Gihoon Kim yn ennill cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r bariton Gihoon Kim wedi ennill cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni.
Oherwydd rheolau Covid, doedd dim modd i gynulleidfa fod yn bresennol yn Neuadd Dewi Sant ar gyfer y gystadleuaeth.
Dywedodd Mr Kim, 29, o Dde Corea, ei fod wedi bod ar "daith ysbrydoledig" ac y bydd yn cofio ei fuddugoliaeth "am weddill ei yrfa".
Mae'r gystadleuaeth, a ddechreuodd yn 1983, yn cael ei chynnal bob dwy flynedd gyda gwobr o £20,000 i'r enillydd.
Fe aeth Gwobr y Gynulleidfa Dame Joan Sutherland - yn dilyn pleidlais gan y gynulleidfa deledu - i'r mezzo-soprano Claire Barnett-Jones o Loegr.
Dywedodd y cyfarwyddwr artistig, David Jackson, mai un eleni oedd un o'r rhai mwyaf arbennig yn hanes y gystadleuaeth.
"Roedd hi'n twymo'r galon i weld ymroddiad, dycnwch a ffocws pob un o'r 16 cystadleuydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu perfformiadau dan amgylchiadau digynsail, a rhoi popeth oedd ganddyn nhw ar y llwyfan," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021