Darluniau o fywyd ar reng flaen y pandemig coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Bydd darluniau o fywyd y tu fewn i ysbyty maes mwyaf Cymru yn mynd ar werth i godi arian ar gyfer elusen.
Cafodd Stadiwm y Principality ei drawsnewid i fod yn Ysbyty Calon y Ddraig yn ystod y pandemig coronafeirws er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Cafodd yr artist Dan Peterson ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i recordio'r cyfnod "hanesyddol" mewn cyfres o ddarluniau.
Mae gan Mr Peterson o Gaerdydd brofiad o weithio fel artist swyddogol y Fyddin Brydeinig yn Nhalaith Helmand yn Afghanistan.
Dywedodd bod y syniad o staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio ar y rheng flaen yn erbyn y feirws wedi ei ysbrydoli i wneud cofnod o'u profiadau nhw a'r cleifion.
"Mae'n fraint i fod yma ac i gael mynediad i wneud y darluniau," meddai.
"Daeth i'r amlwg bod hwn yn gyfnod pwysig - hanesyddol - a bod angen recordio'r hyn sy'n digwydd."
Fe wnaeth cleifion olaf yr ysbyty maes adael wythnos ddiwethaf, ond fe fydd y cyfleuster ar gael i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro tan yr hydref wrth i ofidion dros gynnydd arall yn nifer yr achosion o coronafeirws barhau.
Mae llai na hanner cant o gleifion wedi bod yn Ysbyty Calon y Ddraig ers iddo agor ym mis Ebrill, gyda'r safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion oedd yn gwella o'r haint.
"Dydw i ddim yn meddwl byddai unrhyw un wedi gallu rhagweld y bydden nhw'n gweithio neu'n derbyn gofal mewn cyfleuster fel hyn," meddai cyfarwyddwr clinigol yr ysbyty, Dr Alex Murray.
"Byddech chi byth yn gallu dychmygu gweithio mewn lle fel hyn ar wahân i'r rhai sydd wedi cael profiad o weithio gyda'r fyddin.
"Roedd hwn yn syniad estron ar y dechrau ond i weld safon y cyfleuster rydyn ni wedi llwyddo adeiladu, safon y gofal rydyn ni wedi gallu rhoi i gleifion, a'r ffordd mae pawb wedi cydweithio - mae'n arbennig."
Ar ôl treulio nifer o ddiwrnodau yn dilyn y gwaith o fewn yr ysbyty maes yn agos iawn, dywedodd Dan Peterson: "Mae'r staff yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn gwella'n iawn achos maen nhw wedi bod trwy gymaint yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"Rydw i wedi gweld dagrau ambell i dro yn ystod y cyfnod yma wrth i bwysigrwydd y swydd mae'r staff yn ei wneud eu taro nhw."
Bydd hanner yr elw o werthiant y darluniau yn mynd i gronfa celfyddydau'r bwrdd iechyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2020