Llif y Dôn: 'Gig' i adlewyrchu gwefr perfformiadau byw
- Cyhoeddwyd
Wrth i ni obeithio bydd y sîn gerddoriaeth fyw yn dychwelyd dros y misoedd nesaf, mae Radio Cymru wedi lansio cyfres newydd o sesiynau a gigs - Llif y Dôn.
Y gobaith ydy adlewyrchu'r wefr o gael bod mewn gig unwaith eto, a chefnogi'r artistiaid talentog sy'n creu cerddoriaeth ar hyn o bryd.
Yn y 'gig' gyntaf, mae Los Blancos, Izzy ac Eady, Melin Melyn a Thallo wedi recordio perfformiadau arbennig yn stiwdios Maida Vale, Llundain a stiwdio Acapella yng Nghaerdydd.
Roedd cyflwynwyr rhaglenni cerddoriaeth nosweithiol Radio Cymru i gyd yn cael dewis artist neu fand yr hoffen nhw eu clywed yn recordio gig.
Dewis Huw Stephens oedd Melin Melyn; fe ofynnodd Sian Eleri am Thallo; dewisiodd Lisa Gwilym Los Blancos ac aeth Rhys Mwyn am Eadyth ac Izzy.
Erbyn hyn mae pob un o'r cyflwynwyr wedi chwarae'r sesiynau yn llawn gan eu hartistiaid ar eu rhaglenni.
Ond, nos Iau 15 Mehefin am 18:30 mae rhaglen arbennig efo uchafbwyntiau'r sesiynau i gyd fel petai'n gig efo'r holl fandiau.
Dywedodd Gwyn Rosser o Los Blancos: "Roedd yn eithaf swreal gan nad oedd 'na crowd. Ond fe wnaethon ni baratoi fel ei fod o'n gig byw.
"Roedd hi'n braf gallu ymarfer am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn a hanner ac wedyn cael chwarae yn Acapela, roedd o'n brofiad grêt," meddai.
Bydd modd gwylio'r gig yn llawn nos Iau, 15 Gorffennaf 2021 ar dudalen Facebook a Youtube BBC Radio Cymru.