Dyn wedi marw ar ôl 12 achos o orddos yn ardal Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty TreforysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 12 gorddos wedi eu cofnodi yn yr ardal ers dydd Mercher, medd y bwrdd iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cadarnhau bod person wedi marw yn dilyn cyfres o achosion o orddos cyffuriau yn yr ardal.

Dywed y bwrdd bod 12 achos o'r fath wedi eu cofnodi ers dydd Mercher, gan arwain at rybudd o'r newydd i bobl fod yn ymwybodol o beryglon cyffuriau.

Roedd y bwrdd wedi mynegi pryder bod tabledi gorbryder ffug wedi achosi i nifer o bobl yn ardal Abertawe orfod mynd i'r ysbyty'n ddifrifol wael.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i farwolaeth "heb esboniad" dyn yn ardal Waun Wen y ddinas ddydd Sadwrn.

'Testun pryder mawr'

Dywed datganiad y bwrdd: "Er rhybudd cychwynnol i bobl ynghylch cysylltiad posib rhwng y gorddosau a thabledi gwrth-gorbryder ffug, nid yw'n glir eto beth sydd wrth wraidd yr achosion ac fe ellir fod yn sgil cyffuriau eraill."

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y bwrdd, Keith Reid: "Hoffwn i gydymdeimlo'n ddiffuant â theulu a ffrindiau'r person sydd wedi marw,"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bwrdd wedi amau yn y lle cyntaf fod cysylltiad rhwng y gorddosau â thabledi sy'n cael eu gwerthu'n anghyfreithlon

"Mae'n bwysig ein bod yn gweld defnydd cyffuriau yn bennaf fel problem iechyd cyhoeddus a chydnabod y gwir effaith ar unigolion a theuluoedd yn ein cymunedau.

"Mae'r nifer hyn o orddosau mewn cyfnod mor fyr yn destun pryder mawr, a dydyn ni ddim yn gwybod yn glir eto pa gyffur neu gyffuriau sydd wrth wraidd y sefyllfa.

"Felly rydym yn cynghori pobl i fod yn bwyllog eithriadol. Os rydych chi'n defnyddio cyffuriau, byddwch yn wirioneddol bwyllog - yn enwedig os rydych wedi newid cyflenwr yn ddiweddar neu wedi cael cynnig cyffur newydd."

'Cadw meddwl agored'

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i farwolaeth "heb esboniad" wedi i swyddogion gael eu galw i ardal Waun Wen, Abertawe ddydd Sadwrn.

Pwysleisiodd yr heddlu bod dim cadarnhad hyd yn hyn ynghylch achos y farwolaeth.

"Ar hyn o bryd rydym yn cadw meddwl agored," medd eu datganiad.

"Ond dylai pobl bob amser fod yn eithriadol o bwyllog, dilyn cyngor GIG Bae Abertawe, ac annog eu cyfoedion i wneud yr un peth."

Pynciau cysylltiedig