'Hanfodol' i Gymru fynd i'r afael â diffyg meddygon teulu
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru gael strategaeth i fynd i'r afael â diffyg meddygon teulu, yn ôl corff sy'n cynrychioli meddygon a myfyrwyr meddygaeth yn y DU.
Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) bod ganddynt dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod cynnydd mawr yn nifer y meddygon teulu sydd yn gweithio rhan amser yn hytrach na llawn amser oherwydd pwysau cynyddol yn y gweithle.
Daw'r dystiolaeth er gwaetha'r ffaith fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod niferoedd y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y ffigyrau recriwtio meddygon teulu ers nifer o flynyddoedd.
Mae'r gymdeithas feddygol hefyd yn rhybuddio bod y coronafeirws wedi cael effaith fawr ar y pwysau sydd ar feddygon teulu ac eu bod nhw'n bryderus y bydd mwy yn gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl, gan ragweld y bydd y sefyllfa'n gwaethygu yn y flwyddyn nesaf.
Awgrymodd arolwg diweddar ganddynt bod 30% o feddygon teulu yng Nghymru yn ystyried lleihau eu oriau gweithio neu ymddeol yn gynnar - gyda 40% yn ystyried gwneud hynny yn y flwyddyn nesaf.
Mae galw hefyd am wneud mwy i berswadio disgyblion o rannau gwledig o Gymru i astudio meddygaeth, ac i ymchwilio i'r rhesymau pam bod cymaint o raddedigion yn gadael Cymru ar ôl iddynt gael eu hyfforddi.
'Anhawster recriwtio'
Dywedodd Dr Llinos Roberts, meddyg teulu rhan amser sydd hefyd yn gweithio yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe, ei bod yn "anodd" iddi gredu nad oes yna argyfwng yn y byd meddygaeth teulu yng Nghymru.
"Dw i'n gweld gyda llygad fy hun bod ni'n cael anhawster recriwtio meddygon teulu ac efallai bod hi'n fwy o broblem mewn rhai ardaloedd yng Nghymru fel Pen Llŷn, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin...
"Felly yn fy mhrofiad i bydden i'n dweud bod 'na broblem, yn bendant mewn rhai ardaloedd ni'n cael problemau recriwtio."
Ychwanegodd Dr Roberts bod hi a nifer o'i chyfoedion yn gweithio fel meddygon teulu rhan amser oherwydd bod pwysau y gwaith wedi newid llawer dros y degawd diwethaf.
"Mae pwysau gwaith wedi cynyddu, mae'r oriau yn hirach, mae disgwyliadau cleifion yn uwch, ac mae'r nifer o gleifion yn llawer mwy," meddai.
"Hefyd mae llawer o'r gwaith wedi symud o ofal eilradd yr ysbytai i ofal yn y gymuned, felly mae 'na fwy o bwysau ar feddygon teulu."
Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng, dywedodd ei bod yn "hanfodol" bod myfyrwyr o ardaloedd gwledig yn astudio meddygaeth.
"Mae angen edrych ar ein hysgolion a chefnogi a rhoi cyngor i'r ysgolion sut i annog mwy o ddisgyblion i feddwl am feddygaeth fel proffesiwn.
"Mae nifer o bobl ar ôl graddio yn aml yn mynd yn ôl i'w ardaloedd genedigol i weithio felly os ni'n medru hyfforddi disgyblion o'r ardaloedd yna, fe allen nhw gael eu hyfforddi fel meddygon, efallai dod yn feddygon teulu, ac yna ystyried mynd yn ôl i'w ardaloedd gwreiddiol i weithio."
Mae rhai sefydliadau fel Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn rhoi canllawiau i ysgolion yn barod, ond dywedodd bod yn rhaid gwneud mwy a thargedu ysgolion gwledig yn benodol.
"Gyda'r hyfforddiant cywir a'r gefnogaeth gywir, mae 'na nifer fawr o'n disgyblion ni yma yng Nghymru a fyddai'n gwneud doctoriaid arbennig o dda ond ar hyn o bryd sydd ddim yn cael yr anogaeth y dyle nhw ei gael."
Mae Shannon Rowlands yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe ac mae hi wedi bod ar leoliad mewn meddygfa teulu yn Sir Benfro ers mis Medi.
"Fi'n ffodus nawr i fod yn rhan o flwyddyn newydd ym Mhrifysgol Abertawe ble ni'n treulio blwyddyn mewn meddygfa teulu mewn ardal wledig, a fi'n meddwl bod hynna'n rili da.
"Mae'n dangos i mi be fyddai bod yn feddyg teulu mewn ardal fel hyn, a fi'n gallu cwrdd a mentors a pethe fel 'na," meddai.
Nid yw Ms Rowlands wedi penderfynu os fydd hi'n mynd ymlaen i fod yn feddyg teulu eto, ond mae hi'n cydnabod bod yna fanteision.
"Fi'n meddwl un o'r manteision o fod yn feddyg teulu yw bod chi'n gallu gweithio unrhyw le, felly fedrwch chi ddod yn ôl adref i'r ardal ble rydych chi wedi cael eich codi lan ynddo.
"Ond mae rhai arbenigedd yn yr ysbyty, 'chi'n gorfod mynd i naill ai Abertawe neu Gaerdydd, felly mae hynna'n chwarae ffactor enfawr, i fi, os dwi 'sio byw yn ôl gartref, fyddai mwy tebygol o fod yn feddyg teulu.
"Mae bod adref yn ystod y cyfnod clo wedi atgyfnerthu bod fi 'sio mynd adref a bod yn rhan o'r gymuned ges i fy nghodi lan ynddi, byddwn i'n joio hynne."
Ms Rowlands oedd yr unig ddisgybl yn ei blwyddyn ysgol i wneud cais i astudio meddygaeth.
"Doedd neb o'n i'n nabod yn mynd i astudio meddygaeth so bydde fe'n werthfawr i gael mwy o help mewn ysgolion, help efo'r application process achos mae'n hollol wahanol. Mae'n rhaid i chi eistedd arholiadau i fynd mewn i'r brifysgol a hefyd cael help efo cyfweliadau - mae hynna'n rili bwysig dw i'n meddwl, a dangos bod pobl fel fi o ardaloedd gorllewin Cymru yn medru neud e."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y ffigyrau recriwtio meddygon teulu ers nifer o flynyddoedd. Roedd cynnydd amlwg yn y cyfraddau llenwi ledled Cymru ac yn benodol yn y cynlluniau hyfforddi yng ngogledd a gorllewin Cymru.
"Bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gynyddu nifer y meddygon teulu sy'n gofalu am gleifion dros y blynyddoedd i ddod."Mae ein hymgyrch farchnata Train Work Live flwyddyn ar ôl blwyddyn wedi gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod mwy o bobl yn medru hyfforddi i fod yn feddygon teulu.
"Yn ddiweddar rydym hefyd wedi cyhoeddi cyllid mwy nag erioed o £227m i fuddsoddi yng ngweithlu GIG Cymru, a fydd yn ein helpu i gynyddu'r nifer o leoedd hyfforddi yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2016