Penderfyniad ar gyllideb S4C i ddod 'cyn diwedd y mis'

  • Cyhoeddwyd
Simon HartFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Hart y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd Gorffennaf

Bydd penderfyniad "yn fuan iawn" ynglŷn â chyllideb S4C ar gyfer y dyfodol, meddai Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

Mae'r sianel yn aros i glywed gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o fewn Llywodraeth y DU am eu setliad ariannu am y bum mlynedd nesaf.

O fis Ebrill 2022, bydd arian cyhoeddus S4C i gyd yn dod o ffi drwydded y BBC.

Yn ôl Simon Hart, mae o wedi bod yn dadlau achos S4C gyda'r Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden.

"'Da ni'n credu yn y cynnig, 'da ni'n credu yn y sianel, 'da ni'n credu ei fod yn chwarae rôl hollol allweddol wrth gwrdd â'r uchelgais ar gyfer yr iaith Gymraeg.

"Mae ASau o bob plaid wedi gwneud yr achos bod hwn yn gyfrannwr pwysig, eiconig ac arwyddocaol i ddiwylliant Cymru ac i'r iaith yn benodol, ac wedi ceisio perswadio DCMS i edrych ar hwn fel cyfle yn hytrach na chost."

Dywedodd Mr Hart y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd Gorffennaf.

Yn 2020-21, fe dderbyniodd y sianel £74.5m o ffi drwydded y BBC a £21.85m gan Lywodraeth y DU.