Euro 2020: Cymru i herio'r Eidal yn llawn hyder

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr arwyr mewn melyn yn mynd draw i ddathlu efo'r cefnogwyr ar ôl trechu Twrci

Bydd Cymru'n herio'r Eidal yn Rhufain yn ddiweddarach ddydd Sul gan wybod bod eu lle yn rownd nesaf Euro 2020 eisoes yn saff - fwy neu lai.

Mae'r fuddugoliaeth wych yn erbyn Twrci nos Fercher wedi rhoi Cymru mewn safle cryf, gyda phedwar pwynt o'u dwy gêm agoriadol.

Da o beth felly, o ystyried record yr Eidalwyr yn Rhufain, nad oes pwysau gormodol ar dîm Rob Page yn y brifddinas.

Mae tîm Roberto Mancini wedi ennill eu dwy gêm nhw - hefyd yn erbyn Twrci a'r Swistir - o 3-0.

Her anodd

Dyw'r Azzurri heb golli mewn 29 o gemau ac heb ildio gôl mewn 10 gêm, bron i 1,000 o funudau, ac wedi sgorio 31 yn y cyfnod yna.

Y tro diwethaf i'r Eidal golli gêm oedd Medi 2018. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n un o'r ceffylau blaen yn y gystadleuaeth, ac fe fydd hi'n dalcen caled i Gymru.

"Hyd yn oed oes oedd y record yna ddim yna, mae'r Eidal yn wlad bel-droed enfawr ac mae hynny wastad yn gwneud gemau'n anoddach," meddai capten Cymru, Gareth Bale.

"Bydd e'n ganlyniad grêt os ydyn ni'n ennill. Rydyn ni'n mynd yna i ennill - dydyn ni byth yn mynd i mewn i gêm yn chwilio am gêm gyfartal.

"Mae ganddon ni gynllun ar gyfer ceisio'u brifo nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eidal wedi sgorio chwe gôl heb ildio'r un yn Euro 2020 hyd yma

Mae Cymru'n paratoi am gêm "hyd yn oed mwy anodd" na'r ddwy ornest gyntaf yn Euro 2020, pan fyddan nhw'n wynebu'r Eidal, yn ôl y chwaraewr canol cae Joe Allen.

Bydd enillydd y gêm yn Rhufain yn gorffen ar frig Grŵp A, ond dywedodd Allen bod y garfan "ddim yn edrych ymlaen gormod", ac yn hytrach yn "cymryd pob gêm fel maen nhw'n dod".

Disgrifiad,

Joe Allen yn barod am 'gêm anoddaf' Cymru hyd yma

Pwy bynnag sy'n gorffen yn ail yng Ngrŵp C - Awstria neu'r Wcráin fwy na thebyg - fyddai gwrthwynebwyr Cymru yn Llundain os ydyn nhw'n gorffen ar frig Grŵp A, gyda'r ddwy rownd gynderfynol yn ogystal â rownd derfynol Euro 2020 hefyd i'w chwarae yn Wembley.

Ac yn ôl Bale, mae hynny'n rheswm arall i anelu at drechu'r Eidal ac ennill y grŵp.

"Byddai cael cefnogwyr Cymru i allu dod i'n gwylio ni yn bendant yn rhywbeth fydden ni eisiau gweld," meddai.

Cynghorodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Llywodraeth Cymru yn erbyn teithio i Baku gan fod Azerbaijan ar restr teithio oren Llywodraeth y DU.

Ond fe wnaeth cannoedd o gefnogwyr y daith honno beth bynnag, ac mae disgwyl i nifer tebyg fod yn Rhufain hefyd ar gyfer yr ornest ddydd Sul.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey yn chwarae ei bêl-droed gydag Juventus yn Yr Eidal

Mae'r Eidal, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cyfnod cwarantin o bum diwrnod a phrofion gorfodol i unrhyw deithiwr o Brydain sy'n ymweld â'r wlad.

Yn y cyhoeddiad gwreiddiol, roedd y mesurau newydd yn dod i rym ddydd Sadwrn - ddiwrnod cyn i Gymru wynebu'r Eidal yn rowndiau terfynol Euro 2020 yn Rhufain.

Byddai hynny wedi golygu fod cefnogwyr Cymru oedd yn cyrraedd yr Eidal ar ôl hanner nos ddim yn gallu mynd i weld y gêm nos Sul.

Ond yn gyflym iawn fe gafodd y cyhoeddiad ei newid, a bydd y mesurau nawr ddim yn dod i rym tan ddydd Llun.

Mae rhai ffynonellau wedi awgrymu bod awdurdodau'r Eidal wedi ailystyried ar ôl ystyried yr effaith ar gefnogwyr pêl-droed o Gymru.