Covid: Croes y Brenin Siôr i GIG Cymru am ei waith

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Croes y Brenin SiôrFfynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Frenhines wedi dyfarnu'r Groes i wasanaethau iechyd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae'r Frenhines wedi dyfarnu Croes y Brenin Siôr i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru am ei waith yn ystod y pandemig.

Mae'r Groes, na sy'n cael ei rhoi i sefydliadau'n aml, yn cydnabod gweithredoedd o ddewrder eithriadol wrth geisio achub bywydau pobl eraill.

Daw'r cyhoeddiad ar ben-blwydd y gwasanaeth yn 73 oed.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi ar wahân i wledydd y Deyrnas Unedig.

Hwn ydy'r trydydd achlysur i Groes y Brenin Siôr gael ei dyfarnu i gorff, gwlad neu sefydliad ar y cyd, yn hytrach nag unigolyn.

Ymateb dwy nyrs

Dywed Eleri Jones, un sydd yn arwain tîm o nyrsys cymunedol ym Machynlleth ac sydd wedi gweithio i'r GIG am 31 o flynyddoedd: "Mae'n fraint cael ein cydnabod fel hyn. Dwi'm yn meddwl bo' ni wedi bod yn ddewr achos mae'r cyfan yn rhan o'n gwaith bob dydd ni.

"Mae cyfnod y pandemig wedi rhoi lot fwy o bwyslais arnom ni'r staff. 'Da ni wedi gweithio drwy'n gwyliau. Mae'r cyfnod wedi gofyn mwy a mwy ohonom ni - ac mae nyrsys yn mynd i losgi allan os nad ydyn nhw'n cael help.

"Dwi'n teimlo bod lot yn gadael yr NHS oherwydd y straen cynyddol sydd wedi bod - mae hynny'n drist i'w weld."

Ffynhonnell y llun, Pat Edwards
Disgrifiad o’r llun,

'Oni bai am y gwasanaeth iechyd fyddai ein mab ddim wedi byw cyhyd,' medd Pat Edwards

Bu Pat Edwards o Lanbrynmair yn gweithio i'r GIG am 43 o flynyddoedd. Dywed hefyd na fyddai hi a'i gŵr wedi gallu byw heb y gwasanaeth gan i'w diweddar fab ddibynnu ar y GIG tan ei farwolaeth bum mlynedd yn ôl.

"Dwi'n reit falch bo' nhw'n cydnabod y cyn-weithwyr hefyd," meddai, "ond yn y ddwy flynedd ddiwethaf dwi'n meddwl bod nyrsys wedi mynd allan o'u ffordd a ddim wedi cael eu talu'n ddeche.

"Ddylen nhw gael tâl gwell a chyfleusterau gwell hefyd.

"Fel teulu fydden ni dim wedi gallu byw heb y gwasanaeth. Bu ein mab John yn ddibynnol ar y gwasanaeth o ddiwrnod ei eni tan iddo farw yn ei 50au. Oni bai am y gwasanaeth iechyd fyddai o ddim wedi byw cyhyd."

Ysgrifennodd y Frenhines: "Mae'n bleser mawr, ar ran cenedl ddiolchgar, fy mod yn dyfarnu Croes y Brenin Siôr i Wasanaethau Iechyd Gwladol y Deyrnas Unedig.

"Mae'r wobr hon yn cydnabod holl staff y GIG, ddoe a heddiw, ar draws pob disgyblaeth a phob un o'r pedair gwlad.

"Gyda'i gilydd, dros fwy na saith degawd, maent wedi cefnogi pobl ein gwlad gyda dewrder, tosturi ac ymroddiad, gan arddangos y safonau uchaf o wasanaeth cyhoeddus.

"I chi mae'n diolch parhaus a'n gwerthfawrogiad twymgalon."

Ffynhonnell y llun, Buckingham Palace
Disgrifiad o’r llun,

Llythyr y Frenhines at y gwasanaethau iechyd

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: "Mae'r wobr hon nid yn unig yn cydnabod y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth heddiw, ond hefyd bawb sydd wedi gweithio yn y sefydliad amhrisiadwy hwn dros yr holl flynyddoedd ers ei greu.

"Mae'n anodd mynegi pa mor ddiolchgar ydyn ni i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am bopeth y mae wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, gan fynd yr ail filltir i'n trin, gofalu amdanom a'n cefnogi.

"Arwydd bach yw'r wobr hon o'n gwerthfawrogiad am wasanaeth arwrol - gwobr sy'n dangos pa mor ddyledus ydyn ni i bawb am eu gwaith."

"Mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru wedi dangos gwydnwch, angerdd, proffesiynoldeb ac ymroddiad drwy gydol un o heriau mwyaf ein hoes," meddai Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.

"Maen nhw wedi bod yno i ni a'n hanwyliaid pan nad oedd modd i neb arall fod yno, gan ysgwyddo beichiau corfforol ac emosiynol enfawr.

"Rwy'n gobeithio mai effaith hirdymor y pandemig yw y byddwn yn trysori'r Gwasanaeth Iechyd a'i staff yn fwy fyth yn y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig