'Angen archwiliad brys' o amodau gwersyll ffoaduriaid

  • Cyhoeddwyd
GwersyllFfynhonnell y llun, Llun preswylydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau a dynnwyd y tu mewn i'r gwersyll yn dangos yr amodau byw yn un o'r ystafelloedd

Mae amodau mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Sir Benfro wedi ysgogi galwadau am archwiliad brys o'r sefyllfa yno.

Mae ceiswyr lloches sydd wedi'u cartrefu mewn gwersyll milwrol ym Mhenalun wedi dweud wrth BBC Cymru bod yr amodau "drwg iawn" wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n llawer gwaeth am eu sefyllfa.

Penderfynodd y Swyddfa Gartref leoli hyd at 250 o geiswyr lloches yn y ganolfan ers mis Medi.

Ddydd Iau galwodd Plaid Cymru am archwiliad brys o'r gwersyll.

Dywed y Swyddfa Gartref fod yr amodau'n "ddiogel" ac yn "cydymffurfio â rheolau Covid".

Mae un ceisiwr lloches yn y gwersyll, a oedd yn dymuno aros yn anhysbys, wedi bod yn y gwersyll ers 1 Hydref.

Dywedodd ei fod yn dioddef o "hen anafiadau" a gafodd yn Syria ac sy'n parhau i achosi poen iddo, ond ei fod wedi gorfod aros am "bedwar diwrnod" i weld meddyg, ac mae ganddo bryderon am hylendid yn y gwersyll.

"Nid oes unrhyw ddeddfau diogelwch Covid yn cael eu cadw", meddai, gan honni bod "chwe dyn" yn rhannu ystafell wely fach, dwsinau yn bwyta yn yr un ystafell, ac nad yw rhai staff sy'n paratoi bwyd yn gwisgo mygydau.

Mae delweddau a fideo o'r gwersyll sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru yn dangos lloriau ystafell ymolchi wedi'u gorchuddio gyda dŵr, pob toiled mewn un ystafell ymolchi wedi eu rhwystro, gwelyau mewn ystafelloedd cymunedol llai na 2m oddi wrth ei gilydd, ac ystafell ymolchi lle mae'r holl offer dosbarthu sebon yn wag.

Mewn ymateb dywedodd y Swyddfa Gartref fod anghenion meddygol yn dylanwadu ar apwyntiadau meddygon teulu, bod angen pellhau cymdeithasol, a bod angen ail-lenwi offer sebon.

Ffynhonnell y llun, Llun preswylydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un preswylydd ei bod yn amhosibl cadw pellter cymdeithasol mewn ystafell i chwech o bobl

Dywed un ceisiwr lloches fod amodau'r gwersyll wedi ei adael mewn "cyflwr seicolegol gwael" a bod preswylwyr eraill wedi ceisio hunan-niweidio.

Wrth siarad am ei sefyllfa, ychwanegodd: "A ddylwn i geisio brifo fy hun i fynd allan o fan hyn?"

Dywedodd ei fod ef a thrigolion eraill yn gallu gadael y gwersyll os ydyn nhw'n ôl erbyn 22:00, ond ei fod yn amharod i fynd allan oherwydd "cywilydd, camdriniaeth a hiliaeth" y mae wedi'i brofi y tu allan i'r gwersyll.

Disgrifiwyd y gwersyll yn y gorffennol fel targed ar gyfer protestwyr "asgell-dde eithafol".

Mewn ymateb, dywedodd y Swyddfa Gartref y bydd yn ystyried a ellir diwallu anghenion unigolion ar y safle os ydynt yn honni bod eu hiechyd meddwl yn dioddef.

Disgrifiad o’r llun,

Tua 40 o ddynion yn protestio tu allan i'r gwersyll ym mis Tachwedd dros honiadau bod eu hawliau dynol wedi eu torri

Dywedodd preswyliwr arall o Eritrea, oedd yn dymuno aros yn anhysbys, fod gwersyll y fyddin yn achosi straen iddo.

"Maen nhw'n ein trin ni fel carcharorion yma. Mae swyddogion diogelwch yn aros yma trwy'r amser.

"I'r gymuned Eritreaidd yn y gwersyll hwn, y peth anoddaf yw ein bod wedi dianc o'n gwlad o wasanaeth milwrol amhenodol a charcharu anghyfreithlon.

"Felly rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n cael ein carcharu mewn gwersyll milwrol. Mae'r cyfan yn dod ag atgofion yn ôl i ni.

"Maen nhw'n dweud bod yn rhaid i ni fod yn ofalus am Covid ond pan rydyn ni'n cysgu gyda chwech o bobl mewn un ystafell does dim amddiffyniad yn erbyn Covid.

"Y rhan fwyaf o'r ystafelloedd ymolchi - maen nhw wedi torri. Maen nhw wedi'u llenwi â hancesi papur, masgiau, popeth y gallwch chi ddod o hyd iddo, maen nhw wedi'u blocio, dydyn nhw ddim yn gweithio."

Dywedodd y dyn pan fydd yn mynd allan ei fod wedyn yn rhoi ei dymheredd wrth ddychwelyd - ond mae'n honni nad ydyn nhw wedi cael cynnig prawf coronafeirws ers cyrraedd y gwersyll dri mis yn ôl.

Dywed y Swyddfa Gartref fod y preswylwyr yn aml yn dod i mewn i'r DU beth amser yn ôl ac yn bennaf wedi cael eu rhoi yn y gwersyll o dde ddwyrain Lloegr ac o amgylch Llundain, a bod profion coronafeirws ond yn angenrheidiol i gydfynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru..

Fe wnaethant ychwanegu bod Clearsprings Ready Homes, sy'n rheoli'r gwersyll, yn cymryd camau ar unwaith i atgyweirio unrhyw ddifrod.

Galw am 'archwiliad tryloyw ar frys'

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi ysgrifennu at David Bolt, Prif Arolygydd Annibynnol y DU ar Ffiniau a Mewnfudo, yn galw am archwiliad "brys" a "thryloyw" o'r safle.

Yn y llythyr dywed Ms Saville Roberts: "Rydyn ni nawr nid yn unig yng nghanol y gaeaf, ond mae achosion o Covid-19 yng Nghymru yn cynyddu ar raddfa frawychus.

"Rwy'n hynod bryderus bod yr amodau yn yr hen farics milwrol yn gwbl anaddas i ddelio â'r tywydd oer ac i hwyluso pellter cymdeithasol effeithiol.

"Mae hyn yn dangos diystyrwch amlwg i iechyd a lles y rhai sy'n cael eu cadw yn y gwersyll."

Ym mis Rhagfyr, galwodd dirprwy weinidog Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar yr Ysgrifennydd Cartref i gau'r gwersyll - gan ddisgrifio'r amodau fel rhai "anniogel, anaddas ac anghynaliadwy", ac "annynol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai wedi croesawu'r ceiswyr lloches i'r gymuned, tra bod eraill wedi gwrthwynebu'r gwersyll

Dywedodd Tom Nunn, cyfreithiwr sy'n cynrychioli rhai o'r preswylwyr ym Mhenalun: "Mae'r Swyddfa Gartref yn derbyn, oherwydd natur gymunedol y gwersyll, y dylai fod yn llety tymor byr i ddynion sengl sy'n ceisio lloches heb unrhyw wendidau hysbys.

"Fodd bynnag, hyd yma, rydym wedi trosglwyddo 19 o'n cleientiaid i ffwrdd o'r gwersyll ar ôl i ni godi'r ffaith eu bod yn agored i niwed.

"Mae'r mwyafrif ohonynt wedi cael eu cadw neu eu poenydio yn eu gwlad wreiddiol, mae llawer wedi cael eu hecsbloetio ar eu taith i'r DU ac mae gan nifer fawr broblemau iechyd meddwl eithaf difrifol.

"Mae'n amlwg nad yw sgrinio'r Swyddfa Gartref ar gyfer gwendidau yn ddigonol ac yn anffodus, os bydd pethau'n aros fel y maent, mae'n debygol y bydd digwyddiad difrifol o ganlyniad.

"Mae llawer o bobl rydyn ni wedi siarad â nhw wedi bod yno ers diwedd mis Medi, er iddyn nhw gael gwybod mai llety dros dro oedd y gwersyll, gyda llawer yn cael gwybod eu bod nhw'n mynd i fod yno am bedair wythnos ar y mwyaf.

"Ni ddylai fod yn iawn mai'r unig ffordd effeithiol o gael eich trosglwyddo oddi yno yw trwy gynrychiolaeth gyfreithiol ac rydym yn pryderu am nifer fawr o unigolion na fydd o bosib yn gallu cael y gynrychiolaeth hon am nifer fawr o resymau."

'Llety diogel'

Dywedodd Gweinidog Cydymffurfiaeth Mewnfudo'r DU Chris Philp: "Rydym yn darparu llety diogel, sydd yn cydymffurfio â rheolau Covid ac yn lloches rhag y tywydd i geiswyr lloches ym Mhenalun, ynghyd â phrydau maethlon am ddim y mae'r trethdalwr yn talu amdanynt oll.

"Rydyn ni'n cymryd lles y rhai sydd yn ein gofal o ddifrif a gall ceiswyr lloches gysylltu â'r llinell gymorth 24/7 sy'n cael ei rhedeg gan Migrant Help os oes ganddyn nhw unrhyw broblemau.

"Rydyn ni'n cryfhau ein system loches i'w gwneud hi'n gadarn ac yn deg.

"Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth fydd yn atal cam-drin y system wrth sicrhau ei bod yn dosturiol tuag at y rhai sydd angen ein help, gan groesawu pobl trwy lwybrau diogel a chyfreithiol."