Dim Jac yr Undeb uwchben adeiladau Cyngor Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud na fydd yn cydymffurfio ag "unrhyw orchymyn o San Steffan" i hedfan Jac yr Undeb o'i adeiladau wrth i'r ddadl barhau ynghylch lle Cymru o fewn y DU.
Mae cais llwyddiannus Llywodraeth y DU i osod baner Jac yr Undeb wyth llawr o uchder ar eu swyddfeydd newydd yng nghanol Caerdydd wedi tanio dadl dros hunaniaeth a chenedligrwydd.
Ond mewn ymateb i gwestiwn yn ystod cyfarfod y cyngor llawn ddydd Iau, fe gadarnhaodd aelod o gabinet Cyngor Gwynedd nad oes cynlluniau i hedfan baner yr Undeb o'u hadeiladau er gwaethaf canllawiau newydd Llywodraeth y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: "Rydym yn hedfan Y Ddraig Goch yn falch ar holl adeiladau'r cyngor a ni fydd yr un gorchymyn o San Steffan nag unrhyw le arall yn newid hynny."
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd eu hysgrifennydd diwylliant, Oliver Dowden y byddai'r faner yn hedfan bob dydd ar safle pob adeilad Llywodraeth y DU yn Lloegr, Cymru a'r Alban fel "atgoffâd balch o'n hanes a'r clymau sy'n ein rhwymo".
Wedi hynny fe ysgrifennodd Ysgrifennydd Llywodraeth Leol San Steffan, Robert Jenrick, at holl gynghorau Lloegr yn gofyn iddyn nhw gyhwfan Jac yr Undeb "fel arwydd o'n hunaniaeth leol a chenedlaethol".
'Cynllun i danseilio ein hunaniaeth'
Mae cymhellion Llywodraeth y DU yn "ddigywilydd", yn ôl y Cynghorydd Owain William - arweinydd grŵp Llais Gwynedd o fewn Cyngor Gwynedd.
Gofynnodd am gadarnhad na fyddai'r cyngor yn newid yr arfer cyfredol o hedfan y Ddraig Goch uwchben Siambr Dafydd Orwig, sy'n rhan o'r pencadlys yng Nghaernarfon.
"Dwi'n amharod i'n gweld yn derbyn hyn ac yn teimlo y dylen ni fynegi ein digalondid ynghylch yr hyn sy'n cael ei gynnig," meddai Mr Williams.
"Megis rhan fach yw hyn o gynllun San Steffan i danseilio ein cenedligrwydd a'n hunaniaeth. Gofynnaf i chi bod y cyngor yn cysylltu â swyddfa Prif Weinidog y DU a mynnu ymddiheuriad am bardduo ein cenedl."
Atebodd Nia Jeffreys, yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am gefnogaeth gorfforaethol: "Mae yna ganllawiau ac anogaeth i hedfan baner yr undeb, ond rydan ni'n gyfrifol am bolisi fflagiau eu hunain.
"Yn ddiweddar, roedd yna alw am Ddiwrnod y DU, ac i ysgolion ganu cân yn clodfori'r undeb a chryfder yr undeb.
"Dwi'n ddiolchgar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am y syniad, ar yr un diwrnod, i blant ganu Hen Wlad fy Nhadau, gydag ysgolion ar draws Gwynedd yn cymryd rhan yn dilyn anogaeth gan ein hadran addysg.
"Dwi'n credu ein bod yn gwneud popeth posib fel cyngor i hybu ein diwylliant a'n cenedligrwydd Cymreig."
Mae'r cyngor wedi denu beirniadaeth yn y gorffennol am hedfan baner sy'n cynnwys Jac yr Undeb, yn lle'r Ddraig Goch, i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Roedd yna ddadl ymhlith cynghorwyr yn Ynys Môn hefyd yn 2017 yn ystod ymgais aflwyddiannus i hedfan Baner yr Undeb ynghyd â'r Ddraig Goch a baner y cyngor ei hun gydol y flwyddyn.
Dan bolisi cyfredol Cyngor Gwynedd, dim ond ar ddiwrnod angladd aelod o'r Teulu Brenhinol y mae angen codi baner yr Undeb, a hynny wedi ei hanner-gostwng.
Mae fflagiau eraill, gan gynnwys rhai LHDT, Owain Glyndŵr a'r Cenhedloedd Unedig yn cael eu hedfan ar ddiwrnodau penodol.
Cafodd baner Yes Cymru ei gweld uwchben y siambr yn 2019 wedi'r bleidlais gyntaf gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru i gefnogi annibyniaeth i Gymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018