Arestio carcharor ar ffo ym Maesteg
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn a gafwyd yn euog o dreisio yn y 1990au wedi ei ganfod ym Maesteg.
Doedd Andrew Gestyn Richards ddim wedi dychwelyd i garchar Leyhill yn Sir Gaerloyw wedi iddo gael ei ryddhau dros dro ddydd Gwener.
Roedd Mr Richards, 52, wedi bod yn aros yn Abertawe a dywed yr heddlu eu bod wedi ei arestio ym Maesteg, ger Pen-y-bont wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth gan y gymuned.
Cafodd ei garcharu yn 1995 am droseddau oedd yn cynnwys, ymosod, ymosod yn anweddus a threisio.