Gwahardd cyn-brifathro rhag dysgu wedi achos llys

  • Cyhoeddwyd
Kevin ThomasFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Kevin Thomas yn euog o ymosodiad rhyw yn Llys Y Goron Casnewydd yn 2018

Mae cyn-brifathro ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael ei wahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol ar ôl rhoi dillad isaf i fenyw yn ei swyddfa ac anfon ebyst awgrymog ati.

Cafodd Kevin Thomas, 49, ei dynnu oddi ar y gofrestr dysgu wedi i wrandawiad disgyblu ddyfarnu bod cymhelliad rhywiol i'w ymddygiad.

Clywodd y gwrandawiad hefyd ei fod wedi dweud wrth gymhorthydd dysgu ifanc ei fod eisiau "taro ei phen-ôl" a cheisio tynnu ei thop i lawr.

Clywodd y panel camymddygiad bod athrawon eraill yn dweud y byddai Mr Thomas yn defnyddio geiriau awgrymog o flaen plant oedran cynradd, ac yn gwneud sylwadau o'r fath mor aml nes bod staff wedi dod i arfer â'r peth.

Cafodd Mr Thomas ei ddiarddel o'i swydd fel pennaeth Ysgol Glan-yr-Afon, Llanrymni wedi i'r fenyw gwyno ei fod yn ei haflonyddu'n rhywiol.

Cyflwynodd y cymhorthydd dysgu gŵyn wedi hynny ynghylch ei ymddygiad gan arwain at ymchwiliad gan yr awdurdod addysg a'r heddlu.

Cafwyd Mr Thomas yn euog maes o law yn Llys Y Goron Casnewydd o ymosodiad rhyw.

'Camymddwyn difrifol'

Dywedodd y fenyw wrth y gwrandawiad disgyblu bod Mr Thomas wedi danfon cyfres o ebyst "anweddus" a "di-chwaeth" ati am dros flwyddyn.

Pan erfyniodd arno i stopio atebodd: "Dim nes i mi gael cusan a chwtsh."

Dywedodd bod yr ebyst y danfonodd ati "yn gynyddol amhriodol ac yn gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus".

Ychwanegodd ei bod wedi ceisio herio Mr Thomas am yr ebyst, a'i fod yn ddiweddarach wedi prynu dillad isaf iddi hi.

Clywodd y Cyngor Gweithlu Addysg fod Mr Thomas wedi cyffwrdd â'r fenyw yn amhriodol ar fwy nag un achlysur cyn yr ymosodiad rhyw arni yn yr ysgol.

Cafwyd Mr Thomas yn euog o gyfres o honiadau o gamymddwyn oedd gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, ac fe gafodd waharddiad rhag dysgu am gyfnod amhenodol.

Dywedodd cadeirydd y panel, Tracy Jones: "Roedd cymhelliad rhywiol i ymddygiad Mr Thomas ac fe wnaeth gymryd mantais o'r ymddiriedaeth a dylanwad oedd ganddo yn rhinwedd ei swydd. Roedd hyn yn gamymddwyn rhyw difrifol a pharhaus."

Pynciau cysylltiedig