'Cwestiynau i'w holi' am reolaeth Covid ysbytai'r gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae "pob math o gwestiynau yn dod i'r meddwl" am sut mae ysbytai yng ngorllewin Cymru wedi rheoli haint Covid-19, yn ôl AS y rhanbarth.
Daw sylwadau Cefin Campbell wedi iddi ddod i'r amlwg bod bron i draean o'r rhai fu farw o Covid-19 ym myrddau iechyd Hywel Dda a Phrifysgol Bae Abertawe wedi'u heintio mewn ysbytai.
Ddechrau'r wythnos, fe wnaeth ymchwil gan raglen Newyddion BBC Cymru ganfod fod bron i chwarter y bobl a fu farw o Covid yng Nghymru wedi dal yr haint mewn ysbytai.
Gwrthod galwadau am gynnal ymchwiliad penodol i Gymru mae Llywodraeth Cymru, gan ddweud y bydd ymchwiliad cyhoeddus y DU yn cynnwys y wlad.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod pob achos o heintio mewn ysbyty yn cael ei drin yn unigol.
"Mae'n anodd deall pam bod ffigyrau'r gorllewin yn uwch na gweddill Cymru nes bod ymchwiliad yn cael ei wneud ac mae pob math o gwestiynau yn dod i'r meddwl ynglŷn â shwt ma' ysbytai yn yr ardaloedd yma yn rheoli'r haint," meddai Mr Campbell, AS Plaid Cymru yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae yna gwestiynau am nyrsio - barrier nursing maen nhw'n ei alw fe - sut bod hynny wedi digwydd yn naturiol, symud cleifion rhwng ysbytai ac o ysbytai i gartrefi gofal a materion yn ymwneud â glanweithdra - ac hefyd [mae angen gofyn] a ydy'r cyfleusterau yn ddigon da ar gyfer ymladd y pandemig mewn ysbytai.
"Beth sydd angen yw ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â'r byrddau iechyd a hynny ar frys er mwyn deall pam bod y ffigyrau yma mor uchel.
"Dyw'r ffigyrau yma ddim yn dderbyniol."
'Colli bywydau yn ddiangen'
Yn ogystal mae dros 30 o feddygon ac ymgyrchwyr iechyd wedi arwyddo llythyr agored yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau cynnal "ymchwiliad brys i sut y cafodd y pandemig ei drin yng Nghymru".
Maen nhw'n dweud y byddai unrhyw oedi yn gallu arwain at "golli bywydau yn ddiangen".
Mae'r llythyr yn galw am graffu ar "y penderfyniadau a'r hyn sydd wedi cael ei weithredu" mor belled yn ystod y pandemig fel bod gwersi yn cael eu dysgu.
Mae'r 35 sydd wedi arwyddo'r llythyr yn rhestru nifer o gwestiynau y mae angen eu holi - yn eu plith sut y gall sefydliadau iechyd ostwng nifer y marwolaethau cysylltiedig â lledaeniad yr haint mewn ysbytai, pa gefnogaeth sydd i ddioddefwyr Covid hir a sut i wella y system Profi, Olrhain ac Amddiffyn.
Nodir bod angen ymchwiliad ar frys "fel bod gwersi yn cael eu dysgu wrth i ni wynebu tonnau eraill o Covid-19, amrywiolion posib eraill a phwysau arferol y gaeaf".
"Gall oedi ymchwiliad arwain at bwysau ychwanegol i'r GIG. Ond yn fwy pwysig bydd osgoi cael ymchwiliad brys buan yn arwain at niwed economaidd pellach, anallu hirdymor a cholli bywydau yn ddiangen."
Ar lawr y Senedd ddydd Mawrth dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies a llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod angen ymchwiliad penodol i Gymru.
Dywed Sam Kurtz, AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hefyd bod angen ymchwiliad annibynnol "sy'n cael ei arwain gan farnwr".
"Mae'n siomedig iawn i weld y ffigyrau yma yn y gorllewin," meddai.
"Mae angen atebion ar bobl sydd wedi colli teuluoedd. Mae'n anffodus fod pobl wedi mynd i'r ysbyty, dal Covid ac yna colli eu bywydau nhw - rhaid i ni 'neud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd eto."
Lle i Gymru yn ymchwiliad y DU
Mynnu wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y byddai ymchwiliad cyhoeddus y DU yn bwrw golwg ar hyn, a ddydd Mawrth dywedodd Lesley Griffiths, ar ran y llywodraeth, y bydd pennod ar Gymru'n benodol yn yr ymchwiliad hwnnw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r Prif Weinidog yn rhan o'r ymchwiliad ledled y DU i'r pandemig, a'i fod wedi trafod gyda Llywodraeth y DU i bwysleisio bod angen "penodau penodol yn delio gyda'r profiad yng Nghymru".
"Un ymchwiliad ledled y DU ydy'r ffordd orau i daflu goleuni a deall y profiadau anodd mae pobl wedi eu cael yng Nghymru yn ystod y pandemig."
Tra'n cydymdeimlo â theuluoedd y bobl fu farw, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw'n adolygu pob achos lle mae amheuaeth o heintio o fewn ysbytai yn unigol, a hynny fel rhan o fframwaith a phrotocol Cymru gyfan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021