Diffyg asesiadau risg Covid yn 'peryglu gweithwyr Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr o Gymru yn cael eu "rhoi mewn perygl" oherwydd diffyg gallu i orfodi asesiadau risg Covid, yn ôl undeb.
Ddydd Mercher, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai'r mwyafrif o gyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn dod i ben ar 7 Awst.
Ond bydd asesiadau risg yn y gweithle, sy'n gofyn am ymgynghori â gweithwyr, yn parhau i fod yn orfodol yn gyfreithiol i gyflogwyr ar ôl hynny.
Dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, fod rhai cyflogwyr yn methu â chynnal asesiadau risg.
"Mae ein hymchwil - a gynhaliwyd yn annibynnol gan YouGov - wedi dangos yn gyson nad yw llawer o weithleoedd yng Nghymru yn gwneud asesiadau risg," meddai.
"Dim ond 47% o weithwyr Cymru sy'n dweud bod gan eu cyflogwr asesiad risg mewn lle.
"Er ein bod yn croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog ddoe, ein pryder yw nad oes gan Lywodraeth Cymru a'r cyrff gorfodi perthnasol y gallu i fonitro a yw bosys yn dilyn rheoliadau Covid ar asesiadau risg - ac o ganlyniad mae gweithwyr yn cael eu peryglu."
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiad ag asesiadau risg Covid.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Er bod capasiti yn parhau i fod yn broblem i wasanaethau amddiffyn y cyhoedd, bydd cynghorau'n parhau i gynghori a chefnogi busnesau yn rhagweithiol i ddatblygu asesiadau risg.
"Byddai cynghorau'n croesawu canllawiau clir i helpu i sicrhau bod y rheolau'n cael eu gweithredu'n gyson i amddiffyn iechyd a diogelwch staff a'r cyhoedd."
Wrth siarad yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford y byddai'n bwysig cadw rhai rheolau "er mwyn ein cadw ni i gyd yn saff", yn enwedig i bobl sydd fwyaf bregus.
"Bydd asesiadau risg coronafeirws yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes, cyflogwr a threfnwr digwyddiadau," meddai.
"Bydd angen gosod mesurau rhesymol mewn lle, yn seiliedig ar y risg sydd wedi'i ganfod."
Dywedodd llefarydd ar ran CBI Cymru fod "mwyafrif llethol y busnesau wedi mynd yn bell i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel ers i'r pandemig ddechrau a byddan nhw'n parhau i wneud hynny".
Anogodd y CBI unrhyw gyflogwr sydd heb gynnal asesiad risg Covid eto i wneud hynny drwy fynd ar wefannau coronafeirws Llywodraeth Cymru.
Y rheolau yn 'rhy ddryslyd'
Beirniadodd Ms Taj hefyd ganllawiau Llywodraeth Cymru am fod yn rhy gymhleth a gadael pobl yn ddryslyd ynghylch eu hawliau.
"Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb mawr yma," ychwanegodd.
"Ar hyn o bryd, mae cymaint o wahanol ddarnau o ganllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru nes ei bod yn anodd i weithwyr a chyflogwyr wybod sut i asesu risg yn y gweithle yn effeithiol.
"Yn syml, mae'n rhy ddryslyd ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gydag undebau ar frys i gynhyrchu canllawiau clir, hygyrch i sicrhau bod y rheoliadau asesu risg yn cadw pobl yn ddiogel."
Galwodd hefyd am gosbau clir i gyflogwyr sydd ddim yn dilyn y gyfraith.
"Mae angen i ni rymuso gweithwyr gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i amddiffyn eu hunain," meddai.
"Ac mae angen i gyflogwyr wybod eu cyfrifoldebau a gwybod y bydd canlyniadau os na fyddan nhw'n dilyn y rheolau."
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei ddweud?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau busnes ac undebau llafur, gan gynnwys TUC Cymru, i helpu i gadw gweithleoedd yn ddiogel a sicrhau bod arweiniad ac amddiffyniadau priodol ar gael.
"Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i bob busnes ac adeilad gynnal a gweithredu asesiad risg coronafeirws penodol ac i'r broses honno gynnwys ymgynghori â'r gweithlu.
"Mae awdurdodau lleol yn gorfodi rheoliadau iechyd cyhoeddus mewn perthynas ag adeiladau busnes, gan gynnwys ymchwilio i gwynion a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd a gweithwyr.
"Mae ganddyn nhw'r gallu i ddarparu cyngor rhagweithiol, cyhoeddi hysbysiadau gwella busnes, lle mae yna doriadau ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, hysbysiadau cau busnes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021