Sefydlu gwasanaeth cwnsela i weithwyr iechyd
- Cyhoeddwyd
Wedi blwyddyn anodd i weithwyr iechyd yn sgil Covid, bydd gwasanaeth cwnsela newydd yn cael ei lansio yng Nghymru er mwyn rhoi cefnogaeth i bobl yn y proffesiwn meddygol.
Bydd gwasanaeth Enfys yn cael ei reoli gan elusen Adferiad Recovery ac fe fydd ar gael ar draws Cymru gyfan.
Cafodd yr elusen ei sefydlu yn Ebrill 2021 ac mae'n gyfuniad o sawl elusen - yn eu plith CAIS, dolen allanol, Hafal, dolen allanol ac WCADA, dolen allanol.
Bwriad y gwasanaeth newydd yw helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau alcohol, camddefnyddio sylweddau neu ymddygiadau niweidiol eraill.
Dywedodd Alun Thomas, Prif Weithredwr Adferiad Recovery: "Rydym wrth ein boddau yn lansio'r gwasanaeth hanfodol newydd yma fydd yn darparu cefnogaeth sy'n fawr ei angen ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru.
"Mae gweithwyr gofal iechyd wedi arfer gweithio o dan bwysau ond yn y flwyddyn ddiwethaf mae Covid-19 wedi rhoi mwy o straen ar eu bywydau.
"Mae eu gwasanaeth yn ystod y pandemig wedi bod yn amhrisiadwy, felly rydym yn falch i allu cynnig gwasanaeth hyblyg ac amserol iddynt."
Dywed yr elusen bod gweithwyr gofal iechyd yn "boblogaeth sy'n wynebu risg anghymesur o ddatblygu anhwylderau dibyniaeth ac iechyd meddwl gwael, sydd yn achos pryder yn dilyn blwyddyn derfysglyd ar gyfer y sector".
Ychwanegodd llefarydd: "Bydd Enfys yn cynnig pecynnau cwnsela cyfrinachol sydd wedi'u teilwra i anghenion yr unigolyn ac yn darparu cefnogaeth i'w partneriaid a'u teuluoedd.
"Y nod yw darparu cefnogaeth barhaus ac ôl-ofal fydd yn helpu gweithwyr gofal iechyd sydd yn cael anhawster gyda dibyniaeth, neu faterion iechyd meddwl. Ry'n am gynnal newidiadau parhaol yn eu bywydau."
Bydd gwasanaeth Enfys yn cael ei lansio'n ffurfiol ar 1 Mehefin mewn digwyddiad ar-lein.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020