Pump o eiriau ac ymadroddion yr haf
- Cyhoeddwyd
Gyda'r dyddiau'n brafio a'r perthi'n dechrau ffrwydro gyda blodau, yr Athro Ann Parry Owen, Golygydd Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru, sy'n dathlu dyfodiad yr haf gydag esboniad o rai o ymadroddion hafaidd y Gymraeg gan ddechrau gyda hirddydd haf ar Mehefin 21.
Ar 21 Mehefin byddwn ni'n dathlu hirddydd haf, neu Alban Hefin, sef y diwrnod hiraf o oleuni'r haul rhwng gwawr a machlud. Enwau eraill arno yw'r haul-orsaf neu'r heuldro, sefsummer solstice yn Saesneg - y dydd pan fo'r haul bellaf oddi wrth y cyhydedd, ac fel petai'n oedi neu sefyll ychydig cyn dychwelyd.
Iolo Morganwg a greodd yr enw Alban Hefin, ac Alban Arthan oedd ei enw am y diwrnod byrraf, 21 Rhagfyr, sef byrddydd gaeaf.
Cafodd Iolo yr elfen hefin o MeHEFIN, sy'n hen enw'n golygu 'canol haf' (ma- 'canol' + hefin 'haf').
Ystyr cyntefin, yr hen enw ar fis Mai, oedd 'dechrau'r haf' (cynt- + hefin), ac ystyr Gorffennaf yw 'diwedd yr haf' (gorffen + haf).
I ni, enw gwrywaidd yw haul heddiw (haul poeth, nid haul boeth), ond nid felly ers talwm, fel y mae'r gair heulwen (haul + gwen) yn profi.
Am y rheswm hwn roedd yr hen feirdd yn hoff iawn o gymharu eu cariadon â'r haul - fel y gwnaeth Dafydd ap Gwilym yn ei gywydd enwog 'Morfudd fel yr Haul', lle mae'n disgrifio Morfudd a'r haul fel pwerau benywaidd cryf a disglair y mae bywyd yn llwm ac yn oer iawn hebddynt, gyda'r haul yn tueddu i fynd y tu ôl i gwmwl neu i fachludo gyda'r nos, a Morfudd yr un fath yn mynd adre at ei gŵr!
Torheulo neu folaheulo? Torheulo yw'r gair arferol yn y gogledd am folaheulo'r deheuwr, ac ers talwm soniai pobl hefyd am ymorheulo a boldesu ('cynhesu'r bol'!).
Ond tra bod bola a bol yn gwbl gyfarwydd heddiw, nid felly'r gair 'tor' i'r rhan fwyaf ohonom, o leiaf nid fel gair ar ei ben ei hun. Ond yr un tor sydd yma ag yn y gair torllwyth, sy'n disgrifio llond nyth ('llond bol') o gathod neu gŵn bach, neu o berchyll.
Efallai i chi hefyd glywed am fridiau defaid 'torddu' a 'thorwen', sef rhai a chanddynt foliau du neu wyn; neu am bysgodyn o'r enw 'torgoch', sef math o frithyll bychan ac iddo fol coch ac sy'n byw yn rhai o lynnoedd gogledd Cymru. Tynnodd y gwneuthurwr mapiau enwog, John Speed, sylw at y pysgodyn hwn yn 1612: 'In the Pool Lin-Peris there is a kinde of fish called there Torcoch having a red belly, no where else seene'.
Mae'r eirfa gyfoethog sydd gennym i ddisgrifio'r traeth a llanw'r môr yn dangos pa mor bwysig oedd y bywyd morol i Gymry'r gorffennol.
Yr un gair yn y pen draw yw 'llanw' â 'llenwi', gyda 'llanw' yn air sy'n disgrifio llif y môr yn llenwi'r traeth.
Ar rai adegau o'r flwyddyn ceir llanw arbennig o uchel, fel llanw coch Awst a welir yn dod i fyny afonydd Wnion a Mawddach yn Awst, a'r gair coch, mae'n siŵr, yn cyfeirio at liw'r dŵr, sy'n llawn pridd a thywod wrth i'r cerrynt sgwrio'r glannau.
Ar ôl cyrraedd penllanw, ei bwynt uchaf, bydd y môr yn treio, yn mynd ar drai, gan gilio i lawr y traeth nes cyrraedd ei bwynt isaf, sef y distyll.
Roedd llaered yn hen air am y tir tywodlyd rhwng penllanw a distyll, yn enwedig ar gyfer croesi rhwng y tir mawr ac ynys. Mae'n air sydd wedi goroesi mewn ambell enw lle, fel Llaerad y Felin neu Ynys Laerad, enwau ar hen rydau i groesi'r Lasinwen rhwng Ynys Cybi a thir mawr Môn.
'Ar ryw brynhawngwaith teg o ha' hirfelyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi sbienddrych i helpu 'ngolwg egwan i weled pell yn agos …', meddai Elis Wynne ar ddechrau Gweledigaethau'r Bardd Cwsg (1703).
Heb os, dyma linell agoriadol orau'r iaith Gymraeg! Mae'n amlwg mai 'heulog a phoeth' yw ystyr tesog yma - gyda 'tes' yn air am wres yr haul a thywydd poeth yn gyffredinol.
Defnyddid y gair moeldes am dywydd poethach byth - tywydd chwilboeth gyda gwres moel a digyfaddawd nad oes modd dianc rhagddo.
Mewn rhai tafodieithoedd mae tes wedi dod i olygu 'tarth' - er enghraifft y math o niwl ysgafn sy'n codi'n aml o wely dyffryn, ac sy'n arwydd bod diwrnod poeth i ddod.
Mae 1 Mehefin yn nodi dechrau'r haf yn ôl y calendr meteorolegol ond mae'r haf yn ôl y calendr astrolegol fel arfer ar Fehefin 21, weithiau Mehefin 20, sef y diwrnod hiraf - diwrnod dathlu fyddai'n bwysig yn yr hen galendr baganaidd.
Hefyd o ddiddordeb: