Ymestyn cynllun cymorth hunan-ynysu Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIGFfynhonnell y llun, GIG

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ymestyn cynllun cymorth sydd yn cefnogi pobl ar gyflogau isel os oes yn rhaid iddynt hunan-ynysu hyd at fis Mawrth 2022.

Cafodd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunan-ynysu ei sefydlu ym mis Tachwedd 2020 i helpu pobl i oresgyn yr ergyd ariannol o ganlyniad i gyfnod o hunan-ynysu drwy roi £500 iddynt.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i unrhyw un sydd yn cael eu hysbysu gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru aros gartref am 10 diwrnod - hyd yn oed os nad ydynt yn profi'n bositif am Covid-19.

Mae'r cynllun cymorth yn cefnogi pobl sydd ddim yn gallu gweithio o adref, yn ogystal â rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant yn hunan-ynysu.

Hyd yn hyn, mae dros 13,200 o daliadau cymorth wedi cael eu rhoi i bobl ers mis Tachwedd 2020.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Mae'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu wedi rhoi cefnogaeth werthfawr i bobl sydd wedi cael prawf positif, a'r bobl sydd wedi dod i gysylltiad â nhw, drwy ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth.

"Mae'n bwysig parhau i fuddsoddi er mwyn inni allu helpu'r rheini sydd â'r angen mwyaf."