Cost gwella'r A465 £100m yn fwy na'r amcangyfrif
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun gwella Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn costio £100m yn fwy i bwrs y wlad na'r amcangyfrif gwreiddiol ac yn cymryd dros ddwy flynedd yn hirach i'w gwblhau, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Does dim disgwyl erbyn hyn i'r gwaith o ledu wyth cilomedr o'r A465, rhwng Brynmawr ym Mlaenau Gwent a Gilwern yn Sir Fynwy, ddod i ben tan 2021.
Mae Llywodraeth Cymru a'r adeiladwyr, Costain yn anghytuno ynghylch pwy ddylai dalu'r gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif gwreiddiol - £223m - a'r gost derfynol, sef £321m yn ôl amcangyfrif diweddaraf y llywodraeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn gymhleth ond bydd yn dod â manteision yn y pen draw.
Mae'r gost derfynol a'r amserlen "yn dal i fod yn ansicr", medd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, mewn adroddiad cychwynnol.
Gan gyfeirio at y ffrae "ynglŷn â phwy sy'n atebol am dalu rhai costau penodol", dywed Mr Crompton bod "Costain o'r farn bod yr amcangyfrifon diweddaraf o rwymedigaethau Llywodraeth Cymru wedi'u tanddatgan".
"Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y ffigyrau'n cynrychioli lwfans rhesymol am ei rhwymedigaethau ar y cam hwn," meddai.
Mae llys cymodi wedi dyfarnu y dylai'r ddwy ochr rannu'r costau ychwanegol, er i wrandawiad blaenorol ddyfarnu o blaid Costain.
Ychwanegodd: "Mae rhywfaint o'r cynnydd yn ymwneud â newidiadau dylunio y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdanynt a mesurau ychwanegol i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol, ond yr heriau peirianegol a chytundebol a brofwyd ar y prosiect sy'n rhoi cyfrif am y rhan fwyaf ohono.
"Mae'n golygu adeiladu mewn cwm â llethrau serth - Cwm Clydach - ac yn pasio drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog."
Mae angen codi sawl wal i gynnal y ffordd gan fod y lonydd ar lefelau gwahanol i'w gilydd.
Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru dalu i glirio asbestos ar safle hen ffatri ac roedd eu biliau cyfreithiol yn £1.49m erbyn fis Tachwedd.
Cwynion lleol
Mae'r adroddiad yn nodi bod y cynllun eisoes wedi dod â "rhai manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach", gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth a sefydlu academi hyfforddiant adeiladu.
Serch hynny, "mae'r tarfu a'r oedi wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned leol" - lefel "sylweddol uwch" nag sydd i'w ddisgwyl ar ddechrau gwaith adeiladu ac sydd "wedi arwain at gwynion gan yrwyr a'r gymuned leol".
Hyd at ddiwedd Tachwedd diwethaf, bu'n rhaid cau'r ffordd ar 57 o benwythnosau a'i chau dros nos ar 75 o ddiwrnodau pellach ganol yr wythnos.
"Er gwaethaf y disgwyliadau ynglŷn ag effaith gwella'r ffordd yn y pen draw, mae'r rhai sy'n byw ac yn gweithio'n lleol yn talu pris uwch na'r disgwyl am yr oedi a tharfu parhaus yn ystod y gwaith adeiladu," meddai Mr Crompton.
Ychwanegodd nad dyma'r tro cyntaf i drafferthion godi o ran hyd a chost prosiect gwella ffordd, ond bod angen dysgu gwersi ar gyfer cynlluniau seilwaith yn y dyfodol.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, bod dros 85% o'r gwaith i'r ffordd wedi ei gwblhau, gan gynnwys dros 7.5 milltir o waliau cynhaliol a 15 o bontydd.
Dywedodd ei fod yn "siomedig iawn" bod yr adeiladwyr wedi gohirio'r dyddiad cwblhau'r ffordd tan ddiwedd Ebrill 2021, ac wedi gofyn am weld os oes modd gorffen y gwaith cyn hynny.
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl llai o angen i gau ffyrdd lleol wrth i'r gwaith fynd rhagddo, a bod 65% o'r cyllid wedi mynd i gwmnïau Cymreig, gan greu 270 o swyddi newydd a 69 o brentisiaethau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cynllun yn cael ei gydnabod "fel un o brosiectau peirianneg ffordd mwyaf cymhleth y DU ar hyn o bryd".
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn "cydnabod y materion sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad a bydden ni, wrth gwrs, yn ystyried y casgliadau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017