Y cadeiriau eisteddfodol gafodd eu cerfio gan ffoaduriaid o Wlad Belg
- Cyhoeddwyd
Pam bod cymaint o gadeiriau barddol Cymru wedi eu creu gan seiri o Wlad Belg?
Mae apêl i ddod o hyd i gadair farddol goll a oedd wedi cael ei chreu gan ffoadur o Wlad Belg wedi helpu i ail-gynnau diddordeb mewn pennod o hanes sy'n clymu Gwlad Belg a Chymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn sgil yr apêl am un o gadeiriau eisteddfodol Emile De Vynck gan brosiect Belgian Refugees in Rhyl , dolen allanoldaeth gwybodaeth i law am gadair yng nghapel Bethel, Golan, ger Garndolbenmaen roedd y crefftwr wedi ei chreu ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Bethel a Phenmorfa 1922.
Mae'r prosiect wedi clywed am bump o gadeiriau barddol wedi eu creu gan Emile De Vynck bellach - daeth un ychwanegol o Eisteddfod Llanuwchllyn 1921 i'r fei yn sgil yr apêl ddiweddaraf.
A gan mai Belgiad arall, Eugene Van Fleteren, wnaeth greu un o gadeiriau eisteddfodol enwocaf Cymru, Cadair Ddu Hedd Wyn a enillwyd wythnosau ar ôl marwolaeth y bardd ar faes y gad yn 1917, mae'n codi'r cwestiwn, pam fod crefftwyr Belgaidd wedi creu cymaint o gadeiriau eisteddfodol?
Croesawu miloedd o ffoaduriaid
Dros gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth tua 250,000 o Felgiaid fel ffoaduriaid i'r DU; 4,500 ohonyn nhw i Gymru.
Roedden nhw'n ffoi am fod yr Almaen wedi ymosod ar Wlad Belg yn 1914 gan ladd trigolion a dinistrio eu trefi ac fe gawson nhw groeso cynnes gan bobl Cymru.
"Mae'n dipyn o stori - y llif mwyaf o ffoaduriaid i Brydain erioed ac eto dydi hi ddim yn stori mae llawer yn ei gwybod," meddai Christophe Declercq, darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) sydd wedi gwneud doethuriaeth ar y pwnc.
Nid cadeiriau yn unig a adawodd y Belgiaid ar eu holau - mae sawl enghraifft o'u cerfiadau cywrain i'w darganfod mewn eglwysi ac ambell gartref ar hyd a lled Cymru.
Felly sut bod cynifer o'r ffoaduriaid ddaeth i Gymru yn grefftwyr coed mor gywrain?
Mae Mr Declercq yn egluro fod llawer o'r Belgiaid gafodd loches yng Nghymru yn dod o ardal Mechelen yn Fflandrys, lle roedd yna draddodiad cryf yn y proffesiwn gwneud dodrefn.
Fe fydden nhw'n cyrraedd Lloegr yn gyntaf yna'n gwasgaru i wahanol lefydd i ymgartrefu a chael hyd i waith.
"Fe gasglodd grŵp o seiri o Mechelen yn ne Cymru, rhwng Porthcawl a Chaerdydd fis Tachwedd 1914, felly unwaith roedd rhai seiri dodrefn o wlad Belg yn yr ardal, roedd hynny'n denu mwy," meddai Mr Declercq.
"Os oes rhai yn gweithio yng Nghymru yn barod, a digon o gyfleoedd yma, rydych chi'n mynd lle mae'r cyfle yn codi."
Yn y trefi a'r dinasoedd mawr roedd y dynion fel arfer yn cael gwaith mewn ffatrïoedd arfau a siopau.
Ond roedd gweithio fel saer coed yn golygu mwy o ryddid i symud o gwmpas ac roedd yn haws iddyn nhw gael gwaith mewn ardal wledig gan fod llai o gystadleuaeth a phren yn haws cael gafael arno nac yn rhywle fel Llundain.
Denu arlunwyr a chrefftwyr
"Roedd yna arlunwyr hefyd," meddai Mr Declercq.
"Fe helpodd y chwiorydd Davies, Gregynog, i gael artistiaid oedd yn ffoaduriaid o Wlad Belg a'r Iseldiroedd i Brydain, ac yn arbennig i Gymru.
"Felly mae'n siŵr fod hynny wedi sbarduno atyniad ychwanegol i symud i Gymru ac fe setlodd dau o artistiaid enwocaf y cyfnod yng Nghymru."
Daeth nifer o'r ffoaduriaid i ogledd Cymru hefyd i adeiladu'r Promenâd Belgaidd ger Pont Menai ym Mhorthaethwy.
Cafodd ei greu i'r gymuned leol i ddiolch am eu caredigrwydd gan y ffoaduriaid gafodd eu croesawu a'u cartrefu yn y pentref.
Roedd De Vynck, ei wraig a'u merch chwe mis oed ymhlith 13 o ffoaduriaid Belgaidd a gafodd loches yn Llys Owen, Cricieth, dolen allanol - cyn-gartref David Lloyd George a ddaeth yn brif weinidog yn 1916 - lle roedd ei wraig a'i ferch, Margaret ac Olwen Lloyd George, yn gyfrifol amdanynt.
Mae gwaith ymchwil gan Toni Vitti o brosiect Belgian Refugees in Wales yn dangos bod Emile a'i deulu wedi dod yn rhan o'r gymuned yng Nghricieth a'i ferch, Pauline, yn dal i ddefnyddio ychydig o Gymraeg mewn llythyr a ysgrifennodd o Wlad Belg pan oedd hi'n hen wraig.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd y ffoaduriaid yn falch o allu cyfrannu i ddiwylliant eu cymuned newydd a'r gymuned yn ei thro yn falch o gael crefftwyr yn eu mysg ac o allu rhoi gwaith iddyn nhw meddai Mr Declercq.
Mae mwy o waith Emile De Vynck i'w weld yn Eglwys Sant Cynhaiarn ger Pentrefelin a chafodd gomisiynau gan Lloyd George a thirfeddianwyr lleol eraill.
Yn Eglwys Llanwenog, Ceredigion, mae enghraifft o waith pren crefftus gan ffoadur arall, Joseph Rubens, wnaeth gerfio croglen yr eglwys, yn ogystal â phulpud ac eitemau eraill.
Yn eglwys Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth hefyd mae enghraifft o waith wedi ei gerfio gan Jules Bernaerts.
Arwyddocâd cenedlaethol
"Mae'r gwaith coed yma'n ymddangos drwy Gymru gyfan, o'r gogledd i'r de, a does dim mo'r fath beth yn Lloegr na'r Alban," meddai Mr Declercq.
Mae yna enghreifftiau unigol meddai ond dim byd gyda'r fath arwyddocâd diwylliannol cenedlaethol a chadair farddol: dim ond yng Nghymru mae'r cysylltiad diwylliannol arbennig yma i'w weld mor glir rhwng y ffoaduriaid a'r gymuned oedd yn rhoi cartref iddyn nhw.
Yn y trefi a'r dinasoedd mawr roedd nifer o'r dynion oedd yn ffoaduriaid yn cael gwaith mewn ffatrïoedd arfau fel arfer.
Fe fyddai wedi bod yn llawer mwy apelgar "i'r enaid" meddai Mr Declercq eu bod yn gallu gwneud gwaith coed a chyfrannu at y gymuned.
"Mae yna wahaniaeth enfawr rhwng symud shells mewn ffatri yn Llundain ac eistedd ar fainc bren mewn eglwys rywle yng Nghymru rydych chi wedi helpu i'w cherfio," meddai Christophe Declercq.
Fflandrys a Chymru: teimlo'n gartrefol
"Mae'r Belgiaid yng Nghymru yn rhannol oherwydd polisi o ddosbarthu'r ffoaduriaid ar draws y wlad ond rwy'n gwybod o dystiolaeth lafar fod llawer o'r Belgiaid wedi aros mwy neu lai drwy'r rhyfel," meddai.
"Felly mae'n rhaid ei fod wedi taro tant oedd yn adlewyrchu sut roedden nhw'n teimlo am eu gwlad eu hunain a'u bod wedi canfod tebygrwydd yng Nghymru.
"Mae'r tirwedd mewn mannau yn debyg i rannau o Fflandrys."
Mae'n bosib bod y ffaith bod yna ddiwylliant Cymreig ar wahân wedi apelio at lawer o ffoaduriaid o Fflandrys hefyd meddai Chistophe Declercq gan fod yr un ddeuoliaeth wleidyddol a ieithyddol yn bodoli yng Ngwlad Belg hefyd.
"Rhaid bod hynny wedi apelio at y ffoaduriaid Fflemaidd hefyd, eu bod mewn rhan lled ar wahân o'r Deyrnas Unedig, a oedd yn rhywbeth roedden nhw'n teimlo'n gryf am eu hunain yn Flandrys mewn perthynas â Gwlad Belg."
"Ac yna eu bod hefyd yn cyfrannu i gymuned sydd yn ymladd ar eu tir nhw nôl adref dros ryddid i'w gwlad, rhaid bod hynny'n deimlad cymhleth iawn ac emosiynol hefyd."
Straeon dal dan yr wyneb
Er bod llawer o'r hanes wedi mynd yn angof bellach mae'r dystiolaeth yn dal yno o dan yr wyneb, dim ond i chi chwilio meddai Christophe Declercq; daeth o hyd i ddegau o straeon ac atgofion ar daith o Gymru wedi ei threfnu gan fudiad Cymru dros Heddwch adeg canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014.
Un darn o dystiolaeth newydd oedd darn o lês Belgaidd oedd wedi ei roi i deulu lleol yn Llanfihangel y Creuddyn fel arwydd o ddiolch gan ffoadur 100 mlynedd yn ôl; roedd wedi aros yn y teulu ers hynny, ond neb yn gwybod o ble roedd wedi dod.
Mae'n stori sy'n dangos pa mor hawdd yw anghofio ein hanes - sy'n bwysig wrth ystyried y naratif gyfoes am ffoaduriaid meddai Mr Declercq.
"Beth oeddwn i'n ei hoffi am y canmlwyddiant oedd ei fod wedi codi prosiectau lleol dros y wlad gyda sawl un yn rhoi sylw i'r ffoaduriaid Belgaidd. Ac roedd y rhan fwyaf yn cymharu gyda sefyllfa heddiw a sut mae bod yn ymwybodol o'n hanes ni yn y gorffennol gyda ffoaduriaid yn gallu helpu i feddalu agweddau lleol tuag at ffoaduriaid heddiw."
Aeth mwyafrif y ffoaduriaid nôl adref wedi'r rhyfel ond mae eu cyfraniad a'u perthynas arbennig gyda'r gymuned wnaeth eu cartrefu yn cael ei ailddarganfod ganrif yn ddiweddarach.
Meddai Tony Vitti o'r prosiect Belgian Refugees in Rhyl sydd wedi casglu tystiolaeth a gwybodaeth fanwl am unigolion a straeon lleol o'r cyfnod:
"Fe wnaeth cerfwyr coed o Wlad Belg gyfraniad mawr i'n bywyd diwylliannol yng Nghymru. O greu'r hyn mae'n debyg yw'r gadair farddol fwyaf eiconig i lenwi ein heglwysi a'n stadau gyda cherfiadau cywrain, dyma gyfuniad gwych o grefft Belgaidd a diwylliant Cymreig."