Diwedd ymdrech dorfol i herio polisi trethu ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Morfa Nefyn

Bydd grŵp sy'n gwrthwynebu penderfyniad Cyngor Gwynedd i ddyblu treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi ddim yn parhau â'u hymgais dorfol am adolygiad barnwrol.

Ar wefan Crowd Justice cafodd dros £8,000 ei roi gan 86 o roddwyr mewn ymgais i herio'r polisi newydd.

Ond dywed neges i ddilynwyr, sydd wedi ei weld gan raglen Newyddion S4C, dolen allanol, fod "y risgiau posib o fynd i gyfraith yn fwy na'r siawns o ennill ac felly dydyn ni ddim yn bwriadu mynd a hyn ymhellach fel ymdrech dorfol".

Fe wnaeth cynghorwyr Gwynedd benderfynu codi'r premiwm treth ar ail gartrefi i 100% ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd y cyngor ei bod hi'n "flaenoriaeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa" er mwyn "sicrhau cyflenwad addas o dai fforddiadwy i bobl leol fyw yn eu cymunedau trwy ein Strategaeth Dai".

Dangosodd adroddiad diweddar i'r cyngor bod 11% o stoc dai Gwynedd - 6,849 o dai - bellach yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau.

Dywed trefnwyr yr ymgyrch yn erbyn y polisi newydd eu bod nhw'n ymwybodol bod nifer o berchnogion ail gartrefi yn cymryd camau i osgoi talu'r premiwm.

Mae rhain yn cynnwys 'fflipio' eu cartrefi i fod yn llety gwyliau i'w llogi, gwerthu tai, neu drwy nodi mai eu hail dŷ yw eu prif gartref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna nifer o ymgyrchoedd wedi bod yn cwyno am effaith ail gartefi ar y farchnad dai leol

Mae'r grŵp yn cyhuddo Cyngor Gwynedd o wahaniaethu anuniongyrchol gan fod mwyafrif y rheiny sydd yn cael eu heffeithio gan y polisi yn bobl o Loegr.

Serch hynny, yn ôl yr e-bost, 50-60% yw tebygolrwydd llwyddiant adolygiad barnwrol ac fe allai "costau cyfreithiol sylweddol" fod ynghlwm â dwyn achos cyfreithiol.

Oherwydd hynny, maen nhw wedi rhoi'r gorau i'r ymdrech dorfol i gasglu arian.

'Dim sylw'

Ond mae'r trefnwyr yn awgrymu y dylai unrhyw unigolion sydd yn anhapus gyda dyblu'r dreth ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn y lle cyntaf cyn gwneud cais i Dribiwnlys Prisio Cymru i herio penderfyniad y cyngor.

Dywedodd y bargyfreithiwr sydd wedi bod yn cynghori'r grŵp wrth Newyddion S4C na allai wneud sylw gan ei bod hi ddim yn glir a fydd yna achosion cyfreithiol ai peidio.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae ymchwil diweddar yn dangos bod 60% o drigolion Gwynedd yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.

"Ar yr un pryd, Gwynedd sydd â'r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru ac ymhlith yr uchaf o ran eiddo gwag tymor hir.

"Rhoddwyd pwerau penodol i'r Cyngor gan y Senedd i osod Premiwm o hyd at 100% ar y Dreth Gyngor mewn perthynas â'r ddau fath yma o eiddo.

"Mae'r Cyngor wedi ei gwneud hi'n flaenoriaeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon a helpu i sicrhau cyflenwad addas o dai fforddiadwy i bobl leol fyw yn eu cymunedau trwy ein Strategaeth Dai."

Pynciau cysylltiedig