m cychwynnol i geisio lleihau rhestrau aros.
Mae cynlluniau peilot wedi cychwyn mewn rhai ardaloedd i leihau amseroedd aros, neu wella ansawdd bywyd y rhai a fydd yn parhau i wynebu'r oedi hiraf.
Mae timau llawfeddygol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn amseroedd aros i gleifion sy'n cael eu cyfeirio am driniaeth frys ar ôl ymweld ag adrannau achosion brys neu feddyg teulu.
Lansiwyd yr Uned Lawfeddygol Brys Symudol yn yr ysbyty cyn y pandemig i ganiatáu i gleifion gael eu hasesu, i gael diagnosis a'u trin - yn aml ar yr un diwrnod.
Nid oes angen i dimau meddygol eraill eu gweld.
Roedd y model mor effeithlon fel ei fod wedi'i ehangu i dderbyniadau meddygol brys, a bydd yn cael ei weithredu ar gyfer derbyniadau gynaecoleg brys o 1 Gorffennaf.
Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol Simon Weaver: "Y fantais sydd gennym yw y gallwn nawr roi apwyntiadau penodol i gleifion fel nad ydyn nhw i gyd yn cyrraedd yma gyda'i gilydd.
"Os oes rhywun angen sgan uwchsain, gallwn drafod hyn gyda'n meddygon teulu a gallwn gael y cleifion i ddod i mewn a chael eu gweld gan ymgynghorydd hanner awr cyn apwyntiad sgan.
"Maen nhw'n mynd, yn cael eu sgan, yn dod yn ôl ac yn cael eu diagnosis. Mae hyn yn golygu bod yr amser yn yr ysbyty yn llawer llai."
Dywedodd Dr Weaver eu bod yn llwyddo i weld a thrin tua 80% o'u cleifion o fewn tair awr, o'i gymharu â 30% o fewn yr un amser cyn i'r uned gael ei sefydlu.
"Mor ofnadwy ag y bu'r pandemig hwn i bob un ohonom, mae'n rhaid i ni gymryd hwn fel cyfle i ailgychwyn yr NHS," meddai.
'Angen ailfeddwl radical'
Er y bydd arloesi lleol yn helpu i leihau pwysau, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn galw am "ailfeddwl radical" a chreu canolfannau heb Covid i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Dywedodd Richard Johnson, cyfarwyddwr y coleg yng Nghymru: "Bellach mae 'na frys i ddatblygu'r safleoedd hyn a chael ailfeddwl radical ynghylch sut mae'r GIG yn gweithio yng Nghymru.
"Rydym am i'r safleoedd hyn i gynnig triniaethau sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw.
"Nid ydym yn siarad am safleoedd newydd, rydym yn sôn am ad-drefnu'r safleoedd sydd gennym yng Nghymru eisoes."
Dywedodd Mr Johnson fod arolwg y Coleg Brenhinol wedi canfod bod cleifion yn barod i deithio er mwyn cael eu trin mewn canolfannau newydd ledled Cymru.
A dywedodd bod angen "trafodaeth agored a gonest" ynglŷn â goblygiadau peidio â newid y ffordd y mae ysbytai'n cael eu trefnu ar hyn o bryd.
Mewn ymateb dywedodd Dr Andrew Goodall fod llawer o newidiadau wedi'u cyflwyno eisoes, gan gynnwys mwy o ddefnydd o dechnoleg wrth gysylltu cleifion â meddygon.
Dywedodd ei bod yn "anochel y bydd yn rhaid i ni gael mwy o atebion rhanbarthol, gyda byrddau iechyd yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i gyflawni hynny".
Sefyllfa'r amrywiolyn Delta
Mae achosion o'r amrywiolyn Delta o'r feirws yn parhau i fod yn gymharol isel yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.
Dywedodd Dr Goodall y byddai'r ddwy i bedair wythnos nesaf yn hanfodol wrth asesu os ydy cynnydd pellach mewn achosion yng Nghymru yn mynd i arwain at gynnydd mewn cleifion mewn ysbytai.
"Mae'r niferoedd sy'n gysylltiedig ag amrywiad Delta yn parhau i fod yn isel iawn yng Nghymru o safbwynt ein hysbytai, er bod cynnydd o ran achosion cymunedol, felly rydyn ni'n cadw golwg ar y sefyllfa yn ofalus iawn," meddai.
"Ond mae yn anochel bydd rhywfaint o effaith yng Nghymru, a dyna pam bod Prif Weinidog Cymru a'r cabinet wedi gwneud penderfyniadau i ohirio rywfaint o lacio cyfyngiadau yn gynharach ystod y mis hwn, oherwydd ei fod am ganiatáu i fwy o'r boblogaeth gael eu brechu, a bydd hynny yn darparu lefel uwch o ddiogelwch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021