Cartref newydd i gadair Eisteddfod Pwllheli 1912!
- Cyhoeddwyd
Wedi ymgyrch i godi arian gan un o gyflwynwyr Radio Cymru mae cadair eisteddfodol o Gymru wedi cyrraedd adref a chael cartref newydd ym Mhlas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli.
Ym mis Mehefin, rhannodd blog Casglu Cadeiriau, neges drydar i ddweud fod yna eitem ddiddorol ar werth ar wefan gwerthu yng Ngwlad yr Haf, dolen allanol - sef cadair Eisteddfod Pwllheli 1912.
Nod y blog, sy'n cael ei gynnal gan y bardd Iestyn Tyne, yw ceisio dod o hyd i hanesion cadeiriau eisteddfodol coll - ac roedden nhw'n awyddus i ddatrys dirgelwch y gadair dderw hardd yma.
Hedd Wyn oedd enillydd y gadair yn yr eisteddfod hon yn 1913, ond nid oedd hi'n glir i ddechrau pwy oedd enillydd cadair 1912.
Wedi ychydig o waith cartref, cyhoeddodd Ffion Eluned Owen mai ei henillydd yn 1912 oedd D J Roberts o Riwabon, dolen allanol, gyda phryddest ar y testun Sêr y Nos.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dangosodd gyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes, ddiddordeb yn y gadair alltud a chychwyn ymgyrch ariannu torfol ar-lein er mwyn ei phrynu a'i dychwelyd yn ôl i Gymru.
O fewn 24 awr, roedd £500 wedi cael ei gyfrannu.
Ar 5 Gorffennaf, prynwyd y gadair gan yr ymgyrch am £1,580, dolen allanol, a theithiodd Aled i Wlad yr Haf i'w nôl.
Ddydd Gwener 13 Gorffennaf cafodd y gadair ei throsglwyddo i'w chartref newydd yng nganolfan gelfyddydau Glyn-y-weddw, diolch i gyfraniadau hael y cyhoedd.
Rhoddodd Gwyn Jones, cyfarwyddwr y ganolfan groeso mawr i'r gadair ac addo "rhoi cartref cyhoeddus iddi" ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru, oedd yn darlledu oddi yno.
Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio dod o hyd i'r gerdd fuddugol a'i harddangos gyda'r gadair.
Ble bu hi?
Mae'n debyg fod gwerthwr y gadair wedi ei phrynu o arwerthiant arall, ond dyw ei hanes dros y ganrif ddiwethaf ddim yn glir.
Yn ôl y bardd Gruffudd Antur, enillodd D J Roberts gadair Eisteddfod Llanfair Dyffryn Clwyd yr un flwyddyn - felly roedd yn amlwg yn fardd dawnus.
Mae Iestyn Tyne wedi siarad ar raglen Aled Hughes am ei brosiect i ddysgu mwy am gadeiriau eisteddfodol.
Tybed allai ddysgu beth ddigwyddodd i gadair D J Roberts?
Nid hon yw'r gadair gyntaf o un o eisteddfodau Pwllheli i ymddangos ar wefan arwerthiant.
Yn 2015, bu ymgyrch lwyddiannus gan rai o drigolion Pen Llŷn i brynu cadair eisteddfod 1921, a'i dychwelyd yn ôl i'w chynefin, ar ôl iddi gael ei ffeindio ar wefan ebay.