Heriau'n debygol pe bai cais i godi tâl ar Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o gopa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o gopa mynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa

Mae yna rybudd y byddai unrhyw ymgais i godi tâl ar bobl i fynd ar Yr Wyddfa'n arwain ar heriau cyfreithiol.

Cafodd y syniad gefnogaeth gan gynghorwyr Gwynedd fis Hydref y llynedd mewn ymateb i'r niferoedd a ymwelodd ag Eryri wedi i gyfyngiadau teithio gael eu llacio.

Ond yn ôl prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mae yna sawl cytundeb mynediad agored na ellir eu tynnu'n ôl.

Dywedodd Emyr Williams wrth Gyngor Gwynedd y byddai unrhyw fath o drefn codi tâl am gael mynediad i'r Wyddfa yn gosod cynsail o ran hawliau tramwy cyhoeddus.

"Byddai, yn ddiamod, yn arwain at her gyfreithiol sylweddol a difrifol ar lefel genedlaethol," fe rybuddiodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd meysydd parcio Eryri eu cau yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Ers mis Ebrill, mae angen archebu lle parcio o flaen llaw cyn ymweld â Phen-y-Pass a defnyddio'r system parcio a theithio.

Daeth y drefn i rym er mwyn osgoi'r trafferthion a gododd y llynedd pan ymwelodd niferoedd enfawr â'r ardal pan godwyd cyfyngiadau ar deithio.

Cafodd cannoedd o ymwelwyr ddirwyon am barcio'n peryglus ar hyd y ffordd i Ben-y-Pass.

Cyflwyno deiseb enwau Cymraeg yn unig

Daw'r rhybudd wrth i fwy na 5,000 o bobl arwyddo deiseb yn galw am beidio defnyddio enw Saesneg y mynydd, Snowdon, ac i ddefnyddio Eryri yn unig ar gyfer yr ardal ehangach.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno'r ddeiseb, sydd wedi denu cefnogwyr o wahanol rannau o'r byd.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sefydlu gweithgor i ystyried ei bolisi ar enwau llefydd yng Nghymru.

Dywedodd Elfed Wyn ap Elfyn o Gymdeithas yr Iaith: "Mae ymosodiadau ar y Gymraeg yn gyson... mae i'w weld wrth newid enwau tai a gwahanol ardaloedd o Gymru [i rai Saesneg].

"Rydw i a llawer o bobol eraill yn meddwl y byddai defnyddio'r enwau 'Eryri' ac 'Yr Wyddfa' yn unig yn gam positif at ddangos pwysigrwydd y Gymraeg."

Dywed cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Wyn Ellis Jones bod yna "ymroddiad i warchod a hybu'r defnydd o enwau llefydd cynhenid o ddydd i ddydd ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol".