Mam Frankie Morris i sefydlu elusen er cof am ei mab

  • Cyhoeddwyd
Frankie MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Diflannodd Frankie Morris ar ôl bod mewn rêf ger Waunfawr ar 2 Mai

Bydd elusen i gefnogi artistiaid ifanc yn cael ei sefydlu er cof am ddyn ifanc a ganfuwyd yn farw ar ôl bod ar goll am bron fis.

Diflannodd Frantisek 'Frankie' Morris, 18 oed o Landegfan, ar 2 Mai wedi iddo fod mewn parti ger Waunfawr.

Bu timau achub, heddlu gyda chŵn a dronau arbenigol yn cynorthwyo gyda'r chwilio amdano, ond fe gafodd ei gorff ei ddarganfod mewn coedwig ger Bangor ar 3 Mehefin.

Mae ei fam Alice Morris wedi dweud ei bod am sefydlu cronfa i gefnogi pobl ifanc fel Frankie, ond yn artist graffiti brwd.

'Hoffwn ddiolch o galon'

Teithiodd Ms Morris, sydd nawr yn byw yn y Weriniaeth Siec, i Gymru pan glywodd fod Frankie ar goll, a dywedodd bod cefnogaeth y gymuned wedi bod o gymorth mawr iddi.

"Roedd yr ymateb yn anhygoel, a hoffwn ddiolch o galon oherwydd roedd gweld cymaint o bobl yn trio'n galed i chwilio amdano yn gymorth," meddai.

"Ro'n i'n ofni'r gwaethaf o'r dechrau... byddai Frankie byth wedi diflannu heb ddweud wrth neb lle'r oedd yn mynd."

Roedd Frankie'n adnabyddus yn ardal Bangor a Chaernarfon am ei 'tagiau' graffiti. Mae deiseb wedi ei sefydlu i gadw un ohonyn nhw, ar wal hen Swyddfa'r Post ym Mangor, fel cofeb barhaol iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael ger gwaith graffiti Frankie Morris ar hen swyddfa'r post ym Mangor

Mae Alice Morris yn awyddus i hynny ddigwydd.

Ychwanegodd: "Mae ei graffiti'n dod ag atgofion melys oherwydd mae fel gweld Frankie ei hun.

"Mae'r graffiti ar Swyddfa'r Post ym Mangor - byddai'n hyfryd os fyddai'n cael ei gadw."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oes amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth Frankie Morris.

Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i grogi, a bydd cwest llawn i'r hyn ddigwyddodd yn cael ei gynnal ym mis Medi.

Disgrifiad o’r llun,

"Byddai'n wych os fydd Frankie'n cael ei gofio gan rhywbeth positif a chreadigol," medd ei fam Alice Morris

Ond mae sylw Alice Morris nawr ar sefydlu'r elusen.

"Roedd Frankie am deithio'r byd mewn fan, ac roedd wedi cynilo tipyn o arian tuag at y freuddwyd yna," meddai.

"Meddyliais y byddai dechrau sefydliad yn ddefnydd da o'r arian yna, ac rwyf am ei alw'n Frankie Morris Foundation.

"Mae'r manylion eto i'w penderfynu'n fanwl, ond fe fydd yn elusen ar Ynys Môn gyda'r bwriad o gefnogi artistiaid ifanc sydd am fod yn greadigol.

"Byddai'n wych os fydd Frankie'n cael ei gofio gan rhywbeth positif a chreadigol - rhywbeth fyddai'n ysbrydoli pobl."