Arddangosfa gyntaf artist sydd â chanser terfynol
- Cyhoeddwyd
Mae artist o Bowys, sy'n derfynol sâl gyda chanser, yn cynnal ei arddangosfa gyntaf er mwyn codi arian ar gyfer dwy elusen sy'n gofalu amdano.
Cafodd Tim Platt, 59, o'r Trallwng, ddiagnosis o ganser y colon a lymffoma ym mis Hydref 2016.
Yn yr arddangosfa yng Nghanolfan Gelf a Pharc Cerfluniau Canolbarth Cymru yng Nghaersws mae'n dangos gwaith y mae wedi'i greu trwy gydol ei yrfa - o grochenwaith cynnar i gelf gweledol mwy diweddar sydd wedi'i ysbrydoli gan ei brofiad o fyw gyda chanser.
Mae Tim wedi dysgu crochenwaith a chelf yn yr UDA a'r DU, ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i wneud crochenwaith am fod ei allu i weithio gyda'i ddwylo wedi dirywio oherwydd y cemotherapi.
Ond mae'n dweud nad yw erioed wedi colli'r ysfa i fod yn greadigol ac mae hynny wedi bod yn arbennig o bwysig iddo ers dechrau byw gyda chanser.
"Dwi wedi clywed ers y dechrau fy mod yn cael gofal lliniarol," meddai.
"Dyw'r diagnosis ddim yn mynd i newid - dwi'n mynd i gael fy lladd gan ganser yn y pen draw. Ond dwi erioed wedi stopio mwynhau bod yn fyw a dwi erioed wedi stopio mwynhau creu."
Mae peth o waith celf Tim yn ymwneud yn uniongyrchol â'i salwch - teitl yr arddangosfa yw 'Curtains', sy'n cyfeirio at ddarnau mae Tim wedi'u gwneud o orchuddion y llawes blastig o fagiau stoma y mae bellach yn eu defnyddio ar ôl cael llawdriniaeth ar y coluddyn.
Mae Tim yn cael ei ganfed triniaeth cemotherapi yr wythnos hon yng Nghanolfan Ganser Lingen Davies yn yr Amwythig.
O'i gartref yn y Trallwng, dyw'r daith ddim yn rhy bell, ond mae'n deall bod cleifion canser eraill yng ngogledd Powys yn wynebu teithiau hirach allan o'r sir - naill ai i Amwythig neu i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
"Dwi'n cydymdeimlo â llawer o bobl sy'n byw yn bellach i'r gorllewin. Maen nhw'n gorfod mynd yr holl ffordd i Amwythig i gael eu cemotherapi ac yna teithio adref pan na fyddan nhw'n teimlo'n dda ar ôl y 'chemo'. Rhaid ei bod yn anodd iawn iddyn nhw."
Mae Tim yn cefnogi'r prosiect Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys (ICJ) - prosiect ar y cyd rhwng elusen Macmillan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys.
Nod y prosiect yw trin cleifion canser mewn modd cyfannol a, lle bo modd, dod â thriniaethau mor agos at adre ag sy'n bosib.
Dywedodd Richard Pugh - pennaeth elusen Macmillan yng Nghymru: "Mae'r prosiect yma yn bwysig iawn i gleifion ym Mhowys - mae pawb yn gwybod bod Powys yn rhywle lle mae'n rhaid i bobl deithio am driniaeth.
"Beth ni'n gwneud gyda'r prosiect yma yw gweld beth yw'r effaith ar y cleifion ym Mhowys.
"Mae'r rhan fwya o bobl yn y sir sydd â chanser yn teithio (allan o'r sir) am driniaeth.
"Does dim un lle arall yng Nghymru fel yna - ni eisiau gwybod beth mae'r cleifion yn mynd trwy. Maen nhw'n dod i Gaerdydd, maen nhw'n mynd i'r gogledd i'r de ac maen nhw'n mynd i Loegr hefyd."
Cefnogaeth i gleifion canser Powys
Ym Mhowys mae bron i 1,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn. Mae'r ICJ yn brosiect tair blynedd a'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Y nod yw sicrhau bod pawb sy'n byw gyda chanser yn cael yr help a'r gefnogaeth iawn i fyw eu bywyd mor llawn ag y gallen nhw.
Bydd pawb sy'n cael diagnosis o ganser yn cael 'asesiad anghenion cyfannol' a fydd yn ystyried unrhyw gefnogaeth ymarferol, gorfforol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol sydd ei hangen ar y claf.
Dywedodd Louise Hymers - Nyrs Arweiniol Macmillan ar gyfer Canser a Gofal Lliniarol ym Mhowys: "Un o'r problemau o fyw yn rhywle fel Powys sy'n wledig iawn, yw'r pellteroedd y mae'n rhaid i bobl deithio i gael mynediad at eu triniaethau.
"Er nad y'n ni yn gallu cynnig pethau fel cemotherapi ym Mhowys ar hyn o bryd, yr hyn y gallwn ei wneud yw edrych ar y rhannau o'r gofal y gallwn ni ddod yn nes.
"Er enghraifft, clywsom ni gan gleifion a oedd yn gorfod teithio i gael apwyntiadau prawf gwaed cyn cemotherapi. Felly ry'n ni wedi dechrau gweithio gyda meddygfeydd a thimau nyrsio ardal i sicrhau bod pobl yn gallu cael prawf gwaed yn agosach at adref.
"Mae'n torri lawr ar faint o deithio, ac yn sicrhau bod y siwrneiau hynny sy'n rhaid eu gwneud yn hanfodol. "
Ychwanegodd Louise Hymers hefyd nad y newyddion ofnadwy am ddiagnosis canser yw'r prif bryder i gleifion bob amser: "Mae pethau fel cyllid - 'sut ydw i'n mynd i dalu'r morgais?' 'Sut ydw i'n mynd i ddweud wrth fy mhlant fy mod i wedi cael canser?' Mae hynny'n rhywbeth ry'n ni'n clywed llawer gan bobl sydd â theuluoedd ifanc. Pethau fel 'Sut mae mynd yn ôl i'r gwaith?' 'Allaf i weithio?'
"Ry'n ni yn edrych ar y diagnosis a'r driniaeth, ond hefyd yn edrych ar bob agwedd arall ar fywyd pobl i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael ag unrhyw anghenion a phryderon sydd ganddyn nhw."
Taclo unigedd
Mater arall sy'n codi mewn sir mor wledig â Phowys yw unigedd a phobl yn teimlo'n ynysig.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander - Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion yng Nghyngor Sir Powys - fod yr ICJ yn anelu at fynd i'r afael â hyn.
"'Da ni yn gwybod os wyt ti yn byw mewn ardal wledig fel hyn mae siawns i bawb deimlo'n ynysig bob hyn a hyn. Ond mae 'na bobl allan yna sydd â phrofiad ac yn gwybod yn union sut i helpu," meddai.
"A dyna'r rheswm pam mae cydweithrediad mor bwysig - efallai bod rhywun eisiau rhywun i fod yn gyfaill iddyn nhw, mae hyn yn arbenigedd sydd gan elusen Macmillan.
"Efallai bod rhywun angen help gydag arian neu fater tai - mae hyn yn rhan o arbenigedd y cyngor sir. Felly trwy weithio ar y cyd, mae rhywbeth 'dan ni yn gallu cynnig i bob un claf."
Yn ôl Tim Platt mae gofalu am iechyd meddwl a lles claf yn gallu bod yr un mor bwysig â gofalu am ei iechyd corfforol.
Mae'n dweud bod dod o hyd i rywbeth creadigol sydd o ddiddordeb i chi yn help mawr i'ch lles.
"Os oes unrhyw un allan yna yn cael trafferth (gyda'u hiechyd meddwl) does dim cywilydd mewn dweud wrth rhywun bod angen help arnoch chi," meddai.
"Mae'r rhaglen ICJ a Macmillan wedi fy ngwneud yn falch iawn a rwy'n edrych ymlaen at allu eu helpu nhw a phobl eraill gyda'r arddangosfa hon."
Bydd Tim yn rhoi arian gaiff ei godi o werthu ei waith i Gymorth Canser Macmillan a Chanolfan Ganser Lingen Davies yn Amwythig.
"Dwi ddim yn credu y bydd yr arian yn agos at grafu wyneb y swm sydd wedi'i wario i gadw fi yn fyw, heb sôn am bawb arall sy'n mynd trwy hyn. Does gennych chi ddim syniad faint mae'r cemegolion hynny'n ei gostio.
"Ond bydd yn gyfraniad o leiaf, hyd yn oed os yw'n symbolaidd, ac yn annog pobl eraill i roi cymaint ag y gallen nhw hefyd. Oherwydd dy'ch chi byth yn gwybod, 'fallai mai chi fydd angen triniaeth ryw ddydd," ychwanegodd.
Mae arddangosfa Tim Platt i'w gweld yng Nghanolfan Gelf a Pharc Cerfluniau Canolbarth Cymru yng Nghaersws tan 23 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020