Dydd Crysau T Bands Cymru: Y bobl sy'n dathlu dramor

  • Cyhoeddwyd
Tri person yn gwisgo crys t bandiau CymraegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae 12 Mehefin yn Ddydd Crysau T Bands Cymru - ond nid yng Nghymru yn unig fydd hoff grwpiau pobl yn amlwg.

Ar draws y byd mae 'na bobl heb unrhyw gysylltiad gyda gwlad y gân sydd wedi darganfod cerddoriaeth pop Cymraeg a disgyn mewn cariad - a dyma hoff grysau rhai ohonyn nhw.

Cofiwch ddefnyddio'r hashnod #dyddcrysautbandscymru i ddangos eich dewis chi.

Gisella Albertini - Turin, Yr Eidal

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Crys T y band gorau, ac anrheg gan Dave Datblygu yw hwn. Hoffwn i os fyddai o dal yma, cnawd ag esgyrn a sigarét, nid dim ond ei wyneb (fwy adnabyddus) ar ffabrig.

"Ond byddwn ni i gyd yn cofio fe, a'i eiriau a chaneuon am byth. Jyst fel il Grande Torino, oedd yn arfer chwarae yn y stadiwm y tu ôl i mi yn y llun yma."

Záhonyi László - Bwdapest, Hwngari

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Os awn ni drwy'r rhain efo'r cloc (llun isod)... y gynta' ydi Crys T Y Niwl, un o'r pethau cyntaf ges i wrth i mi ddechrau cefnogi'r band offerynnol surf rock unigryw yma - cyn i mi fynd ymlaen i gasglu eu holl CDs a recordiau.

"Y nesa. Ro'n i'n gwrando ar raglen radio Adam Walton rhywbryd a chlywed Hummingbird gan Trecco Beis - un o'r eiliadau prin hynny pan ti'n disgyn mewn cariad efo band yn syth heb wybod dim amdanyn nhw. Nes i fynd i Lundain i'w gweld nhw pan roedden nhw'n cefnogi El Goodo.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan László grys i bob dydd o'r wythnos, a rhai dros ben

"Fy ngwraig sydd biau'r nesa - ond fi wnaeth drosglwyddo'r angerdd am gerddoriaeth Cymraeg iddi hi.

"Mae'r un Ffa Coffi Pawb yn brawf nad o'n i wedi fy siomi pan nes i ymchwilio i gefndir y Super Furries.

"Mae'r un Manics yn arbennig i mi - dod o hyd iddo mewn siop ddillad ail law yn Budapest am bris can o gwrw.

"Ges i'r un Honey All Over pan es i draw i Vienna i glywed Gruff Rhys ac Y Niwl mewn gig yno.

"Efo'r un nesa, wnaeth John Mouse a Papur Wal chwarae gig bythgofiadwy yn Budapest pan wnaeth Cymru chwarae yng ngêm ragbrofol yr Ewros yma yn 2019. Wnes i drefnu lleoliad iddyn nhw a benthyg yr holl offerynnau noson cyn y gêm. Ges i'r crys T gan John ac mi rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad byth er hynny.

"Crysau SFA ydi'r tri olaf, fy mand Cymraeg cyntaf, a'r ffefryn mae'n siŵr. Ddechreuodd bob dim trwy ddamwain. Tua'r flwyddyn 2000 ro'n i mewn i fiwsig grunge ac yn chwilio am albym Soundgarden yn y llyfrgell - ond doedd ddim yno. Felly nes i ddewis yr un nesaf iddo yn y rhes yn nhrefn y wyddor, a benthyg CD y Super Furry Animals yn lle. Mae'r gweddill yn hanes."

Lindsay Manko - Pittsburgh, Yr Unol Daleithiau

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Dwi'n caru bandiau annibynnol Cymraeg ac un o'r rhai cyntaf i fi ddisgyn mewn cariad â nhw oedd Radio Luxembourg/Race Horses, yn nyddiau cynnar MySpace. Dwi wrth fy modd efo'u sŵn pop seicadelic, yn enwedig pan maen nhw'n canu'n Gymraeg!

"Nes i deithio i Brydain sawl gwaith i'w gweld nhw'n chwarae'n fyw. Ges i'r Crys T yma yn Llundain yn ystod eu taith Goodbye Faulkenberg pan oeddwn i wedi fy nal yno oherwydd y ffrwydrad folcanig anferth yng Ngwlad yr Iâ yn 2010!"

David Waring - Fife, Yr Alban

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Nes i glywed Y Niwl am y tro cynta' pan wnaethon nhw gefnogi Gruff Rhys ar un o'i deithiau cynta' ar ben ei hun. Ro'n i'n hoffi eu steil nhw ac yn meddwl eu bod nhw'n gerddorol.

"Dwi wrth fy modd efo cerddoriaeth offerynnol ac wedi tyfu fyny yn gwrando ar The Shadows wrth fynd yn y car efo Dad. Mae tiwns Y Niwl efo alawon grêt sy'n aros yn dy ben.

"Dwi wedi eu gweld nhw sawl gwaith ac maen nhw'n swnio'n wych yn fyw. Y Niwl ydi un o fy hoff fandiau Cymraeg o hyd."

Hefyd o ddiddordeb:

Dathlu Dydd Crysau T Bands Cymru 2020

Llif y Dôn: 'Gig' i adlewyrchu gwefr perfformiadau byw

Oriel luniau: Gigs Tŷ Nain

Pynciau cysylltiedig