'Rhwystredigaeth' ynglŷn â therfyn cyflymder ar yr A465

  • Cyhoeddwyd
a465
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cyfyngiadau cyflymder yn effeithio ar bron i bum milltir o'r ffordd ddeuol newydd ar yr A465

Mae "rhwystredigaeth" ynglŷn â chynlluniau i gyflwyno terfyn cyflymder o 50mya ar ran fwyaf newydd Ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Brynmawr a Gilwern.

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd am y cynlluniau i osod y terfyn cyflymder ar hyd bron i bum milltir o'r A465, sydd wedi costio £336m.

Dechreuodd y gwaith o ledaenu'r ffordd drwy'r ardal yn 2014 - a dwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl, mae gobaith y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau erbyn yr hydref.

Ond mae rhwystredigaeth yn lleol ynglŷn â'r terfyn cyflymder arfaethedig ar ôl gwario cymaint ar wella'r ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r cynlluniau ddim yn gwneud fawr o synnwyr yn ôl Eifion Lloyd Davies o Frynmawr

Dywedodd Eifion Lloyd Davies, sy'n byw ym Mrynmawr ers hanner canrif, nad oedd y cynlluniau yn "gwneud llawer o synnwyr".

Mae'n dweud bod y gwaith adeiladu wedi creu bob math o drafferthion i bobl ar hyd llwybr y ffordd ddeuol.

"Mae wedi bod yn dipyn o broblem yn enwedig pan wnaethon nhw benderfynu gau Brynmawr yn gyfan gwbl," meddai.

"Dydyn ni ddim wedi gallu dod oddi ar y briffordd a dod i mewn i'r dref.

"Yn ystod y gwaith, rydan ni'n methu mynd oddi ar y briffordd i gyfeiriad Merthyr chwaith."

Mae'r cyn-athro yn dweud nad ydy llawer yn yr ardal yn gweld y budd o osod cyfyngiad cyflymder a'u bod yn poeni y bydd yn creu tagfeydd.

"Y terfyn cyflymder blaenorol oedd 50mya. Rhan o werthu'r gwaith o droi'r ffordd yn ffordd ddeuol oedd i wella amseroedd teithio - sut fydd hynny'n digwydd rŵan?"

"Beth yw'r pwynt cael ffordd mor fawr pan fuasai'n haws cadw'r hen ffordd drwy'r ceunant ac arbed miliynau o bunnau?"

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rob Owen y bydd y newidiadau yn hwyluso llif traffig

Dywedodd Rob Owens, cyn-gadeirydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil yng ngogledd Cymru mai rhan o'r rheswm dros gyflwyno cyfyngiadau cyflymder fyddai'r gost o gynnal a chadw'r ffordd.

"Bydd y gwelliant yma yn hwyluso'r traffig trwy'r ardal yma rhwng Gilwern a Brynmawr, a bydd yn llawer mwy diogel a llai o dagfeydd a bydd o'n hwyluso trafnidiaeth i bobl sy'n byw yn yr ardal," meddai.

"Mae'n ffordd ddeuol ac felly yn llawer gwell i bobl deithio ar ei hyd."

'Gwella ansawdd aer'

Ychwanegodd bod hyd y ffyrdd ymuno ac ymadael yn fyr ac felly doedd dim dewis ond cyflwyno cyfyngiadau cyflymder er mwyn eu gwneud hi'n ddiogel i adael ac i ymuno â'r briffordd.

"Er mwyn cyrraedd y safonau diogelwch, mae'n rhaid cael sliproads addas, ac mae hynny yn fwy o broblem gyda chyflymderau uwch," meddai.

"Mae nifer o ffyrdd yng Nghymru wedi cael eu gostwng i 50mya a'r rheswm am wneud hynny ydy er mwyn gwella diogelwch ac i wella ansawdd aer yn yr ardaloedd.

"Wrth yrru 70mya mae llawer mwy o lygredd yn yr aer. Bydd y cyflymder newydd yn helpu i leihau hynny ac yn helpu i leihau'r gost o gynnal a chadw'r ffyrdd gan y bydd 'na lai o wisgo arwyneb y ffordd."

Mae'r prosiect wedi bod yn heriol, gyda digon o bridd wedi'i symud byddai modd llenwi 400 pwll nofio maint Olympaidd, yn ôl Llywodraeth Cymru, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwelliannau i'r A465 yn ardal Brynmawr wedi costio £336m

Mae tirwedd Ceunant Clydach, a ffrae gyda'r contractwyr Costain, wedi gweld costau'n cynyddu dros £100m yn fwy na'r gyllideb wreiddiol.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth yn y Senedd, Natasha Ashgar AS, yn dweud ei bod hi'n siomedig am glywed nad ydy'r gwelliannau yn caniatáu terfyn cyflymder uwch na 50mya.

"Wrth arafu traffig, bydd y penderfyniad hwn yn cynyddu tagfeydd, a gallai arwain at gynnydd mewn damweiniau wrth i yrwyr fynd yn rhwystredig ynglŷn â'r hyn maen nhw'n credu sy'n derfyn cyflymder diangen o isel," meddai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, 50mya oedd terfyn cyflymder yr A465 erioed.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mi fydd ei droi'n ffordd ddeuol yn helpu llif y traffig, yn torri amser teithio ac yn gwella diogelwch y ffordd gan ystyried yr effaith amgylcheddol hefyd."

Pynciau cysylltiedig