Casualty: Tu ôl i len y gyfres ddrama feddygol

  • Cyhoeddwyd
Casualty
Disgrifiad o’r llun,

Actorion Casualty yn eu hoffer PPE, rhifyn y pandemig

Y Cymro a'r diweddar Geraint Morris oedd cynhyrchydd cyntaf y ddrama feddygol Casualty a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1986, a'i saethu ym Mryste tan 2012.

Ond nid dyna'r unig ddylanwad Cymreig ar y gyfres sy'n dilyn hynt a helynt gweithwyr adran frys ysbyty ddychmygol Holby City yn sir ddychmygol Wyvern, de orllewin Lloegr.

Ers 2012, mae'r gyfres yn cael ei saethu yn stiwdios Porth y Rhath, Bae Caerdydd a'i gynhyrchu gan BBC Cymru.

Cymru Fyw fu'n cyfweld rhai o'r Cymry Cymraeg sy'n gweithio y tu ôl i'r llen ar 'Opera Sebon a Drama Barhaus Orau', gwobrau'r BAFTA 2021.

Dafydd Llewelyn: Cynhyrchydd

Un o gynhyrchwyr y gyfres ydi Dafydd Llewelyn a'i gyfrifoldeb o ydi goruchwylio'r penodau o phan fo'r bennod yn ddim ond syniad, i'w hymddangosiad ar y teledu.

Meddai Dafydd: "Loretta Preece ydi cynhyrchydd y gyfres ac yna mae gen ti bedwar cynhyrchydd. Rydan ni'n gweithio mewn blociau ac mae pob bloc yn cynnwys dwy bennod. Fy ngwaith i wedyn ydi goruchwylio'r ddwy bennod honno o'r dechrau i'r diwedd.

"Yn y bôn mae dwy stori ymhob pennod o Casualty. Mae gen ti stori'r wythnos sef y stori feddygol a stori sy'n ymwneud gyda chymeriadau parhaol y gyfres," eglura Dafydd.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o Gymry enwog wedi ymddangos ar y gyfres gan gynnwys Siân Phillips yn Ebrill 2017

Dangos y pandemig

Fis Ionawr 2021 dychwelodd Casualty i'r sgrîn am y tro cyntaf ers mis Awst 2020 yn sgil cyfyngiadau ffilmio'r cyfnod clo cyntaf.

Roedd rhaglen gyntaf 2021 yn bennod arbennig lle gwelwyd y pandemig yn taro ysbyty Holby City'n galed. Cafodd y gwylwyr fewnolwg ar fywydau gweithwyr iechyd y rheng flaen wrth iddynt ymdopi gyda'r cyfnodau argyfyngus wynebodd wardiau ysbytai yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, a'r misoedd yn dilyn hynny.

"Yn ystod y cyfnod clo cynta' roedd Casualty ynghanol y gwaith o ffilmio bloc i'r gyfres cyn gorfod gorffen yn sgil yr amgylchiadau," meddai Dafydd.

"Yna roedd rhaid gwneud penderfyniad; a fyddai Casualty yn dilyn cyfeiriad COVID neu beidio pan fyddai'n dychwelyd ar nosweithiau Sadwrn? Y penderfyniad golygyddol oedd y byddai'n anghyfrifol gwneud drama gyfres feddygol a pheidio sôn am COVID.

"Mae'r bennod gynta' ar ôl dychwelyd yn talu teyrnged i bobl sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd a bu'n brofiad ysgubol i bawb oedd yn rhan o'r cynhyrchiad. Mae cysgod COVID yn parhau yn y penodau yn dilyn hynny, mae'r actorion mewn masgiau a mae llinellau melyn ar y lloriau o hyd."

Mae Dafydd yn falch iawn fod y rhaglen wedi cipio gwobr 'Opera Sebon a Drama Barhaus' yng ngwobrau'r BAFTA 2021, am ei fod yn deyrnged i weithwyr y gwasanaeth iechyd sydd wedi wynebu blwyddyn heriol.

Ond mae hefyd yn falch iawn o griw cefndirol y gyfres:

"Be' mae gweithio ar Zoom o adra wedi ei danlinellu ydi pwysigrwydd pobl y tu cefn i'r camera. Mae dygnwch yr holl griw tu ôl i'r camera wedi sicrhau ein bod ni wedi parhau efo'r gwaith."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Owain Arthur fu'n chwarae rhan Glen gyda'r Americanes Sharon Gless sydd hefyd wedi ymddangos ar Casualty

Cysylltiadau Cymreig

Rhywbeth arall y mae Dafydd yn ymfalchïo ynddo ydi'r traddodiad Cymreig sy'n perthyn i'r gyfres.

Eglura Dafydd:

"Roedd y cynhyrchydd Geraint Morris yn nyddiau cynnar Casualty yn flaenllaw iawn, iawn yn y broses o lunio'r rhaglen a phan fuodd o farw ddaru nhw enwi'r ward i fyny'r grisiau yn 'Geraint Morris Ward' er cof amdano fo.

"Mae 'na Gymro hefyd sydd yn bennaeth yr adran gynllunio - Owain Williams - a mae o wedi chwarae rygbi i Gymru.

"Mae pobl yn dueddol o anghofio am agwedd Gymreig y rhaglen - ddaru nhw symud o Fryste i Gaerdydd yn 2012 sy'n golygu bod nifer fawr o Gymry yn gweithio ar y gyfres. Hefyd, mae 'na nifer fawr o actorion Cymraeg wedi ymddangos ar Casualty dros y blynyddoedd.

"Mae'n dangos y gall Cymry Cymraeg fynd mewn i'r diwydiant a gweithio mewn gwahanol agweddau."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Aneirin Hughes (dde) fu'n chwarae rhan Dr Joseph Milner yn 2020

Marged Parry: Golygydd Sgript

Cychwynnodd Marged Parry, sydd o Gaerdydd, ar ei swydd fel golygydd sgriptiau i Casualty fis Chwefror 2020, ychydig wythnosau cyn iddi gael ei hel o'r swyddfa i weithio adref wrth i'r wlad fynd dan glo. Meddai Marged am y profiad hwnnw:

"Yr eironi yw, dim ond am ychydig o amser bues i'n gweithio yn swyddfa Casualty cyn i'r pandemig fwrw felly mae'r rhan fwya' o'r amser dwi wedi bod yn gweithio ar y gyfres wedi bod adre dros Zoom. Dwi wedi bod allan i ffilmio amryw o weithie, ond ie, jyglo o adre rydyn ni dal i wneud ar y funud.

"Mae llawer o'n awduron ni'n byw ledled y wlad felly mewn rhai ffyrdd mae'n dda 'mod i'n medru gweld yr awduron dros Zoom a siarad gyda nhw. Ond ie, mae wedi bod yn od.

"Mae gen i ddwy ferch fach, sef Telyn sy'n bedair a Cadi sy'n wyth, felly dwi wedi gorfod jyglo gweithio a dysgu'r plant o adre. Roedd fy nghydweithwyr i jest yn chwerthin pan oedd y plant yn dringo'r silffoedd llyfrau yn y cefndir."

Ffynhonnell y llun, Marged Parry
Disgrifiad o’r llun,

Marged yn jyglo golygu sgriptiau Casualty a gofalu am ei merch Telyn, sy'n bedair oed

Felly beth yn union ydi gwaith golygydd sgript i Casualty?

"Dwi'n gweithio gyda'r awduron i sicrhau y straeon mwya' effeithiol a impactful felly dwi angen sicrhau bod gweledigaeth y rhaglen yn cael ei gyfleu a sicrhau bod yr awduron yn dilyn y canllawiau storïol sy'n cael ei ddarparu gan y rhaglen (ond mae gan yr awduron hefyd rwydd hynt i greu eu straeon eu hunain)," eglura Marged.

"Sgil yr awduron ydi defnyddio ymchwil a straeon meddygol i greu rhywbeth emosiynol a rydyn ni fel golygyddion yn eu harwain drwy'r rhwystrau maen nhw'n wynebu ar hyd y daith. Yn amlwg dros y flwyddyn ddwytha' mae lot o deuluoedd wedi bod drwy bethau emosiynol iawn sy'n ymwneud gyda iechyd felly rydyn ni gyd yn gyfarwydd gyda'r naratif yna, ond wrth gwrs y straeon gorau ydi'r rhai sy'n cael effaith emosiynol ar y gynulleidfa.

"Rydyn ni ddigon lwcus ar Casualty i gael tîm o ymchwilwyr profiadol a thalentog iawn i gefnogi ni fel golygyddion sgript. Mae gan yr ymchwilwyr gysylltiadau da iawn gyda meddygon ac ymgynghorwyr sgriptiau meddygol. Maen nhw wedyn yn darparu nodiadau meddygol penodol iawn a rydan ni fel golygyddion sgript angen sicrhau bod yr awduron yn hapus ac yn deall yr ochr feddygol.

"Wrth gwrs mae'n rhaid i ni fod yn ddramatig ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn feddygol gywir.

"Mae Casualty yn gyfres uchelgeisiol iawn a dwi'n falch bod ni'n gweithio gydag awduron newydd o hyd. Mae'n bwysig nad ydan ni yn defnyddio yr un bobl bob amser oherwydd mae awduron amrywiol wastad yn dod ag onglau a straeon newydd i'r rhaglen."

Iwan Llechid: Rheolwr Lleoliadau

Iwan Llechid ydi un o reolwyr lleoliadau'r gyfres sy'n gyfrifol am ganfod a goruchwylio'r lleoliadau. Meddai Iwan:

"Mi fydda i'n cael briff am leoliadau fesul bloc o ddwy bennod. Ar ddechrau cyfnod cynhyrchu'r bloc mi fydda i'n derbyn y sgriptiau ac yn gweithio allan be' sydd angen. Mi ga i sgwrs efo'r cyfarwyddwr fel arfer, a wedyn mi a' i chwilio am be' bynnag sydd angen.

"Mae bob golygfa sydd wedi ei lleoli yn yr ysbyty wedi ei saethu yn y stiwdio ym Mae Caerdydd fwy neu lai. Mae gynnon ni ddau ofod stiwdio yno. Wedyn mae unrhyw beth sydd tu hwnt i'r ysbyty wedi ei saethu ar leoliad allanol.

"Rydan ni yn trio cadw'r lleoliadau allanol, boed yn dai preifat, yn fusnesau neu ganolfannau, mor lleol â phosib. Mae gynnon ni reol rydd ein bod ni'n anelu at ffeindio safle sydd o fewn tua hanner awr o'r stiwdio os fedrwn ni," eglura Iwan.

Ffynhonnell y llun, Iwan Llechid
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Llechid, Rheolwr Lleoliadau

Meddai Iwan: "Does yna ddim ffordd well o ddewis lleoliad na gyrru o gwmpas rhywle a wedyn cerdded o gwmpas er mwyn gweld yn union be' sydd yna a chael teimlad y lle. Mae angen meddwl yn greadigol ond hefyd yn ymarferol, er enghraifft, os oes yna stunt a rhywun yn mynd drwy ffenest adeilad mae angen meddwl am y gofod sydd angen i'r olygfa weithio ar sgrin, ond hefyd bod digon o le i'r holl griw cynhyrchu.

"Pan ga i friff, mae gen i syniad go lew o be' sydd angen bellach. Mae profiad yn rhoi hynny. Ond mae technoleg a defnyddio Google Maps wedi gwneud ffeindio lleoliadau yn haws hefyd!"

Ffynhonnell y llun, Dafydd Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Saethu ar leoliad yng Nghaerdydd

Roger Thomas: Prif Amserlennydd

Roger Thomas sy'n gyfrifol am gadw trefn a rhoi strwythur pendant i'r holl waith o amserlennu saethu'r gyfres. Meddai Roger am ei swydd:

"Dwi wedi bod yn brif amserlennydd Casualty ers tua 2012 ond cyn hynny wnes i weithio fel cynorthwy-ydd amserlennu am gwpwl o flynyddoedd a bues i'n llawrydd cyn hynny. Dwi wedi gweithio ar Casualty ers 2003 on and off.

"Mae fy ngwaith i fel gwneud jig-so. Dwi angen amserlennu'r holl straeon ac yna pan ddaw'r sgriptiau i law bydden i'n torri nhw i lawr i greu amserlen unigol i bob pennod. Mae bloc o ddwy bennod yn cymryd pedair wythnos i'w saethu.

Ffynhonnell y llun, Roger Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roger Thomas, Prif Amserlennydd Casualty

"Fel arfer, mae dau floc gyda ni yn ffilmio yn erbyn ei gilydd, a thra bod un bloc ar leoliad mae'r llall yn y stiwdio. Mae'r cast yn cael ei rannu rhwng y ddau floc sy'n saethu yn erbyn ei gilydd a fy ngwaith i yw gwneud y jig-so o ffeindio beth sy'n gallu saethu yn erbyn beth.

"Fi'n dwli ar y sialens o gael sgript a trial gweld sut i'w 'neud yn bosib a ffeindio ffordd o wneud rhywbeth sy'n ymddangos yn anodd ar y dechre, i weithio.

"Nawr, oherwydd y pandemig, mae'r jig-so fymryn yn anoddach gan fod y deunydd rydyn ni'n gallu ei saethu mewn diwrnod yn llai, a rhwystrau ar y niferoedd sy'n gallu ffilmio mewn ystafell, pa mor agos mae pobl yn gallu sefyll wrth ei gilydd ac yn y blaen. I helpu hyn, ry'n ni wedi lleihau hyd pennod o 50 munud i 40 munud.

"Wrth gwrs natur y rhaglen yw bod pobl yn agos at ei gilydd os oes damwain neu ambiwlans yn nôl claf. Mae wedi bod yn bach o sialens ond gobeithio bydd pethau yn dychwelyd i sut oedd pethau cyn y pandemig yn araf bach."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig