Cymru v Yr Eidal: Penderfyniad anodd i deulu o Ruthun

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pwy fydd y teulu Tardivel yn ei gefnogi?

"Voglio giocare a calcio," meddai Paolo Tardivel wrth ei feibion yn eu gardd yn Rhuthun.

"Os ti yn yr Eidal ac eisiau chwarae pêl-droed, dyna ti'n ei ddweud."

Dyma Nico a Lucca yn ailadrodd y frawddeg - yn eithaf simsan y tro cyntaf, yn gywir yr eilwaith.

"Da iawn," meddai Paolo, a dan chwerthin, aeth yr hogiau yn ôl i'r cae i efelychu peniadau Keiffer Moore ac ergydion Manuel Locatelli.

Mae'r teulu o Ruthun yn Nyffryn Clwyd ymhlith y miloedd o Gymry sydd â chysylltiadau teuluol â'r Eidal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paolo ac Alison yn dweud mai Cymru fydd y teulu yn ei gefnogi ddydd Sul

"Mae bron iawn hanner y teulu - ochr dad - dal yn Yr Eidal," esboniai Paolo.

A phan fydd Gareth Bale a'r criw yn herio'u gwrthwynebwyr yn Rhufain ddydd Sul, bydd dwy ochr y tylwyth Tardivel yn gwylio pob eiliad.

"Maen nhw i gyd yn cefnogi'r tîm lot... yn sgrechian pan maen nhw'n gwylio'r teli, a phopeth felly," meddai Paolo.

"Mae'n bwysig i'r wlad bod y tîm yn gwneud yn dda mewn pêl-droed, mae'n agos i galon pawb yn Yr Eidal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nico a Lucca yn rhagweld noson anodd i dîm Cymru nos Sul

Tad Paolo - sy'n byw drws nesaf iddo - a symudodd o'r Eidal i Gymru. A chefnogi'r cochion, nid hen wlad ei dadau, fydd Paolo pan ddaw'r gic gyntaf. Does dim amheuaeth 'chwaith gan ei feibion.

"Dwi'n cefnogi Cymru achos dwi'n byw yng Nghymru, ond os ydyn nhw'n colli i'r Eidal, fydd o ddim yn rhy bad os 'dyn nhw'n dod yn ail yn y grŵp," meddai Lucca, sy'n 11.

Gweiddi dros y cochion hefyd fydd ei frawd, Nico, sy'n 9. Ond mae'n credu bydd yr Eidalwyr yn beryglus.

"Mae ganddyn nhw players rili da fel Chiellini a'r goalkeeper sydd ond yn 22 ac yn chwarae i AC Milan," meddai.

Tebygrwydd rhwng Cymru a'r Eidal?

I Alison Tardivel, gwraig Paolo a mam yr hogiau, mae llawer o debygrwydd rhwng yr Eidal a Chymru.

"Mae'r ddwy wlad efo teimlad cymdeithasol iawn, ac mae hynny'n dod drwodd wedi priodi mewn i'r teulu," meddai.

Dywedodd y bydd y teulu estynedig - o Ruthun a Chaernarfon i'r Eidal - yn dod ynghyd dros Facetime yn ystod y gêm dydd Sul.

Ond beth am dad Paolo?

"Efallai wna' i ofyn iddo fo ddod draw o drws nesa' i wylio - ond dim ond os ydy o'n bihafio a ddim yn gloatio os ydy'r Eidal yn ennill," chwarddodd Paolo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucca a Nico yn bêl-droedwyr brwd, ond ai dynwared Gareth Bale ynteu Lorenzo Insigne maen nhw yn yr ardd?

O'r naw ornest rhwng y ddwy wlad, dim ond dwy mae'r Cymry wedi ennill, a does dim amheuaeth pwy fydd y ffefrynnau dydd Sul.

Gobaith Paolo yw y bydd Roberto Mancini yn dewis tîm ychydig yn wannach gan fod y tîm wedi cyrraedd rownd y 16 olaf yn barod - ac y gallai Cymru fachu gem gyfartal felly.

Mae Alison yn fwy gobeithiol, ac yn gweld Cymru'n ennill 1-0. 

Mae'r bechgyn, ar y llaw arall, yn llai ffyddiog. Dywedodd Lucca, yn gwisgo ei grys glas CPD Rhuthun, ei fod o'n disgwyl i'r Azzurri fynd â hi o 2-1. Teimlai Nico, yn ei grys Cymru, bod colled drymach ar y gweill. 

"3-1 i'r Eidal," meddai. "Mae'r attacking 'ma jyst... wel ti methu gwneud dim amdano fo."

Sut byddai'r hogiau'n teimlo pe bai'r Eidal yn ennill yn gyfforddus?

"O, iawn," ochneidiodd Nico, gan ychwanegu un amod: "Jyst bod Cymru yn mynd drwodd i'r last 16 hefyd."