Hardy, Lane ac Amos yn nhîm Cymru i herio'r Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Hallam AmosFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Hallam Amos yn ennill ei 23ain cap dros ei wlad

Mae Cymru wedi gwneud tri newid i'w tîm i wynebu'r Ariannin ddydd Sadwrn yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Canada.

Bydd Kieran Hardy yn dechrau fel mewnwr tra bod Owen Lane wedi'i ddewis ar yr asgell, a Hallam Amos yn dod i mewn fel cefnwr.

Mae un newid ar y fainc hefyd, gyda'r maswr Jarrod Evans yn dychwelyd yn dilyn anaf i'w bigwrn.

Jonathan Davies fydd yn parhau fel capten ar y tîm amhrofiadol, gyda nifer o sêr arferol y crysau cochion i ffwrdd gyda charfan y Llewod yn Ne Affrica.

Mae'r ornest yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm Principality yn un o ddwy y bydd Cymru'n eu chwarae yn erbyn Los Pumas, gyda'r llall y penwythnos nesaf.

Tîm Cymru: Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright, Kieran Hardy, Callum Sheedy, Owen Lane, Jonathan Davies (capt), Uilisi Halaholo, Jonah Holmes, Hallam Amos

Eilyddion: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Tomos Williams, Jarrod Evans, Nick Tompkins