Pam dwi'n dewis gwneud gwaith rhyw

  • Cyhoeddwyd
TomFfynhonnell y llun, Tom
Disgrifiad o’r llun,

'Tom': "Dwi 'di creu'r cymeriad 'ma sy'n foi rygbi Cymraeg, sy' hefyd yn gwisgo dillad fem..."

Mae Lisa Angharad yn ôl gyda'i phodlediad sy'n trafod rhyw yn onest a di-flewyn-ar-dafod, Siarad Secs.

Yn y bennod gyntaf o'r ail gyfres, mae hi'n siarad â gweithiwr rhyw. Mae 'Tom' wedi bod yn gweithio yn y maes ers bron i ddeg mlynedd - i ddechrau gyda chleientiaid wyneb-yn-wyneb, ond yn ddiweddar mae hefyd wedi dechrau cyfrif OnlyFans ar y we, lle mae tanysgrifwyr yn gallu talu am gynnwys penodol dros fideo.

Dyma flas o'r sgwrs graffig ac agored, ble mae'n trafod ei agwedd at y gwaith, rhagfarnau pobl eraill, a'r hyn hoffai ei weld yn digwydd er mwyn gwneud gwaith rhyw yn fwy diogel.

Pam dy fod ti wedi dechrau gwneud gwaith rhyw?

Pan 'nes i ddechrau prifysgol yn 2012, o'n i'n 18, ac o'dd student loan fi ddim yn ddigon i cyfro expenses fi. Dwi'n cofio 'nath rhywun approachio fi ar Grindr a gofyn faswn i efo diddordeb 'neud rhywbeth iddo fo am bres.

O'dd o'n eitha' diniwed, yr unig beth o'dd o isho i fi 'neud o'dd dod i'w dŷ fo a gwisgo fyny fel bachgen ysgol, a fasa fo'n spankio fi am hanner awr gyda gwahanol household objects. O'dd o'n £50, o'dd o'n cymryd hanner awr o amser fi, ac o'n i jyst yn meddwl 'dwi'n joio hwn, a mae o'n hawdd, a mae'r pres yn ddigon da am hanner awr o waith', a 'nath o jyst dechrau o fan'na deud y gwir.

Dwi'n gwybod fod hyn yn fraint fawr, mod i 'di gallu pigo fyny gwaith rhyw, fel bod o'n 'wbath hawdd i'w 'neud, pryd bynnag 'da chisho - achos does gen lot o bobl eraill ddewis mewn 'neud gwaith rhyw.

Dwi'n meddwl bod y broblem yng Nghymru yr un fath ag unrhyw le arall - bod neb yn parchu gwaith rhyw fel swydd go iawn. "

I fi, rhan o'r hwyl o 'neud o - y thrill, y pleser - ydi fod rhywun isho talu chdi am rywbeth, a mae'r teimlad yna yn validating. Mae hi'n neis i deimlo bo' chi'n rhoi beth mae rhywun isho iddyn nhw.

Pa fath o bobl sydd yn talu am ryw?

Mae 'na misconception o gwmpas gwaith rhyw mai'r unig bobl sy'n talu am ryw ydi cretins, a dydi hwnna jyst ddim yn wir o gwbl. Mae lot o bobl isho talu achos maen nhw isho rhyw sydd ddim yn gymhleth a no strings attached, lle maen nhw'n gwybod bod nhw am gael yn union be' mae nhw isho yn y foment.

A mae 'na garantî bod nhw am gael eu ffantasi nhw, heb orfod mynd trwy'r camau mae'n rhaid i chi pan 'da chi'n cwrdd â rhywun am ddêt.

Ond dydi hynny ddim yn golygu bod nhw'n ffantasis budr, jyst pethau sy'n benodol iawn, lle dydyn nhw ddim isho gorfod negotiatio efo neb, lle maen nhw jyst isho deud 'dyna be' dwisho a dwi jyst isho hwn efo rhywun sydd am ei 'neud o'n iawn i mi, achos dwi'n eu talu nhw'.

Intimacy [mae pobl isho] rhan fwyaf. O'dd un o cleients fi jyst isho cuddles. A bechod, o'dd o'n eitha' hen, ac o'dd ganddo fo lot o broblemau iechyd. O'dd o jyst isho teimlo bod rhywun isho fo, a bod yn desirable am awr.

Sut ymateb wyt ti'n ei gael pan mae pobl yn dod i wybod beth ydi dy swydd di?

I fod yn onest, yr unig ymateb negyddol dwi 'di gael ydi weithiau pan dwi'n siarad efo rhywun mewn cyd-destun rhamantus.

Yr eiliad maen nhw'n ffeindio allan mod i'n gneud Only Fans, maen nhw'n troi yn judgemental iawn, ac yn meddwl mod i ddim yn cadw fyny efo'n iechyd rhywiol i, a mod i'n fudr. Neu weithiau'n deud 'dwi ddim isho cysgu efo ti achos dwi'n poeni 'nei di ffilmio fi heb ddeud wrtha i'. Sy'n hollol anghyfreithlon, a 'swn i byth yn ffilmio neb heb caniatâd nhw.

I ferched a phobl traws, dydi gwaith rhyw ella ddim yn ddewis, fel mae o i fi."

Dwi'n meddwl bod 'na lot fwy o acceptance yn y gymuned hoyw ynglŷn â gwaith rhyw OnlyFans, ond mae 'na dal lot o waith i'w 'neud ynglŷn â preconceptions am waith rhyw mwy 'traddodiadol' yn y gymuned hoyw hefyd.

Dwi'n meddwl bod y broblem yng Nghymru yr un fath ag unrhyw le arall - bod neb yn parchu gwaith rhyw fel swydd go iawn. 'Dan ni angen undebau, 'dan ni angen protections, 'dan ni angen llefydd i 'neud gwaith rhyw sydd yn saff.

Lot o'r problemau ti'n rhedeg fewn i pan ti'n gwneud gwaith rhyw ydi does gen ti ddim rhywle i 'neud y gwaith yn saff; ella mae ganddyn nhw ddigon i dalu chdi am dy amser, ond does ganddyn nhw'm digon i dalu am stafell mewn gwesty am ddwyawr, neu mae ganddyn nhw deulu adra a dydyn nhw'm yn gallu dod â chdi rownd am awr i gael sesiwn... 'chydig bach yn awkward!

Disgrifiad o’r llun,

Yn Siarad Secs, mae Lisa Angharad yn cael sgyrsiau agored am bopeth i'w wneud gyda rhyw

Pa mor ddiogel ydi'r gwaith?

Dwi'n ymwybodol bod hi'n fraint mawr mod i byth 'di teimlo'n threatened o gwbl gan neb, achos I can carry myself in a fight. Os 'di rhywun am ddechrau rhywbeth, 'swn i'n eitha' hyderus bo' fi'n iawn.

Ond i ferched a phobl traws, dydi gwaith rhyw ella ddim yn ddewis, fel mae o i fi. Mae hi'n gallu bod yn beryglus iawn. Dwi byth wedi teimlo ofn - dim digon o ofn mod i'n poeni mod i'n mynd i gael fy mrifo - ond dwi'n ymwybodol mod i'n lwcus iawn i gael deud hynny.

Beth yn union yw'r gwahaniaeth rhwng gwaith rhyw 'traddodiadol' a dy waith di ar OnlyFans?

Mae OnlyFans yn cyfri' fel gwaith rhyw, ond 'swn i'n 'deud bod hi'n different ball game, achos efo OnlyFans, 'da chi mewn rheolaeth o'r sefyllfa. Os 'da chi'n cael rhyw efo rhywun, mae o'n rhywun 'da chi isho cael rhyw efo, a 'da chi'n ffilmio rhywbeth efo'ch gilydd i wneud pres ar OnlyFans.

Sa'n well gen i bod nhw'n gwylio porn sydd wedi cael ei 'neud gan rywun sy'n body-positive, sy'n queer-positive, sy'n gwisgo be' bynnag maen nhw isho..."

[Allwch chi ofyn am] unrhyw beth 'da chisho. Mae subscribers fi yn talu fi i 'neud fideos o fi yn eistedd lawr ar wahanol bwdinau! 'Swn i'n deud bod hwnna'n debyg i waith rhyw traddodiadol, achos dyna lle mae gen ti rywun efo ffantasi neu kink reit specific a maen nhw jyst isho gweld hwnna a jyst isho talu am hwnna; fideo preifat iddyn nhw, ac maen nhw'n gallu ei gadw fo am byth i'w wylio pryd maen nhw isho.

Dwi 'di bod yn eitha' lwcus. 'Nes i ddechrau 'neud o yn locdown, a mae'r pres yn mynd o £800-£1500 y mis. Mae subscribers yn mynd i fyny ac i lawr, yn dibynnu ar pa fath o fis dwi 'di gael, pa mor active dwi 'di bod, pa fath o promotions dwi 'di 'neud ar Twitter, a pethau fel'na.

Rwyt ti, fel llawer o bobl ar OnlyFans, yn gwneud dy waith hyrwyddo ar Twitter. Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n beth da fod cynnwys mor rhywiol ar gael mor agored i bobl ifanc allu ei ffeindio?

Ydw, achos dwi'n meddwl fod 'na gymaint o porn erchyll ar-lein, a 'da ni i gyd yn gwybod fod lot o bobl ifanc yn licio porn o oedran ifanc iawn. Os 'swn i'n 15 a ffeindio fy mhroffil Twitter i, dwi'n meddwl fyddai o wedi bod yn positif i fi.

Dydi hwnna ddim yn meddwl mod i isho pobl dan oed i wylio'n stwff i, ond y ffaith ydy, maen nhw beth bynnag, a 'sa'n well gen i bod nhw'n gwylio porn sydd wedi cael ei 'neud gan rywun sy'n body-positive, sy'n queer-positive, sy'n gwisgo be' bynnag maen nhw isho, sydd efo unrhyw fath o gorff mae o isho'i gael, sy'n bwyta be' mae o isho, sy'n wrth-hiliaeth, sy'n pro-trans, sy'n wleidyddol, sy'n trio bod yn berson clên, a sydd hefyd yn gneud porn.

A dydi hynny ddim i ddeud fod yna ddim byd yn rong efo ffantasis; y rheswm mae ffantasis mor bleserus, achos bod nhw'n tabŵ. Ond y broblem yw, pan 'da chi mor saturated yn y ffantasis 'ma, 'da chi ddim yn gallu gweld y person sy' tu ôl i'r ffantasi, a gweld nhw yn bod yn berson cyfan. Dyna dwi isho'i 'neud.

Ia, ella, weithiau, 'na i 'neud wbath sy'n reit kinky, ond y post nesa' dwi'n postio am rywbeth sy'n digwydd yn y byd, neu am iechyd meddwl neu iechyd corff.

Jyst achos bo' fi'n gneud y stwff ffantasi, dydi hynny ddim yn meddwl mod i ddim yn berson cyfan sydd efo lot o wahanol ddiddordebau mewn pethau eraill.

Pynciau cysylltiedig