Agor canolfan gymunedol newydd yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gymunedol newydd wedi agor yn Hwlffordd ar ôl chwe blynedd o waith gan bobl leol.
Mae Haverhub wedi ei lleoli yn yr hen Swyddfa Bost a chanolfan ddosbarthu ar Stryd y Cei, a'r gobaith yw y bydd y ganolfan yn sbardun ar gyfer adfywiad y dref.
Cafodd yr adeilad cofrestredig Gradd II ei brynu yn 2017 gan Jerry Evans.
Ers hynny, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn datblygu'r adeilad.
Dywedodd Myfanwy Lewis, sy'n gwirfoddoli gyda'r fenter: "Mae'r syniad gwreiddiol a'r egin yn mynd 'nôl i 2015.
"Roedd Gitti Cotes yn gyrru heibio ac yn gweld yr holl adeiladau hynafol, rhestredig yn dirywio a neb yn eu defnyddio.
"Yn 2017, cafodd grŵp ei sefydlu i brynu lle i gael hwb yn Hwlffordd. Oherwydd bod y lle yma gyda sut gymaint o botensial, cafodd hwn ei ddewis.
"Roedd yna adegau pan oeddwn i yn meddwl nad oedd hyn yn mynd i ddigwydd ond mae e wedi. Gyda dyfalbarhad a help a mewnbwn gan bob math o bobl ni wedi dod ben â hi."
Fe fydd Haverhub yn cael ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau - rhai celfyddydol, cymunedol ac fel canolfan gweithio o bell.
Mae Siryf Hwlffordd, Richard Blacklaw-Jones, yn gweld y cynllun fel sbardun i adfywio Hwlffordd.
"Mae'n anghredadwy beth sydd wedi digwydd - mae'n dipyn o wyrth," meddai.
"Mae mor galonogol i weld asset o'r fath yng nghanol y dref yn dod 'nôl i gael ei ddefnyddio.
"Mae'n lle enfawr tu fewn - lle i gael bandiau yn chwarae, côr yn canu, twrnament chess. Mae cymaint o bosibiliadau."
Mae'n rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru i ddatblygu canolfannau gweithio o bell.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd 30% o bobl yn gweithio mewn lleoliadau y tu hwnt i swyddfeydd traddodiadol yn y pendraw.
Fe fydd modd i bobl logi desg neu swyddfeydd yn yr adeilad fesul diwrnod neu am gyfnodau hirach.
'Gweld potensial yr adeilad'
Dywedodd Gitti Cotes, sylfaenydd Haverhub: "Ni'n gyffrous iawn i fod yn llwyfannu cynllun peilot ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mi all pobl logi desgiau a WiFi am ychydig oriau.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am ddesgiau am flwyddyn fel y gall pobl weithio yn agosach at eu cymunedau."
Mae'r fenter wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Penfro a Chronfeydd Rhanbarthol Ewropeaidd.
Dywedodd y cyfarwyddwr cyllid, Jerry Evans ei fod wedi "gweld potensial yr adeilad".
"Dyma'r union beth sydd angen ar y dref. Mae'n arwyddocaol iawn. Mae pawb yn y dref yn teimlo yn gyffrous iawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021