'Angen i deuluoedd incwm isel barhau i gael help'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru ar fin wynebu argyfwng tai oni bai bod cymorth yn cael ei roi i aelwydydd sydd wedi dioddef yn sgil y pandemig, yn ôl elusen Sefydliad Bevan.
Mae'r gwaith ymchwil newydd yn dangos bod un ym mhob 10 aelwyd yn byw mewn tai anniogel gyda 80,000 aelwyd arall wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gartref newydd.
Mae hyn er gwaethaf y cymorth sydd wedi cael ei roi gan lywodraethau Cymru a Phrydain yn ystod y pandemig.
Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu pryderon Sefydliad Bevan wrth i nifer o gynlluniau llywodraeth y DU, yn ystod y pandemig, ddod i ben.
Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan: "Mae pawb yn haeddu cael byw mewn cartref cynnes a diogel, ond mae'n ymchwil diweddaraf yn dangos nad dyma'r realiti i nifer iawn o bobl.
"Fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r DU y peth iawn ar ddechrau'r pandemig gan sicrhau fod pobl yn cael aros yn eu cartrefi ac roedd cefnogaeth i bobl ddigartref. Os nad oes gweithredu buan bydd y gwaith da yna yn cael ei ddadwneud."
Mae yna ofnau y bydd y sefyllfa yn gwaethygu wrth i ran helaeth o'r cymorth, a gyflwynwyd yn ystod y pandemig i gefnogi pobl ar gyflogau isel, ddod i ben.
Gorfod benthyg i dalu bil
Er bod cyflwr yr economi yn gwella, mae'r gwaith ymchwil yn nodi nad yw aelwydydd sy'n cael y cyflogau isaf yn elwa. Mae un o pob pump aelwyd (21%) sydd ag incwm o £20,000 wedi gweld gostyngiad yn yr arian y maen nhw yn ei dderbyn rhwng Ionawr a Mai 2021.
Mae'r gwaith ymchwil yn dangos hefyd bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru wedi cael eu gorfodi i wario llai (16%) ar wresogi a bwyd (15%). Mae eraill yn wynebu mwy o ddyledion gyda 10% yn methu talu biliau a 17% yn benthyg arian i dalu biliau.
Ychwanegodd Dr Steffan Evans: "Mae'r pymtheg mis diwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom - ond mae wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i deuluoedd ag incwm isel. Nhw, yn fwyaf tebygol, sydd wedi gorfod cwtogi ar eu gwariant bob dydd ac wynebu mwy o ddyledion.
"Mae un o bob pump aelwyd yn credu y bydd yn rhaid cwtogi ymhellach ar y gwariant o ddydd i ddydd yn ystod y tri mis nesaf. Wrth i gefnogaeth ddod i ben yn sgil llacio cyfyngiadau mae yna ofnau y bydd bywyd nifer yn mynd yn fwy anodd."
Cafodd 1,035 o oedolion eu holi ar gyfer y gwaith ymchwil a wnaed gan YouGov Plc ar gyfer Sefydliad Bevan.
'Llywodraeth y DU sydd â'r pwerau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Llywodraeth y DU sydd â'r pwerau i daclo tlodi - nhw sy'n gweithredu y system dreth a lles ond ry'n yn ceisio gwneud pob dim posib i sicrhau effaith tlodi ac yn cefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi.
"Yn ystod y flwyddyn ariannol yma ry'n wedi sicrhau bod £9m ar gael fel bod pobl yn gallu cael y cyngor y maent ei angen i ddatrys problemau cysylltiedig â budd-daliadau lles a dyledion.
"Mae hyn a'n cefnogaeth i 'gyflog cymdeithasol' mwy hael - drwy ein Cynnig Gofal Pant, ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, ein rhaglen Cartrefi Cynnes a Phresgripsiynau am Ddim - yn golygu bod mwy o arian ym mhocedi dinasyddion Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020