Gêm gyfartal galed rhwng Cymru a'r Ariannin

  • Cyhoeddwyd
Cais Tomos WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cais Tomos Williams, a ddaeth i'r maes fel eilydd yn yr ail hanner

Methodd Cymru gyfle i gipio buddugoliaeth funud olaf yn erbyn 14 dyn Yr Ariannin ar ôl treulio rhan helaeth o'r gêm yn ceisio cau'r bwlch rhwng y ddau dîm.

20-20 oedd y sgôr wedi i gic gosb yr eilydd Jarrod Evans wyro heibio ochr anghywir y postyn wedi 80 munud o chwarae.

Roedd hynny wedi geisiau gan Will Rowlands a Tomos Williams yn yr ail hanner ddod â Chymru'n gyfartal.

Methodd y gwrthwynebwyr dair gic gosb hefyd yn ystod y gêm. Bydd y ddwy ochor yn cwrdd eto ar gyfer yr ail gêm brawf yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Yn ôl y disgwyl roedd hi'n gêm galetach o lawer yn Stadiwm Principality na'r fuddugoliaeth yn erbyn Canada y penwythnos diwethaf.

Fe ddechreuodd y gêm gyda chwarae bywiog ac agored, gan gynnwys rhediad addawol drwy amddiffyn y gwrthwynebwyd gan Aaron Wainwright.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Arweiniodd sgrym gyntaf y prynhawn at gic gosb i Gymru ond fe aeth ymdrech Callum Sheedy, o 40 llath, ochr anghywir y postyn pellaf.

Ond fe lwyddodd Nicolas Sanchez pan ildiodd Wainwright gic gosb i'r Ariannin gan sicrhau pwyntiau cyntaf yr ornest.

O fewn dim roedd Cymru'n gyfartal. Troseddodd Rodrigo Bruni drwy gamsefyll, ac roedd y gic gosb yn un syml i Sheedy.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd yn y munudau canlynol cyn i Wainwright orfod gadael y maes gydag anaf i'w goes. Daeth Josh Turnbull ymlaen yn ei le, ac o fewn munud roedd angen cyfraniad gwerthfawr ganddo i atal ymosodiad gan yr Ariannin.

Ychydig funudau'n ddiweddarach, roedd Cymru, am y tro cyntaf, ar y blaen - unwaith yn rhagor oherwydd cic gosb gan Sheedy.

Roedd yna drobwynt anarferol wedi 28 munud o chwarae wrth i'r dyfarnwr ddanfon dau brop - Dillon Lewis a'r Archentwr Nahuel Tetaz - i'r gell gosb wedi trafferthion yn y sgrym.

Bu'n rhaid i'r ddau dîm wneud newidiadau a daeth Leon Brown ymlaen yn lle Turnbull.

Funud yn ddiweddarach roedd yr Ariannin i lawr i 13 dyn, wedi i ben Juan Cruz Mallia daro pen Kieran Hardy wrth ei herio. Fe welodd Mallia gerdyn coch wedi a bu'n rhaid i Hardy gael triniaeth.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Juan Cruz Mallia'n cael ei hel o'r maes

Roedd yna gyfle i Gymru geisio elwa o'r un chwaraewr ychwanegol ond roedd yna enghreifftiau o ildio meddiant a chamgymeriadau, ac fe ddechreuodd yr Ariannin reoli'r chwarae'n well na'r tîm cartref.

Ildiodd Cymru gic gosb trwy gamsefyll, ac fe wnaeth Sanchez unioni'r sgôr.

Colli momentwm wnaeth ymosodiad gan Gymru wedi rhediad addawol gan y capten Jonathan Davies, cyn i Lewis a Chaparro ddychwelyd i'r cau o'r gell gosb a Turnbull ddychwelyd tan ddiwedd y gêm yn lle Wainwright.

Wrth i'r hanner cyntaf ddirwyn i ben fe sgoriodd yr Ariannin gais cyntaf y gêm wrth i Pablo Matera dirio. Llwyddodd Sanchez gyda'r trosiad ac roedd Cymru ar ei hôl hi 6-13 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cais Pablo Matera

Ar ddechrau'r ail hanner roedd Cymru unwaith yn rhagor yn ymosod yn addawol, gan golli momentwm tu hwnt i linell 22 y gwrthwynebwyr.

Ond wedi 46 munud o chwarae, roedd yr Ariannin wedi ymestyn y bwlch. Ar ôl cipio'r bêl o'r sgrym fe garlamodd Sanchez a phasio'n daclus i Jeronimo De La Fuente a sgoriodd cais campus.

6-20 oedd y sgôr wedi i Sanchez drosi.

Daeth Cymru'n agos ar daro'n ôl yn syth ond cafodd yr asgellwr Owen Lane ei atal ger y llinell gan amddiffyn Ariannin.

Roedd Tomos Williams a Jarrod Evans wedi dod ymlaen yn lle Hardy a Sheedy wedi ail gais Ariannin, ac roedd y ddau wedi gwneud gwahaniaeth o fewn munudau wrth i flaenwyr Cymru geisio cynyddu'r pwysau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Pas Williams wnaeth ryddhau'r clo Will Rowlands i sgorio cais - ei ail i Gymru, wedi iddo dirio yn erbyn Canada penwythnos diwethaf. Gyda throsiad Evans roedd y bwlch wedi cau i 13-20.

Er eu bod un dyn yn brin, yr Archentwyr gafodd y gorau o'r chwarae am gyfnodau, yn enwedig wrth i'r sgrym ddymchwel, er ambell ymdrech gan Gymru.

Ond yna fe lwyddodd Cymru i droi pwysau'n bwyntiau. Fe welodd Tomos Williams fwlch yn amddiffyn yr Ariannin, gan newid cyfeiriad i'r ochr dywyll a sicrhau ail gais Cymru.

Trosodd Evans eto ac roedd y sgôr, gydag wyth munud o chwarae yn weddill, yn 20-20.

Yn fuan wedi'r cais, fe ildiodd Cymru gic gosb hwyr, ond aflwyddiannus oedd ymgais Domingo Miotti.

Roedd y munudau nesaf yn llawn tensiwn ond yna roedd yna gyfle funud olaf i Gymru gipio'r fuddugoliaeth pan ildiodd yr Ariannin gic gosb.

Ond er cystal oedd ymdrech Jarrod Evans, o gryn bellter, agos ond aflwyddiannus oedd y gic, ac fe darodd yr Ariannin y bêl dros yr ystlys i ddod â'r gem i ben.

Y cefnwr Hallam Amos gafodd ei enwi'n seren y gêm.

Cymru: Hallam Amos; Jonah Holmes, Willis Halaholo, Jonathan Davies (capten), Owen Lane; Callum Sheedy, Kieran Hardy; Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Tomos Williams, Jarrod Evans, Nick Tompkins.