Atal treialu cerbydau'r fyddin dros dro

  • Cyhoeddwyd
Ajax Armoured VehicleFfynhonnell y llun, Crown Copyright

Mae treialon ar gyfer cerbydau arfog newydd y fyddin wedi eu hatal eto wedi cwynion bod y sŵn yn cael effaith ar y criw.

Mae cerbydau Ajax yn cael eu rhoi at ei gilydd gan gwmni General Dynamics ym Merthyr Tudful.

Y nod yw darparu "cerbydau ymosod cwbl fodern i'r fyddin".

Dyma'r eildro i'r gwaith o dreialu y cerbydau newydd £5.5bn gael ei atal wedi cwynion am y sŵn.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai'r gwaith yn dod i ben am y tro wedi pryderon newydd.

Wrth gyhoeddi'r newyddion dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Jeremy Quin, bod y rhaglen yn un "drafferthus".

Mae'r Blaid Lafur wedi annog y llywodraeth i "gael trefn ar y gwaith wrth iddo fod yn un llanast sy'n stopio ac yn ailddechrau".

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn arwyddo cytundeb ar gyfer 589 o'r cerbydau arfog Ajax yn 2014 ac mae nhw eisoes wedi gwario £3.5bn ar y gwaith.

Dywedodd llefarydd ran General Dynamics UK bod ganddynt hyder "yng nghynllun y cerbyd" a bod y weinyddiaeth wedi dweud wrth y cwmni bod y gwaith cydosod wedi'i "atal dros dros dro".

Pynciau cysylltiedig