Plant mabwysiedig yn wynebu 'argyfwng iechyd meddwl'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r holl siwrne fabwysiadu yn gymhleth ac mae'n rhaid rhannu profiadau," medd Anwen Aspden a gafodd ei mabwysiadu yn y 70au.
Daw ei sylwadau wrth i elusen Adoption UK Cymru ddweud fod nifer o blant a phobl ifanc mabwysiedig yng Nghymru yn wynebu "argyfwng iechyd meddwl".
Dywed yr elusen bod traean o blant Cymru yn wynebu problemau iechyd meddwl ar ôl cael eu mabwysiadu.
Mewn arolwg diweddar gan yr elusen, dywedodd dwy ran o dair o'r teuluoedd a gafodd eu holi eu bod "yn wynebu brwydr barhaus am gefnogaeth".
Mae un ddynes, a gafodd ei mabwysiadu dros 40 mlynedd yn ôl, bellach yn gwirfoddoli er mwyn helpu pobl i rannu eu profiadau nhw.
Stori Anwen
"O'n i tua pump neu chwe mis pan o'n i wedi cael fy mabwysiadau'n ffurfiol a symud i Ystalyfera," meddai Anwen Aspden a gafodd ei mabwysiadu ym mis Tachwedd 1971.
"[Pan yn] tyfu fyny o'dd mabwysiadu fi byth yn gyfrinach, o'dd popeth mor agored, o'n i'n ffodus iawn am hynny. O'dd teulu fi'n llawn cariad."
Ond er y fagwraeth hapus, roedd yr ysfa i ddysgu mwy am ei chefndir yn rhan amlwg o fywyd Anwen yn ifanc iawn.
"Pan o'n i tua 11-12 o'dd rhywbeth wedi newid yn fy meddwl i. Dwi ddim yn gw'bod beth oedd e, [ond] dwi'n credu o'dd mwy o gwestiynau'n dechre dod, o'n i mo'yn gwbod mwy ynglŷn â'n hanes i, ble o'n i 'di dod."
Mae Anwen yn dweud bod y diffyg gwybodaeth hynny wedi arwain at broblemau iechyd meddwl a'i bod wedi ei chael hi'n anodd yn yr ysgol.
Pan oedd hi'n 14 oed fe benderfynodd Anwen ei bod hi am geisio cael mwy o wybodaeth ac aeth ati i chwilio am ddogfennau a fyddai'n rhoi mwy o wybodaeth iddi am ei mabwysiadu.
"O'dd mam a dad mas o'n i'n mynd mewn i'r drâr a trial agor e, i edrych ar gymaint o cliws o'n i'n gallu cael ynglŷn â pwy o'n i, ble o'n i'n dod - ac eto i gyd doeddwn i ddim wedi trafod hwnna gyda neb ar y pryd, ond o'n i'n gw'bod o'n i mo'yn edrych.
"O'dd yr edrych yn amser hir, os fi'n onest, ac yn boenus."
Dywedodd bod ei hiechyd meddwl wedi dirywio erbyn ei bod yn 18 oed oherwydd nad oedd hi'n gallu cael yr atebion yr oedd hi eu heisiau a bod hyn wedi arwain at drafferthion mawr gyda bwyd.
"O'n i 'di mynd bron yn anorexic achos nag o'n i'n teimlo bo fi'n gallu cael yr atebion. O'dd rhaid i fi gael help trwy counselling… oherwydd o'n i jyst yn teimlo bo fi ishie cael atebion a ddim yn teimlo bod neb rili'n deall le o'n i'n dod o."
Brwydr gyson
Dydy profiad Anwen ddim yn unigryw. Mae hi bellach yn gwirfoddoli er mwyn helpu pobl i rannu eu profiadau nhw, ond mae'n teimlo bod angen mwy o help i bobl rhwng 16 a 21 oed.
Mae hynny'n cael ei adleisio gan elusen Adoption UK Cymru, sy'n rhybuddio am "argyfwng iechyd meddwl" ymhlith plant a phobl ifanc sydd wedi eu mabwysiadu.
Maen nhw'n dadlau nad yw'r system bresennol yn ddigonol i ateb yr anghenion.
Cafodd dros 350 o blant Cymru eu holi fel rhan o arolwg blynyddol gan yr elusen. Am y drydedd flwyddyn yn olynol fe ddywedodd traean o'r rhai a holwyd ei bod yn frwydr gyson i gael cefnogaeth.
Dywedodd Ann Bell, cyfarwyddwr Adoption UK Cymru: "Am y drydedd flwyddyn yn olynol, dywedodd dwy ran o dair o ymatebwyr o Gymru eu bod yn wynebu brwydr barhaus am gefnogaeth.
"Yn rhy aml o lawer, mae'r teuluoedd hyn yn cael eu methu gan system sy'n buddsoddi'n helaeth mewn lleoli plant i'w mabwysiadu. Mae nhw'n diflannu i'r cefndir - yn aml gyda chanlyniadau ofnadwy i iechyd meddwl y plant a'r teuluoedd sydd wedi'u mabwysiadu."
Ychwanegodd: "Hoffai Adoption UK Cymru weld mwy o gefnogaeth gyda throsglwyddo gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion ac ymestyn y gwasanaethau mabwysiadu i 26 oed yn y dyfodol."
Ond mae'r elusen yn cydnabod nad yw'r darlun yn un tywyll i gyd.
"Pan mae teuluoedd sy'n mabwysiadu yn dechrau'r broses mae llawer o gymorth," meddai, "ond mae proses yn newid, ac mae'n rhaid i ni roi cyfleon i bobl ifanc sydd wedi eu mabwysiadu i siarad am eu profiadau."
Dywedodd Ms Bell fod buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi gwella rhai agweddau ar wasanaethau mabwysiadu, ond bod angen gwneud mwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud, ac yn pwysleisio ei bod hi'n hollbwysig fod lleisiau pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi eu mabwysiadu yn cael eu clywed.
Maen nhw hefyd yn nodi eu bod wedi buddsoddi'n helaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi'r rhai sydd wedi eu mabwysiadu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn falch o'r ffaith fod adroddiad Adoption UK Cymru yn nodi bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth.
Cwrdd â'i rhieni biolegol
Ar ôl dros ddeng mlynedd o chwilio, fe ddaeth Anwen o hyd i'w rheini biolegol a hynny drwy gyd-ddigwyddiad llwyr.
Yn ystod y broses o gyfarfod â'i rhieni biolegol dywed Anwen ei bod hi'n hollbwysig nad oedd neb yn cael ei frifo, ac roedd hynny'n straen hefyd
"O'dd rhaid i fi neud yn siŵr nad o'n i'n anafu unrhyw un," meddai.
"Pan ti'n trio edrych ar ôl pawb, a ma' pawb yn troi ato ti ma' hwnna'n lot i rywun drio prosesu, pan ti'n dal yn trio gweithio fe mas.
"Mae'r siwrne dal yn mynd 'mlaen, dyw e byth yn stopio ond fi'n credu fel ti'n mynd yn hynach ti'n dechre derbyn pethe.
"Mae'r holl siwrne fabwysiadu yn gymhleth, cymhleth iawn, ond mae'n rhaid i ni siarad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2017