Amanda Protheroe-Thomas: O Sgorio i roi'r brechlyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Amanda Protheroe ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pan ddaeth gwaith Amanda Protheroe-Thomas i ben dros nos yn sgil y pandemig fe ddechreuodd mewn rôl wahanol iawn i'w un arferol - rhoi'r brechlyn Covid-19.

Ac mae'r Gymraes, ddaeth yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglenni teledu Sgorio a Pacio ar S4C, yn dweud ei bod wrth ei bodd yn gwneud rhywbeth o werth a chael cyfarfod pobl.

Byw a gweithio yn Llundain oedd hi cyn i'r feirws gyrraedd a newid popeth.

"Ro'n i'n gweithio i gwmni global events management mawr a nes i fynd o fod yn frantic i ddim byd dros nos," meddai.

"Fi'n ferch sy'n byw ar ben ei hun yn Llundain efo morgais - felly mae wedi bod yn frawychus ac yn bryderus yn ariannol, ond yn feddyliol dwi wedi bod yn oce.

"Ro'n i eisiau rhywbeth i roi pwrpas pan fi'n dihuno yn y bore - dim eisiau bod gartref yn poeni - ac eisiau gwneud rhywbeth diddorol fydde'n helpu pobl."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Amanda Protheroe-Thomas: "Fi wrth fy modd efo pobl ac edrych ar ôl pobl ac mae'n gyfle i wneud rhywbeth hollol wahanol."

Felly fe benderfynodd wneud cais i fod yn rhan o'r tîm yn Llundain sy'n rhoi'r brechlyn Covid-19. Ar ôl gwneud nifer o arholiadau a chael hyfforddiant, dechreuodd wirfoddoli mewn canolfannau ar draws y brifddinas.

Ers misoedd bellach, mae Amanda wedi bod ar alwad ac yn teithio hyd at awr o'i chartref i ba bynnag ganolfan sydd angen cymorth.

"Doedd dim profiad 'da fi o'r math yma o waith, heblaw sedatio anifeiliaid efo rhaglen Gwyllt ar Grwydr, ond fi'n credu byddwn i wedi gallu bod yn nyrs - fi'n mwynhau bod efo pobl," meddai.

"A fi'n gweithio'n galed. Sdim ots 'da fi weithio oriau hir os fi'n mwynhau'r gwaith. Efo rhoi'r pigiadau, fi'n gwneud double shift weithiau os ydi rhywun heb droi lan.

"Fi byth yn edrych ar fy watch i weld pryd mae shifft yn dod i ben, fi'n mwynhau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd mae Amanda wedi arfer gyda'r lens yn hytrach na'r nodwydd yn ei gwaith bob dydd

Ond dydy newid cyfeiriad a bachu ar gyfle newydd yn ddim byd newydd iddi.

Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus yn cyflwyno - yn cynnwys rhaglen natur Gwyllt, rhaglen bêl-fasged i Channel 5 ac ar hyn o bryd mae hi'n gwneud fideos ffitrwydd i bobl dros eu 70au ar Pnawn Da.

Rai blynyddoedd yn ôl fe brynodd feic modur, pasio ei phrawf gyrru a mynd draw i Ffrainc am gyfnod i ddysgu'r iaith. Tra'r oedd hi yno, penderfynodd wneud ei thystysgrif capteinio cwch - yn Ffrangeg.

Byw yn y Caribî

Roedd hynny, a'r ffaith bod ganddi drwydded deifio, yn help iddi mewn swydd yn mynd â thwristiaid i weld bywyd gwyllt y môr yn Ynysoedd y Caiman, fel eglurodd wrth Lisa Gwilym yn ddiweddar ar ei Sioe Frecwast:

"Roedd e'n baradwys, ond mae'n waith caled gweithio ar y môr bob dydd.

"Nath ffrind i fi oedd yn chef ar super yacht mas yn y Caribbean weld swydd yn cael ei hysbysebu fel wild stingray handler yn Ynysoedd y Caiman - roedd e'n cael ei hysbysebu dros y byd i gyd, so o'n i'n meddwl 'sna'm lot o siawns - ond ges i'r swydd ac es i.

"Roedd yn swydd ddelfrydol, mynd ag Americanwyr mas i ganol y môr. Mae lle o'r enw stingray city - sef darn o dir yn ganol y môr a ti'n gallu sefyll lan arno.

"Ti'n codi'n gynnar iawn am 4.30 bob bore, ti'n syrthio mas o gwely, bicini arno a phâr o siorts a dyna'r uniform am y diwrnod.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Weithia ti'n edrych ar dy fywyd a meddwl oedd 'da fi'r gyts i fynd a 'neud pethe a symud i rwle a ddim yn adnabod neb"

"O'n i wrth fy modd bod y person cynta' yna ac roedd y stingray wedi dod i adnabod arogl fi a sŵn Sea-Doo (math o jet ski) fi ac felly'n gwybod bod bwyd yn dod… felly base nhw i gyd yn dod fel y cymylau mawr ma' tuag atat ti - roedd e'n ffantastig.

"A ro'n i'n neud triciau bach. Maen nhw'n licio chwarae, felly roedden nhw'n eistedd ar fy mron a fi 'di dysgu nhw i gusanu ti a gwneud triciau bach fel yna. Roedden nhw wrth eu boddau achos maen nhw'n cael bwyd - maen nhw'n gwybod be' i wneud i gael bwyd."

Fe dreuliodd flwyddyn yno, cyn mynd yn ôl i Lundain i gyflwyno rhaglen pêl-fasged i Channel 5.

Y dyfodol

Ac mae chwaraeon yn parhau i fod yn rhan fawr o'i bywyd. Pan fydd Uwch-gynghrair Lloegr yn ailddechrau fe fydd hi'n cael ei chyflogi i edrych ar ôl cleientiaid VIP mewn gemau Chelsea, Tottenham Hotspur a'r tîm mae hi'n eu dilyn - Lerpwl.

Dydy hi ddim yn siŵr beth fydd ei dyfodol o ran gwaith ond er gwaetha'r 16 mis cythryblus ers dechrau'r pandemig mae hi'n obeithiol:

"Dwi bob tro wedi bod yn bositif a dwi'n siŵr wnaiff y cyfnod yma droi mas yn iawn a fydd pethau'n digwydd a chyfleodd newydd yn codi efallai."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig