Diwrnod o ddathlu gwerth a phwysigrwydd twyni tywod
- Cyhoeddwyd
Mae gweithgareddau'n cael eu cynnal ar draws Cymru i nodi blwyddyn gyntaf Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod.
Nod y diwrnod yw tynnu sylw at werth twyni tywod a phwysigrwydd gwarchod y "cynefinoedd arfordirol hanfodol hyn ledled y byd".
Mae'r achlysur hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch gwaith dau brosiect sy'n amddiffyn twyni yng Nghymru a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw.
Mae'r problemau sy'n eu heffeithio'n cynnwys cyflwyno planhigion estron goresgynnol, gor-sefydlogi'r twyni, diffyg pori, newid hinsawdd a llygredd aer.
Mae swyddogion prosiectau Twyni Byw, dolen allanol a Dynamic Dunescapes, dolen allanol wedi trefnu sawl digwyddiad ers dechrau'r wythnos fel rhan o'r dathliadau.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys teithiau cerdded tywys, sgyrsiau, celf traeth, casglu sbwriel, ioga a sesiynau ymwybyddiaeth natur.
'Amddiffyn twyni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol'
Dywedodd rheolwr prosiect Twyni Byw, Kathryn Hewitt: "Rydym ni'n falch bod Twyni Byw wedi cyd-greu y Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf erioed."
Y gobaith, trwy weithgareddau'r wythnos, yw "codi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd twyni tywod i'r bobl a bywyd gwyllt o bob rhan o Gymru".
Mae hefyd yn gobeithio "tynnu sylw at y defnydd amrywiol o dwyni tywod a'r angen i'w hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Dywedodd David Kilner, Swyddog Ymgysylltu Dynamic Dunescapes yng Nghymru: "Mae Cymru yn ddigon ffodus i fod â llawer o dwyni hardd ar hyd ei harfordir - mae miloedd ohonom ni'n cerdded trwyddyn nhw bob dydd.
"Maen nhw'n fannau gwyllt, yn llochesau i bobl a bywyd gwyllt, ac maen nhw dan fygythiad.
"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod byddwn yn dathlu straeon pobl, y bywyd gwyllt, y dreftadaeth a'r gwaith cadwraeth sydd wedi'i wneud yn y lleoedd ysblennydd hyn."
Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at helpu cymunedau i archwilio eu lliwiau, eu synau a'u bywyd gwyllt er mwyn cysylltu'n agosach byth â hud ein harfordiroedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2017