Dilyn taith cogau Cymru, Daniel a Jac, wth iddynt hedfan nôl i Affrica

  • Cyhoeddwyd
Daniel, y gog.Ffynhonnell y llun, Lee Barber
Disgrifiad o’r llun,

Daniel, y gog yn cael ei dagio yn Llyn Efyrnwy

Mae'r haf eisoes ar ben i ddwy o gogau Cymru sydd wedi hedfan y nyth a chychwyn ar eu taith hir i Affrica ar gyfer misoedd y gaeaf.

Mae'r British Trust for Ornithology (BTO) wedi tagio dwy gog o'r enw Daniel a Jac gyda lloeren er mwyn dilyn eu ehediad 5,000 o filltiroedd i goedwig law y Congo.

Gyda Daniel wedi gadael Llyn Efyrnwy ar 5 Gorffennaf, a Jac eisoes wedi hedfan o'i nyth yntau yn Llangollen ar 18 Mehefin, aeth Cymru Fyw i sgwrsio gyda Swyddog Datblygu BTO Cymru a'r adarwr Kelvin Jones am y daith faith sydd o'u blaenau.

Meddai Kelvin: "Mi wnaeth y BTO dagio cogau am y tro cyntaf yn 2010 er mwyn cael gwell syniad o leoliad a thaith y gog dros y gaeaf ar ôl gadael gwledydd Prydain Fawr ym mis Mehefin. Roeddan ni yn gwybod eu bod yn teithio i'r de, i lawr i ogledd yr Eidal, a chyrraedd rhywle yn Affrica ond dim mwy na hynny.

"Yn 2010 mi wnaethon ni dagio y cogau yn Nwyrain Anglia a be ddysgon ni oedd oedd fod y ceiliogod yn gadael yng nghanol mis Mehefin a bod yr ieir a'r cywion yn aros yn hwyrach. Mae'r ceiliogod yn mynd i lawr drwy'r Eidal, dros y Sahara ac yna i lawr i goedwig law y Congo, gorllewin Affrica. Maen nhw yn dechrau eu taith nôl i Gymru ym mis Ionawr ac yn cyrraedd erbyn mis Ebrill."

'Dim ond am wyth wythnos mae'r gog yng Nghymru bob blwyddyn'

Clywed y gog ydi arwydd cynta'r Gwanwyn i lawer ohonom, ond canfyddiad Kelvin ar ôl blynyddoedd o dracio cogau ydi mai dim ond am wyth wythnos maen nhw'n nythu yng Nghymru.

Meddai Kelvin, "Mae 'na bennill yn Saesneg:

Cuckoo comes in April sings his song in May,

June he sings his tune,

July he flies away.

"Wel dim newid ei diwn ond stopio canu yn llwyr mae'r ceiliogod ym mis Mehefin, be ti'n glywed wedyn ydi'r ieir yn gwneud y twrw - dydyn nhw ddim yn dweud 'cwcw, cwcw' ond yn byblan sy'n swnio'n hollol wahanol. Mae'n ddifyr mai wyth wythnos maen nhw yma ar y mwya'. Maen nhw'n troi fyny ac yn cael 'chydig o barti, 'chydig bach o hwyl ac yn mwynhau 'chydig o ganu, wedyn maen nhw'n mynd adra wedi blino," eglura Kelvin.

Ffynhonnell y llun, Kelvin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Kelvin Jones wrth ei waith

Dau lwybr posib i gogau Cymru

"Mae llawer o adar Prydain Fawr yn mynd dros ogledd yr Eidal, dros Libya a wedyn lawr i'r Congo. Mae rhai eraill yn hedfan hyd arfordir Sbaen, yna Gibraltar, wedyn Affrica," eglura Kelvin.

"Tydi'r poblogaethau o Brydain sy'n dilyn y llwybr yna ddim yn para gystal â'r rheiny sy'n mynd dros yr Eidal a Libya. Mae mwy o broblemau ar y route yna - felly mae llawer o'r cogau sy'n hedfan dros Sbaen ac yna Affrica yn cael eu colli.

"Be sy'n ddiddorol ydi gweld pa gogau o wahanol leoliadau ym Mhrydain Fawr sy'n dewis pa lwybrau. Yn 2011 wnaethon ni dagio pum aderyn yng Nghymru. David oedd enw un cog, a mi gafodd David ei dagio yn Nhregaron.

"Llwybr David wrth adael Cymru oedd Dwyrain Anglia, Yr Iseldeiroedd, gogledd yr Eidal trwy Macedonia, stopio ym Montenegro, Libya ac yna'r Congo. Roedd o'n gwneud y cylch yma yn flynyddol o 2011-2017 tan i'r tag stopio gweithio yng ngorllewin Affrica.

"Roedd o'n dychwelyd i'r union fan y cafodd ei dagio yn Nhregaron bob blwyddyn. Mi es i Dregaron yng ngwanwyn 2017 gan obeithio gweld David ond welson ni 'run cog gyda modrwy na thag lloeren. Mae 'na siawns da fod David wedi marw ond mae 'nghalon i'n dweud wrtha i ei fod o dal yn fyw."

Taith Jac a Daniel hyd yma

Ffynhonnell y llun, Kelvin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Jac yn cael ei dagio yn Llangollen

Yn sgil y pandemig, chafodd cogau Cymru mo'u tagio gyda lloeren llynedd, ond mae Kelvin yn falch o weld dau dag yn cael eu rhoi ar gogau Cymru eleni sef Jac a Daniel. Gallwch ddilyn eu taith wrth ymweld â gwefan y BTO.

Meddai Kelvin am eu taith hyd yma: "Mae Jac wedi cychwyn adra i Affrica o flaen Daniel ond mae Daniel wedi dal i fyny wythnos yma.

"Mae Daniel a Jac yn edrych fel eu bod nhw yn mynd dros Ffrainc felly pan fyddan nhw'n taro Môr y Canoldir ydyn nhw am fynd i'r chwith drwy'r Eidal a Libya neu ydyn nhw am fynd drwy Sbaen a wedyn Gibraltar.

"Mae gen ti wahanol boblogaethau sy'n gwneud pethau yn wahanol. Mae'r rhan fwyaf o gogau sy'n dod i Gymru fel Daniel a Jac yn gogau'r ucheldir a'r ffriddoedd, a maen nhw yn gwneud yn well yma na chogau'r iseldir. Mae'r cogau sydd wedi eu tagio yn Nhregaron dros y blynyddoedd yn byw ar dir ychydig yn îs ac ar dir sy'n fwy amaethyddol felly gawn ni weld os bydd patrwm teithio Daniel a Jac yn wahanol."

Tagio cogau a deall patrymau newid hinsawdd

"Beauty tagio ydi dy fod yn gwybod yn union lle mae'r aderyn bob dydd, felly ti'n medru archwilio be ydi'r tywydd yn lle mae'r aderyn. Rydan ni'n gwybod efo newid hinsawdd fod y Sahara yn lledu felly mae croesi'r Sahara yn gamp wrth i'r adar hedfan i'r de.

"Unwaith mi wnaethon ni dagio cog o'r enw Iolo. Mi wnaeth o deithio i'r de a marw ynghanol diffeithwch Libya. Dro arall mi wnaeth cog o'r enw Lloyd daro storm fawr yn Libya, wedyn wnaeth o ddychwelyd i'r Eidal am ychydig cyn mentro eto, a marw yn y jyngl dros y gaeaf," eglura Kelvin.

"Be ydan ni wedi ei weld dros y flwyddyn ddwytha ydi fod y byd i gyd allan o sync felly mae croesi'r Sahara yn gamp ynddo'i hun. Mae yna sychder yn Sbaen ers bron i ddwy flynedd a felly does yna ddim bwyd iddyn nhw.

"Y broblem sydd gen ti, ydi pan mae'r cogau yn hedfan i'r de does yna ddim brys ond pan maen nhw'n dychwelyd ar gyfer y gwanwyn mae'r cloc yn dweud wrthyn nhw bod rhaid cyrraedd Cymru erbyn ganol mis Ebrill, felly mae ambell cog yn cael ei golli."

Byddai Kelvin wrth ei fodd yn gweld rhagor o gogau'n cael eu tagio gyda lloeren yng Nghymru yn y dyfodol ond mae'n broses costus.

Meddai Kelvin: "Dros y blynyddoedd rydan ni wedi tracio mwy o adar bob blwyddyn ond rhaid i ni gofio bod y dyfais tracio lloeren sy'n mynd ar gefnau'r adar yn bedair mil o bunnoedd, wedyn mae'n costio tua £50 yr wythnos i gael y data o'r lloeren, felly allwn ni ddim dilyn tomen o gogau ond mi allwn ni ddysgu llawer iawn."

Gobeithio wir y bydd Daniel a Jac yn cyrraedd Affrica yn ddiogel ac y byddant yn dychwelyd i Gymru y gwanwyn nesaf.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig