Peirianwyr yn cwblhau'r gwaith o godi pont reilffordd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y gwaith o godi'r bont dros Afon Dulas i atal llifogydd

Mae peirianwyr wedi cwblhau'r gwaith o godi pont reilffordd ger Machynlleth fetr yn uwch er mwyn ceisio osgoi effeithiau llifogydd yn y dyfodol.

Bu'n rhaid cau'r bont uwchben Afon Dulas, sy'n rhan o lein y Cambrian, 10 gwaith yn 2020 oherwydd y difrod gafodd ei achosi gan lifogydd.

Yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf bu'n rhaid cau'r bont dros 30 o weithiau.

Cafodd y gwaith o godi'r bont, ar gost o £3.6m, ei gwblhau mewn chwe wythnos gan ganiatáu iddi ailagor ddydd Llun.

'Trenau'n teithio yn ôl eu harfer'

Dywedodd Richard Compton, rheolwr prosiect gyda Network Rail Cymru a'r Gororau, fod codi uchder y bont yn bwysig er mwyn sicrhau diogelwch.

"Mae'r bont wedi dioddef effaith llifogydd dros y blynyddoedd yn ystod cyfnodau o law trwm, gan arwain at ei chau ac oedi hir i deithwyr," meddai.

"Byddwn yn hoffi atgoffa pobl sy'n defnyddio'r croesfannau rheilffordd y bydd y trenau yn teithio yn ôl eu harfer, felly i ddilyn y rheolau wrth eu defnyddio."

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Bu 360 o beirianwyr yn gweithio ar y prosiect i godi'r bont, sy'n pwyso 80 tunnell

Bu'n rhaid defnyddio bysus i gludo teithwyr rhwng Machynlleth ac Amwythig tra bod y bont 80 tunnell yn cael ei chodi.

Bu 360 o beirianwyr yn gweithio ar y lein rhwng Machynlleth a Chaersws.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru y bydd y gwaith yn eu galluogi i sicrhau gwasanaethau mwy cyson mewn cyfnodau o dywydd garw.

"Rydym yn deall fod yr amharu oherwydd y gwaith yn rhwystredig i gwsmeriaid, a byddwn yn hoffi diolch iddynt am eu hamynedd."

Pynciau cysylltiedig