Pam mae 'pla' o slefrod môr ar hyd ein glannau?

  • Cyhoeddwyd
Slefrod môr ar draeth Cwm yr Eglwys, Sir Benfro

Yn ystod yr wythnosau diweddar mae ymwelwyr hynod a rhyfeddol wedi ymgasglu ar hyd rhai o draethau gorllewin Cymru. Pobl ar eu gwyliau ar ôl amseroedd diflas Covid efallai? Wel, na - ymwelwyr rhyfeddach o lawer sef cannoedd o slefrod môr!

Yma mae'r cyn-darlithydd ecoleg y môr, Dr Tegwyn Harris o Heolgerrig, Merthyr Tudful, yn esbonio'r rhesymau pam fod cymaint i'w gweld ar hyd y glannau.

line

Anifail meddal 'slefriog' yw'r slefren-fôr, perthynas i'r anemonïau coch a gwyrdd a welir yn aml mewn pyllau o ddŵr ar hyd traethau caregog. I'r swolegydd, anifail hardd a diddorol; i'r mwyafrif o bobl, anifail hyll ac annymunol i'w gyffwrdd yn erbyn y croen pan yn nofio!

Y mae'r slefren-fôr gyffredin, Aurelia aurita, yn ddigon cyffredin yn ein moroedd ni - ac yn aml yn lluosog heb fod ymhell oddi wrth y traeth, gan beri braw a dychryn ofnadwy i'r nofiwr anwybodus.

Ond nid 'lluosog' yw'r gair addas wrth ddisgrifio'r pla presennol!

Y slefren gyffredin ar draeth Cwm yr Eglwys, Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Y slefren gyffredin ar draeth Cwm yr Eglwys, Sir Benfro

Sut, meddech chi, y gall cannoedd o'r anifeiliaid (hollol diniwed, gyda llaw) hyn fod wedi crynhoi ar hyd y glannau gan greu math o balmant llwyd-wyn, slefriog allan o gyrraedd y llanw, ac yn bwysicach o lawer, pam cynifer ohonynt?

Mae ateb i'r cwestiwn 'Pam ar hyd y glannau' yn berffaith syml - cael eu taflu yno gan y llanw mae'r slefrod a chan nad oes ganddynt fodd i lusgo ar hyd y graean ac yn ôl i'r môr, eu tynged yw marw ar ymylon tir sych.

Traeth Amroth, Sir BenfroFfynhonnell y llun, Craig Evans
Disgrifiad o’r llun,

Slefren las ar Draeth Amroth, Sir Benfro

Mae dau esboniad yn bosibl i'r mater o'r niferoedd - un yn or-syml a ffraeth, a'r llall yn gywir-wyddonol!

Yn syml - mae cannoedd ohonynt am fod cannoedd wedi'u cenhedlu ar hyn o bryd. Ond mae'r ateb gwyddonol yn fwy cymhleth, ac yn fwy diddorol.

Mae'r mwyafrif o anifeiliaid (a phlanhigion) yn cenhedlu'n rhywiol - benyw yn cynhyrchu wyau a gwryw yn cynhyrchu hâd - ond mae eraill yn cenhedlu'n hollol lwyddiannus drwy brosesau anrhywiol. Mae'r slefrod-môr yn defnyddio'r ddwy broses mewn cysylltiad â'i gilydd.

Slefren môr ar Draeth Mawr, Trefdraeth
Disgrifiad o’r llun,

Y slefren gyffredin, Aurelia aurita, ar Draeth Mawr, Trefdraeth

Mae'r cysylltiad rhywiol yn creu cynrhonyn meicrosgopig - y planula. Wrth gwrs, gan fod miloedd - os nad miliynau - o wyau yn cael eu gollwng i'r dŵr, mae nifer enfawr o'r cynrhon yn disgyn tua gwaelod y môr ac yn glynu wrth wyneb craig.

Yn y fan honno y mae'r planula yn cenhedlu'n anrhywiol gan greu rhes - y scyphistoma - o fodau bychain, fel cadwyn fyw, sy'n ymestyn allan i'r dŵr.

Ephyra yw'r enw a roir i'r pethau bach sy'n ffurfio'r gadwyn ac, er yn fychan, mae wedi'u ffurfio'n gorfforol fel y slefren aeddfed.

Anemoni 'Dahlia' yn bwyta slefrenFfynhonnell y llun, Craig Evans
Disgrifiad o’r llun,

Anemoni 'Dahlia' yn bwyta slefren

O bryd i'w gilydd, bydd yr ephyra hynaf (h.y. yr un sydd ar ben allanol y gadwyn) wedi hynny'n datblygu i fod yn slefren aeddfed.

Y mae'r scyphistoma yn byw am beth amser ac yn para i gynhyrchu ephyrae. Felly, mae posibilrwydd i un slefren gynhyrchu cannoedd - os nad miloedd - o scyphistoma - a thrwy hynny miloedd o ephyrae, a phob un or rheiny yn medru tyfu'n slefren.

Wrth ystyried y cymhlethdod mathemategol hyn, hawdd deall y cannoedd ar hyd y traethau!

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig