'Falch' o gael gwybod lle mae cadair farddol ffoadur
- Cyhoeddwyd
Mae trefnydd prosiect hanesyddol "yn falch dros ben" o gael gwybod ble mae cadair eisteddfodol a gafodd ei saernïo gan grefftwr wnaeth ffoi i Gymru o Wlad Belg ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Fe naddodd Emile De Vynck bedair cadair farddol ar ôl cael lloches yn ardal Cricieth yn 1914.
Roedd Toni Vitti o'r prosiect Belgian Refugees in Rhyl yn gwybod bod un o'r cadeiriau ym meddiant Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ac un yng Nghanolfan Dreftadaeth Cemaes, yn Ynys Môn.
Mae bellach wedi cael gwybod bod cadair Eisteddfod Gadeiriol Undebol Bethel a Phenmorfa 1922 yng Nghapel Bethel ei hun ers blynyddoedd maith.
Elisabeth Peate wnaeth gysylltu â Mr Vitti ar ran Capel Bethel, sydd ym mhentref Golan, ger Garndolbenmaen.
Roedd hynny wedi i aelod arall o'r capel ddarllen stori Cymru Fyw am apêl Mr Vitti i ddod o hyd i'r bedwaredd gadair.
"Dwi yn fy chwedegau a ges i fy magu yn y tŷ capel, a dwi'n ei chofio hi yn y capel erioed," meddai.
"Roedd gyda ni ryw glem mai ffoadur o'r ardal oedd y saer coed ond doeddan ni ddim yn gwybod ei hanes yn iawn.
"Aethom ati i gynnal gwasanaeth am ffoaduriaid gyda plant yr ysgol Sul ychydig flynyddoedd yn ôl a chawsom gymorth i gael mwy o'r hanes.
"Mae'r gadair yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y festri a'r sêt fawr yn y capel, fel bo'r angen, ar gyfer gwahanol wasanaethau."
Gyda'r capel ar gau ers dechrau'r pandemig, mae'r gadair "yn y sêt fawr un ochor i'r pulpud" ar hyn o bryd, medd y gweinidog, y Parchedig Christopher Prew.
"Roedd sawl un yn y capel dros y blynyddoedd wedi nodi pa mor hardd ydi'r gadair," meddai.
"Roedd y dyn yn amlwg yn grefftwr oherwydd mae'r gwaith yn gywrain iawn."
Ychwanegodd mai'r amheuaeth yw bod y gadair wedi dod i'r capel "flynyddoedd yn ôl trwy ewyllys un o gyn weinidogion Capel Bethel ardal Golan a Chwm Ystradllyn".
Ar gefn y gadair mae'r geiriau 'E De Vynch, Belgian, Pentrefelin' wedi eu cerfio.
Ym Mhentrefelin ger Cricieth roedd gweithdy'r saer a gafodd loches gyda'i deulu a 10 o Felgiaid eraill yn hen gartref David Lloyd George ar ôl cyrraedd Cymru.
Cafodd sawl comisiwn gan y gwleidydd, gan arwain at waith pellach gan fonheddwyr a thirfeddianwyr eraill yng ngogledd orllewin Cymru.
Roedd plwyfolion dau o gapeli'r Eglwys Bresbyteraidd yn cystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol Undebol Bethel a Phenmorfa.
Yr ail gapel oedd Capel Gazirim, yn Nhremorfa - adeilad ar bwys yr A487 ar gyrion Porthmadog sydd bellach wedi ei addasu'n gartref.
Dywedodd Toni Vitti ei fod "wrth fy modd" ar ôl derbyn neges Elisabeth Peate fore Llun.
"Dywedodd hi wrtha'i bod y gadair yn ddiogel yng Nghapel Bethel, Golan," meddai, ac "yn cael ei defnyddio yn ystod eu gwasanaethau".
Mae Mr Vitti'n bwriadu ymweld â'r capel pan fydd hynny'n bosib yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018