Pont Britannia angen ei hatgyweirio yn ôl perchnogion
- Cyhoeddwyd
![Pont Britannia](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3C0D/production/_112837351_506a59bb-aee3-4812-8d09-840352802507.jpg)
Mae'r gwaith atgyweirio'n ymwneud â linteli tyrau'r bont, sydd mewn cyflwr "sefydlog" ar hyn o bryd
Mae cynlluniau wedi'u datgelu i atgyfnerthu rhan o waith cerrig Pont Britannia i fynd i'r afael â holltau a ddaeth i'r amlwg yn wreiddiol yn 1984.
Pont ar gyfer trenau yn unig, i gysylltu Ynys Môn a'r tir mawr oedd hi yn wreiddiol nôl yn 1850, ond mae cerbydau'n teithio ar hyd llawr ychwanegol, uwchben y cledrau, ers 1980.
Mae bellach yn rhan o'r A55 ac mae 46,000 o gerbydau'n croesi'r Fenai bob diwrnod.
Yn ôl cais cynllunio i Gyngor Sir Ynys Môn gan y perchnogion, Network Rail, mae'r gwaith atgyweirio yn cynnwys gosod trawstiau newydd i atgyfnerthu linteli tri thŵr y bont Gradd II.
![Delwedd o gais cynllunio Network Rail](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/98A1/production/_112837093_4ac08c45-59b9-4dd5-b9e8-1ebcf7f17f8c.jpg)
Delwedd o ddogfen y cais cynllunio
Yn ôl y cais cynllunio, mae'r linteli mewn "cyflwr sefydlog" ar hyn o bryd ac yn cael eu monitro'n gyson, ond er bod y risg o gwymp yn "isel" mae yna berygl i'r linteli barhau i ddirywio ymhen amser
Gan fod potensial i'r broblem arwain "at gwymp rhannol neu hollol" rhannau o'r tyrau mae Network Rail yn bwriadu gosod trawstiau i ddal y linteli "petasai nhw'n cwympo."
Cafodd cynlluniau tebyg gymeradwyaeth y cyngor yn wreiddiol yn 2015 gyda therfyn amser o bum mlynedd, ond wrth i'r caniatâd hwnnw dynnu at ei derfyn mae Network Rail wedi cyflwyno mân addasiadau.
Dywed y ddogfen gynllunio: "Tra bod 'na berygl bychan y gallai'r linteli gwympo, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod gorchwyl i Network Rail weithredu ffordd o liniaru cwymp posib yn y dyfodol.
"Mae hyn yn cydnabod goblygiadau catastroffig unrhyw fethiant o ran y linteli i ddefnyddwyr y ffordd a fyddai'n golygu cau Pont Britannia yn syth."
![Pont Britannia dros y Fenai](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17F19/production/_112837089_f7485e32-135d-41fb-9cab-0d5b2640ef0e.jpg)
Fyddai'r gwaith ddim yn amharu ar gymeriad na statws rhestredig y bont, medd y perchnogion
Gosod trawstiau FRP (fibre reinforced polymer) o dan y linteli yw'r ateb mwyaf priodol, medd Network Rail. Byddai'r trawstiau'n cael eu dylunio i weddu edrychiad y bont, a bod yr un lliw â cherrig presennol y tyrau.
Dywed yr ymgeiswyr yn y cais mai'r farn yw na fyddai'r gwaith atgyfnerthu'n "amharu ar gymeriad nag edrychiad y bont restredig a ni fydd yn peryglu statws Gradd II y bont."
Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio'r cyngor ystyried y cais yn y misoedd nesaf.
Mae costau unrhyw waith cynnal a chadw i'r bont yn cael eu rhannu gan y perchnogion a Llywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018